Agenda item

I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Louise Hughes

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio o gais i gofrestru llwybr cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

Ymhelaethwyd ar gefndir y cais, nodwyd bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018, wedi penderfynu:

 

“Caniatáu’r cais i ychwanegu llwybr cyhoeddus i Fap a Datganiad Swyddogol y Cyngor fel y dengys gan A-B ar y cynllun a ddarperir yn Atodiad 1 i’r adroddiad yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:

 

·                     Bod defnydd  ar droed wedi digwydd dros gyfnod o ugain mlynedd rhwng 1942 hyd 1962;ac

·                     Nad oedd yr arwyddion am y cyfnod hynny, o’r tystiolaeth a gyflwynwyd, yn ddigon (gyfreithiol) effeithiol i atal y rhagdybiaeth godi bod y briffordd wedi cael ei neilltuo dan adran 31(1) Deddf Priffyrdd 1980, ac

·                     Yn benodol bod yr arwydd “Private Road” a welir yn y lluniau yn yr adroddiad wedi ei gyfeirio at gerbydau yn unig, ac nid oedd yna fwriad i atal cerddwyr rhag defnyddio’r llain.”

 

Eglurwyd bod y llwybr yn ei gyfanrwydd wedi ei ddangos ar y cynllun yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel A-B-C, roedd penderfyniad y Pwyllgor ar 25 Mehefin 2018 yn awdurdodi defnyddio gorchymyn i gofrestru rhan A-B. Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu pe dylid cofrestru’r llwybr a ddengys rhwng B a C ar y cynllun neu beidio. Nodwyd pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais i gofrestru rhan B-C, yna yn unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor, byddai gorchymyn yn cael ei lunio i gofrestru'r llwybr a ddengys fel A-B-C ar gynllun Atodiad 1.

 

Nodwyd bod tystiolaeth o ddefnydd o’r llwybr rhwng B a C wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a atgoffwyd yr aelodau bod angen tystiolaeth o ddefnydd dros gyfnod o ugain mlynedd. Tynnwyd sylw bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018 wedi penderfynu mai’r cyfnod a oedd yn berthnasol o ran rhan A-B oedd rhwng 1942 a 1962.

 

Ymhelaethwyd bod y rhan rhwng B a C yn dilyn llwybr yr hen dramffordd o Abermaw i Mawddach Crescent a’i fod yn werth nodi bod cryn newid yng nghyflwr y rhan yma a’i fod yn ddibynnol ar y llanw pe gellir cerdded ar ran ohono. Ychwanegwyd bod tystiolaeth a sail gref bod pobl wedi defnyddio’r llwybr ar ran B i C dros gyfnod o amser.

 

Rhoddwyd arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr, nododd bod y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais i gofrestru’r llwybr rhwng A a B fel llwybr cyhoeddus yn seiliedig ar y dystiolaeth o ddefnydd. Atgoffodd yr aelodau yn wahanol i’r llwybr rhwng A a B nid oedd unrhyw arwyddion ar y llwybr rhwng B a C. Nododd bod yr un math o dystiolaeth o ddefnydd ar y llwybr rhwng B a C a’r llwybr rhwng A a B.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi bod yn broses hir, cyflwynwyd y cais i gofrestru’r llwybr yn Awst 2014. Ymhelaethodd bod defnydd hanesyddol o’r llwybr ers cyn bodolaeth Mawddach Crescent. Eglurodd ei bod yn adnabod Mrs Roberts, cyn perchennog Fegla Bach, ac mai’r unig wrthwynebiad oedd ganddi oedd i bobl gerdded ar fanc Fegla oherwydd ei phryder y byddai cwn yn cael ei gadael oddi ar dennyn. Nododd mi fyddai cymeradwyo’r cais i gofrestru’r llwybr rhwng B a C yn sicrhau parhad o’r llwybr rhwng A-B-C a’i bod yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r bwriad.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r cais.

 

Nododd aelod bod ganddo brofiad helaeth o gais tebyg a gymeradwywyd gan y Pwyllgor a alwyd i mewn ar apêl. Ymhelaethodd y cymerodd y broses flynyddoedd gyda gwrandawiad cyhoeddus yn hynod o ffurfiol a chymhleth gyda chymaint o dystiolaeth gan y naill ochr. Holodd pam cyfyngir y dystiolaeth o ddefnydd i’r cyfnod rhwng 1942 a 1962 o ystyried bod tystiolaeth o ddefnydd am y cyfnod rhwng 1906 a 2006.

 

Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr mai’r cyfnod prawf statudol o ddefnydd oedd ugain mlynedd o dderbyn gwrthwynebiad i’r defnydd. Ychwanegodd y Cyfreithiwr y gellir cyflwyno tystiolaeth bellach mewn ymchwiliad cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais i ychwanegu'r llwybr cyhoeddus i Fap a Datganiad Swyddogol y Cyngor fel y dengys gan B-C ar y cynllun yn Atodiad 1 yr adroddiad ar y sail fod y llwybr wedi cael ei ddefnyddio gan gerddwyr dros gyfnod o ugain mlynedd rhwng 1942 a 1962.

Dogfennau ategol: