Agenda item

Estyniadau yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniadau yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn y tŷ deulawr presennol yn y cefn ac yn y blaen.  Byddai’r estyniad cefn yn estyniad deulawr a’r estyniad blaen yn cael ei godi uwchben y modurdy presennol gydag edrychiadau allanol yr estyniadau yn cyd-weddu gyda edrychiadau presennol y tŷ deulawr.

 

O ran egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod Polisi PCYFF2 o’r CDLL yn datgan y byddai cynigion yn cael eu gwrthod os byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol. Amlygwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y byddai cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio â nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa ac yr uchder. Ystyriwyd bod y bwriad i ymestyn yr eiddo preswyl yn dderbyniol mewn egwyddor ac na fyddai gosodiad, ffurf, deunyddiau, graddfa a dyluniad yr estyniadau yn creu strwythurau anghydnaws na gormesol yn y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau preswyl a’u gerddi preifat wedi eu lleoli i’r gorllewin (31 Bryn Eithinog) ac i’r gogledd (26 Lon y Bryn) gyferbyn a safle’r cais. Adroddwyd bod gwrthwynebiad gan breswyliwr rhif 31 Bryn Eithinog wedi ei dderbyn ar sail:-

 

·         Colli golau drwy greu strwythurau gormesol.

·         Colli preifatrwydd a gor-edrych i eiddo a adnabyddir fel 31 Bryn Eithinog.

·         Creu trafnidiaeth ychwanegol.

·         Amharu ar gymeriad yr ardal.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o golli preifatrwydd a gor-edrych eglurwyd bod yr  estyniadau wedi eu dylunio i osgoi unrhyw or-edrych uniongyrchol i mewn i eiddo cyfagos (31 Bryn Eithinog a 26 Lon y Bryn yn y cyswllt yma), ac felly, ystyriwyd na fyddai’r bwriad fel y’i cyflwynwyd yn golygu gor-edrych a cholli preifatrwydd i breswylwyr cyfagos.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o greu trafnidiaeth ychwanegol, eglurwyd bod yr  eiddo eisoes yn dŷ 4 llofft ac nad oedd bwriad i ymestyn  niferoedd y llofftydd o fewn y tŷ. O ganlyniad, nid oedd y Swyddogion Cynllunio yn rhagweld y byddai cynnydd yn nhrafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth bryderon ynglŷn â diogelwch ffyrdd na gofynion parcio ac felly'r bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLL.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o amharu ar gymeriad yr ardal, adroddwyd bod yr ardal gyfagos yn cynnwys casgliad amrywiol o wahanol fathau o anheddau preswyl ar sail edrychiadau, graddfa, ffurf a dyluniadau gyda nifer ohonynt eisoes wedi eu hymestyn a’u newid yn y gorffennol.  O gwblhau’r asesiad, ystyriwyd na fyddai’r estyniadau yn creu strwythurau gormesol nac anghydnaws yn y rhan yma o’r strydlun.

 

Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod sylwadau wedi eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori  nad oeddynt yn faterol i gynllunio. Roedd rhai yn honni’r posibilrwydd y byddai’r tŷ yn cael ei droi i dŷ amlfeddiannaeth. Pwysleisiwyd bod y cais wedi ei gyflwyno ar sail codi estyniadau i dŷ preswyl Defnydd Dosbarth C3 yn hytrach nag ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth Defnydd Dosbarth C4.  Mewn ymateb i’r pryder hwn, cysylltwyd gydag asiant yr ymgeisydd a chadarnhaodd yn ysgrifenedig nad oedd y bwriad yn ymwneud a newid defnydd o dŷ (C3) i dŷ amlfeddiannaeth (C4).  Ategwyd bod y tŷ yn cael ei osod i fyfyrwyr ac o’r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno bod y tŷ yn cael ei ddefnyddio fel tŷ amlfeddiannaeth.

 

            Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol a’r sylwadau a dderbyniwyd gan gynnwys yr ohebiaeth yn gwrthwynebu ystyriwyd bod y cais yma yn dderbyniol ar sail egwyddor, dyluniad, lleoliad, gosodiad, defnydd, deunyddiau, mwynderau preswyl, mwynderau gweledol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

(b)  Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-`

·         Tynnwyd sylw bod cais gwreiddiol gan yr ymgeisydd i adeiladu tŷ cyfan yng ngardd y tŷ

·         Mai tŷ myfyrwyr yw’r eiddo - nid tŷ teulu yw’r defnydd presennol

·         Bod mwy o dai myfyrwyr yn ‘ymlusgo’ i’r ardal breswyl yma - pwrpas y tai yn wreiddiol oedd ar gyfer teuluoedd

·         Awgrym i’r Pwyllgor ystyried y cais yn wyneb pryderon trafnidiaeth a gôr ddarpariaeth tai myfyrwyr

 

(c)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd y tŷ presennol ar angen am ddiffiniad clir o’r gwahaniaeth rhwng tŷ myfyrwyr a thŷ amlfeddiannaeth, amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod yr eiddo wedi cael ei asesu ar gyfer y cais fel tŷ. Ategwyd mai defnydd cyfreithiol  yr eiddo yw tŷ ac nad oedd tystiolaeth i amau mai tŷ amlfeddiannaeth ydoedd. Petai’r ymgeisydd eisiau newid defnydd y tŷ i dŷ amlfeddiannaeth byddai rhaid gwneud cais cynllunio o’r newydd a chais am drwydded berthnasol. Nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod yr asiant wedi cadarnhau mai defnydd y tŷ yw tŷ ac nid tŷ amlfeddiannaeth. Mewn ymateb pellach i’r pryderon, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio y byddai modd ymchwilio i’r honiad o ddefnydd y tŷ presennol.

 

Ategodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd gwrthod y cais ar sail ei fod, efallai yn dŷ amlfeddiannaeth yn dderbyniol, ac ategodd bod trefniadau gorfodaeth yn bodoli tu allan i fforwm y Pwyllgor Cynllunio. Nododd bod angen i’r  Pwyllgor ystyried y  cais fel estyniad i dŷ ac y dylai’r Aelodau ymddiried yn y broses orfodaeth i ymdrin â’r mater amlfeddiannaeth.

 

Mewn ymateb i’r pryderon trafnidiaeth, amlygwyd bod llefydd parcio digonol tu allan i’r tŷ ynghyd â chwrtil digonol o flaen yr eiddo ar gyfer parcio.

 

(d)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         bod ymgais i fuddsoddi er mwyn gwneud y tŷ yn fwy cyfforddus yn codi amheuon  bod y tŷ ar gyfer defnydd busnes

·         Bod sylwadau a thystiolaeth cymdogion o ddefnydd y tŷ presennol angen eu hystyried

·         Bod y wybodaeth yn aneglur

·         Bod angen i’r gwaith fod yn unol â’r cynlluniau

 

PENDERFYNWYD caniatau y cais ac i gynnig amod i archwilio defnydd presennol y tŷ

 

Amodau

1.  5 mlynedd.

2.  Yn unol â’r cynlluniau.

3.  Llechi naturiol.

 

Dogfennau ategol: