Agenda item

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith.

Diweddaru ar gynnydd prosiectau unigol.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd, oherwydd yr angen i neilltuo cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Mehefin ar gyfer cyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, y cynhelid cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd ar 28 Mehefin i drafod materion eraill o bwys sy’n rhan o’r rhaglen waith.

 

Nodwyd, yn sgil cyflwyno’r achosion busnes amlinellol ar gyfer y prosiectau unigol, y cafwyd adborth cychwynnol positif gan y ddwy lywodraeth ac na ragwelid unrhyw rwystrau ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at gyfarfodydd penodol gydag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Kevin Foster, yr Is-weinidog, a nodwyd bod y cyfarfodydd hynny wedi bod yn adeiladol ac yn bositif, gyda’r dyhead i gyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn mis Gorffennaf wedi’i amlygu’n gryf.  Nodwyd bod y berthynas gyda gweision sifil y ddwy lywodraeth yn gryf iawn hefyd, gyda chydweithio agos yn digwydd ar lefel swyddogion.

 

Nodwyd y cynhelid cyfarfod gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos ganlynol.  Yn y cyfarfod hwnnw, byddai’r Cadeirydd yn cyfleu’r dymuniad i’r ddeialog wleidyddol fod yn un fwy cyson er sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd ar goll yn y trafodaethau.

 

Rhoddwyd sicrwydd y byddai Penawdau’r Telerau yn ymgorffori’r 14 prosiect yn y Cynllun Twf.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad blaenorol y Bwrdd i gyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu'r cyrff unigol, a gofynnwyd am gynnwys cyfeiriad at hynny yn y categori ‘Llywodraethu’ o’r rhaglen waith.

 

Nodwyd bod angen cynnwys bloc ychwanegol yn y tabl ynglŷn â GA2, yn nodi’r amserlennu o ran y sefydliadau, ayb.  Mewn ymateb, eglurwyd bod hynny wedi’i gynnwys o dan y categori ‘Cyfreithiol a Chaffael’, ond efallai bod angen amlygu’r risgiau yn gliriach.  Nodwyd hefyd bod GA2 yn rhan o’r cytundeb ehangach, a’i fod, felly, i lawr ar y cynllun.

 

Gan gyfeirio at y Prosiect Morlais, awgrymwyd bod angen nodi yn y golofn ‘sylwadau eraill’ bod y rhanbarth yn colli’r £21m a gadarnhawyd o Ewrop gan fod yr arian hwnnw yn gorfod cael ei ddychwelyd.  Mewn ymateb, eglurwyd y byddai cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn Gorffennaf yn rhoi digon o sicrwydd i Ewrop bod modd tynnu’r arian i lawr er mwyn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.

 

Nodwyd bod y llywodraethau wedi gofyn am achos busnes mwy manwl mewn perthynas â’r £40m ychwanegol a geisiwyd, ac y bwriedid cyflwyno’r wybodaeth honno iddynt erbyn diwedd yr wythnos ganlynol.

 

Eglurwyd bod y ddwy lywodraeth yn gweithio ar Benawdau’r Telerau ar hyn o bryd ac y gobeithid y byddai drafft o’r ddogfen ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gellid ei chylchredeg i aelodau’r Bwrdd a’i thrafod yn y cyfarfod nesaf.

 

Pwysleisiwyd bod rhaid cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn cychwyn gwyliau’r haf.  Mewn ymateb, nodwyd mai dyma’r neges sydd wedi, ac sy’n dal i gael ei chyfleu, i’r 2 lywodraeth.

 

Mynegwyd dymuniad y Bwrdd Cyflawni Busnes i gael mewnbwn i’r trafodaethau gyda’r ddwy lywodraeth er mwyn cynorthwyo’r broses.  Cadarnhawyd y byddai gan Gadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes rôl allweddol o ran hynny.

 

Dogfennau ategol: