Agenda item

·         Cynnig Prifysgol Bangor ‘Re-connect’.

·         Ymateb llythyr gan Kirsty Williams.

Cofnod:

CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR –‘RE-CONNECT’:

Mynegodd y Cynghorydd Menna Baines, ddiddordeb yn y newidiadau sydd ar droed yn yr Adran Addysg yn y Brifysgol ym Mangor. Materion sy’n creu pryder yn y Sir am ddyfodol hyfforddi athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yng Ngwynedd. 

 

Ymatebodd y Cadeirydd bod y wybodaeth bellach yn gyhoeddus a bod ymddiswyddiadau athrawon yn dilyn yn brifysgol, bydd hyn yn cael effaith mawr ar Addysg yn gyffredinol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Nododd y Cadeirydd, mae yn y cyfarfod diwethaf gofynnwyd am ystadegau ar nifer o ddisgyblion yn y Sir sydd yn sefyll TGAU a lefel A, mewn Addysg Grefyddol.  Mae posibilrwydd o ddefnyddio'r ystadegau hyn i fedru monitro a chael gweld y nifer o fyfyrwyr a all symud ymlaen i ddilyn y pwnc i addysgu.

 

Gweler yr ystadegau isod:

 

Coleg Meirion Dwyfor   (Haf 2018)

 

Lefel                                   A                            AS

Pwllheli                                3 (1 Cym)             5 (3 Cym)

Dolgellau                             0                              1 (Saes)

Coleg Menai                       0                              0

 

 

 

Ysgolion Gwynedd  (Haf 2018)

AS

YSGOL Y BERWYN

8

YSGOL FRIARS

13

YSGOL TRYFAN

6

YSGOL DYFFRYN OGWEN

1

YSGOL SYR HUGH OWEN

8

YSGOL BRYNREFAIL

20

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

0

Awdurdod

56

 

 

 

 

 

 

 

Lefel A

YSGOL Y BERWYN

8

1 Saes

YSGOL FRIARS

7

7 Saes

YSGOL TRYFAN

9

 

YSGOL DYFFRYN OGWEN

1

 

YSGOL SYR HUGH OWEN

4

 

YSGOL BRYNREFAIL

8

 

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

2

 

Awdurdod

39

 

 

 

TGAU

YSGOL Y BERWYN

29

YSGOL FRIARS

112

YSGOL TRYFAN

6

YSGOL DYFFRYN OGWEN

9

YSGOL Y MOELWYN

19

YSGOL BOTWNNOG

11

YSGOL SYR HUGH OWEN

14

YSGOL BRO IDRIS

18

YSGOL ARDUDWY

0

YSGOL BRYNREFAIL

27

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

8

YSGOL EIFIONYDD

11

YSGOL GLAN Y MÔR

19

YSGOL UWCHRADD TYWYN

0

Awdurdod

283

TGAU byr

YSGOL Y BERWYN

1

YSGOL FRIARS

71

YSGOL TRYFAN

0

YSGOL DYFFRYN OGWEN

0

YSGOL Y MOELWYN

0

YSGOL BOTWNNOG

0

YSGOL SYR HUGH OWEN

0

YSGOL BRO IDRIS

0

YSGOL ARDUDWY

0

YSGOL BRYNREFAIL

0

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

0

YSGOL EIFIONYDD

34

YSGOL GLAN Y MÔR

0

YSGOL UWCHRADD TYWYN

0

Awdurdod

106

 

           

Mynegodd y Cadeirydd i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, yrru'r ystadegau hyn i’r Aelodau er gwybodaeth.

 

Nododd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Menna Baines, eu bod wedi ymweld â Joshua Andrews, a’i gydweithiwr yn y Brifysgol ym Mangor yn Rhagfyr 2018.   Gwaith yn dilyn ar ddarparu deunyddiau ar hyfforddi cyrsiau i athrawon o fewn y pwnc Addysg Grefyddol, wedi eu cwblhau yn y Gymraeg a Saesneg, roeddynt hefyd ar fin lansio gwefan gyda’r manylion. Maent wedi cysylltu â Phenaethiaid ysgolion uwchradd gyda’r wybodaeth yma, er mwyn i’r deunyddiau gael eu rhannu ymlaen i’r athrawon. 

 

PENDERFYNWYD:

Cadw golwg ar y mater gan adrodd yn nôl i’r pwyllgor yn Nhachwedd 2019.

 

 

YMATEB LLYTHYR KIRSTY WILLIAMS:

Ymateb i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyda chyfarwyddion gan y Gweinyddwr Addysg a Chadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â phryderon am ddiffyg deunyddiau adolygu yn y Gymraeg ar gyfer y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd.

 

Sylwadau a godwyd:

Nodwyd gan yr Aelodau bod y llythyr yn codi pryder, gan amlygu tri pwynt yn bennaf:

 

·         Menter fasnachol ydi cynhyrchu gwers lyfrau o’r Saesneg i’r Gymraeg. 

·         Mater i’r cyhoeddwyr yw penderfynu mentro creu adnodd neu beidio? 

·         Rwyf wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth o adnoddau perthnasol ac amserol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer ein dysgwyr?

 

Nid yw’r pwyntiau uchod yn ymateb cadarn i lythyr gwreiddiol yrrwyd gan Garem Jackson i Kirsty Williams.  Mae'r pwyntiau uchod yn cyfleu argraff ar yr Aelodau, ar pam mae'r dewis o amseru argraffu deunyddiau Cymraeg yn benderfyniad i’r cyhoeddwyr?

 

 

PENDERFYNWYD:

Ysgrifennu yn ôl at Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg yng Nghymru, y Gweinidog Cysgodol Sian Gwenllïan (Aelod Seneddol dros Arfon).  Gofynnwyd y pwyllgor i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG ysgrifennu at y rhain gan gyfleu ein pryder fel pwyllgor statudol ar yr ymateb a gafwyd.

 

Ychwanegwyd bod angen dychwelyd y llythyr i’r Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi gan nodi'r pryderon a godwyd yng nghyfarfod y pwyllgor hwn.

 

Dogfennau ategol: