Agenda item

Cais ol-weithredol i ddymchwel cegin a ystafell wydr is-safonol yng nghefn yr eiddo ac adeiladu estyniad cefn unllawr.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ôl-weithredol am gael dymchwel cegin ac ystafell wydr is-safonol y tu ôl i'r eiddo, ac adeiladu estyniad un llawr ar gefn yr adeilad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y cyflwynwyd y cais yn dilyn camau gweithredu gan yr Uned Gorfodaeth o ganlyniad i dderbyn cwyn ynghylch y datblygiad. Eglurwyd y cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol.

 

         Nodwyd yr ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad yn dderbyniol mewn egwyddor. Adroddwyd bod preswylwyr Rhif 25 wedi gwrthwynebu'r cais oherwydd pryderon yn ymwneud â cholli goleuni a gor-edrych ar eu heiddo o ganlyniad i ffenestr ochr yr estyniad.

 

         Eglurwyd bod y pryderon ynglŷn â'r ffenestr ochr wedi ei drafod â'r ymgeisydd cyn ac ers cyflwyno'r cais. Nodwyd er bod yr ymgeisydd wedi cynnig datrysiad, sef gosod gwydr cymylog a bleind parhaol, roedd y swyddogion o'r farn na fyddai’n ddatrysiad boddhaol gan y byddai canfyddiad o or-edrych yr un fath. Ni ystyriwyd y byddai'n briodol gosod amod cynllunio er mwyn mynnu bod y ffenestr yn cael ei chuddio â gwydr cymylog a bleind gan nad oedd yn debygol o fod yn bosib gorfodi'r amod.

 

         Adroddwyd y gofynnwyd i’r ymgeisydd ar sawl achlysur i flocio’r ffenestr yn barhaol ond bod yr ymgeisydd yn amharod i wneud hyn ac felly byddai’n amhriodol i osod amod i’r perwyl hyn, argymhellwyd mai’r unig ffordd i gael datrysiad i’r sefyllfa byddai i wrthod y cais oherwydd effaith andwyol y ffenestr ar breifatrwydd y tŷ cyfochrog.  

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y gwrthwynebydd ddim wedi byw yn yr eiddo ac yn rhentu ei dŷ allan;

·         Bod yr estyniad yn galluogi ei fam a oedd yn anabl i fyw gartref;

·         Bod ei fam wedi derbyn cyngor gan adeiladwr nad oedd angen am ganiatâd cynllunio a bod y ffenestr ar ochr yr estyniad yn dderbyniol;

·         Bod ei fam wedi derbyn llythyr gan yr Uned Gorfodaeth yn nodi bod angen tynnu’r ffenestr a’r angen i dderbyn caniatâd cynllunio. Bod ei fam yn poeni am y sefyllfa a'i fod yn cael effaith ar ei hiechyd;

·         Yn fodlon gosod gwydr cymylog a bleind parhaol ar y ffenestr yn ogystal ag adfer y ffens wreiddiol;

·         Gobeithio y gellir dod â’r mater i ben mor gynted â phosibl.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Fe fyddai’n drueni gwrthod y cais oherwydd sefyllfa’r ymgeisydd;

·         Deall pryder y swyddogion a ni fyddai’n bosib i’r eiddo cyfagos godi estyniad oherwydd lleoliad y ffenestr;

·         Dylid gofyn i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr ochr felly ni fyddai’r estyniad yn amharu ar breifatrwydd cymdogion.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod yr ymgeisydd wedi gwrthod blocio’r ffenestr ar sawl achlysur;

·         Dylid ystyried gofyn i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr unwaith yn rhagor cyn gwrthod y cais;

·         Byddai gwrthod y cais yn rhoi pwysau ar yr ymgeisydd i flocio’r ffenestr;

·         Dylid gohirio’r cais dan y cyfarfod nesaf er mwyn dod i gytundeb â’r ymgeisydd o ran blocio’r ffenestr;

·         Bod angen ystyried bod yr ymgeisydd yn hŷn ac yn anabl a byddai derbyn llythyr gan y Cyngor o ran dymchwel yr estyniad o bosib yn sioc iddi;

·         Ddim yn gefnogol yn arferol i ganiatâd ôl-weithredol ond ei fod yn edrych yn debyg bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor anghywir gan adeiladwr. Roedd gofyn i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr yn gais rhesymol;

·         Bod angen ystyried yr effaith hirdymor ar yr eiddo cyfagos o ran mwynderau a’i fod yn atal yr eiddo cyfagos i godi estyniad. Mi fyddai’n anodd gorfodi bod gwydr cymylog a bleind parhaol ar y ffenestr. Dylid bod yn gadarn a gwrthod y cais oherwydd yr effaith andwyol ar drigolion yr eiddo cyfagos i’r dyfodol;

·         Dylid gwrthod y cais gan roi 2 fis i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod yr ymgeisydd wedi nodi ei amharodrwydd i flocio’r ffenestr mewn sawl e-bost mewn ymateb i gyngor gan swyddogion, felly'r ffordd orau ymlaen oedd gwrthod y cais;

·         Er eglurder, yr unig beth a ofynnwyd i’r ymgeisydd wneud oedd blocio’r ffenestr yn barhaol. Roedd y swyddogion wedi bod yn rhesymol gan nodi sefyllfa’r ymgeisydd;

·         Bod angen bod yn gadarn oherwydd bod y ffenestr yn gwbl annerbyniol. Yn cydnabod sefyllfa’r ymgeisydd a pe gwrthodir y cais gofynnir i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr o fewn 2 fis neu cymerir camau gorfodaeth ffurfiol i flocio’r ffenestr.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm:

 

Ystyrir nad yw'r ffenestr ochr yn yr estyniad sy'n wynebu iard/gardd gefn 25 Ffordd Belmont yn dangos dyluniad o ansawdd uchel, a'i bod yn creu nodwedd ymwthgar sy'n cael effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau preswyl yr eiddo hwnnw ar sail colli preifatrwydd, ac sydd â'r potensial i achosi tarfu annerbyniol. Mae'r datblygiad felly yn groes i Faen Prawf 7 polisi PCYFF 2 ac Maen Prawf 1 polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd, ac i ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yng Nghanllawiau Dylunio Gwynedd a NCT12: Dylunio.

Dogfennau ategol: