Agenda item

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am bryderon llifogydd a hygyrchedd i’r safle yn ogystal â materion yn ymwneud â:

·            Cynllun Rheoli Arfordir.

·            Perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r ffordd sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber).

·            Ymateb y Gwasanaeth Tan i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed perygl o lifogydd ar hyd y ffordd sy’n gwasanaethu’r safle.

·            Tebygolrwydd rhwng y cais yma a chais ar gyfer codi tai newydd yn y Felinheli.

·            Goblygiadau ôl-troed carbon y datblygiad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

         

          Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol a oedd yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen a safle a oedd yn hygyrch i fathau gwahanol o gymudo.

 

          Cyfeiriwyd at bryderon yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol o ran materion llifogydd, cadarnhawyd nad oedd y safle o fewn unrhyw barth llifogydd a bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer defnydd fel gwesty yn dderbyniol. O safbwynt materion mynediad, nodwyd bod safle’r cais a’r ffordd o flaen y safle yn hollol glir o unrhyw bryderon llifogydd C2. Cadarnhawyd yn unol â’r gofyn fe ymgynghorwyd â’r gwasanaethau brys ac mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor, anfonwyd e-bost manwl i’r gwasanaethau brys (yn lle ymgynghoriad safonol) i esbonio’r sefyllfa ac i fynegi pryderon y Pwyllgor. Adroddwyd y derbyniwyd ymateb gan y Gwasanaeth Tân yn nodi eu bod yn fodlon gyda’r sefyllfa.

 

          Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Llifogi pan fo rhannau o’r ffordd a oedd yn gwasanaethu safle’r cais yn destun llifogydd llanwol, bod y dŵr yn dueddol o fod yn fas iawn a bod y ffordd yn hygyrch ar droed ac mewn car gyda gofal. Eglurwyd bod y lôn yn cael ei chau ar rai adegau i sicrhau diogelwch a hefyd i glirio gwymon, cerrig man ayyb oddi ar y lôn, ac am gyfnod byr byddai’r ffordd yn cael ei chau os yn angenrheidiol. Nodwyd pe byddai digwyddiad eithriadol a’r lon yn llifogi byddai’r gwesty a’r bobl sydd yno yn ddiogel o fewn y safle ac ni fyddai unrhyw risg i’r safle na’r adeilad ac mai’r unig beth a allai gael ei atal oedd mynediad i’r safle ar hyd y ffordd. Ymhelaethwyd bod llifogydd o’r math yma yn eithaf hawdd i’w rhagweld a’u hamseru ac oherwydd hyn bod modd rhybuddio staff a gwesteion ymlaen llaw. Ystyriwyd y gellir rheoli’r sefyllfa mewn modd derbyniol heb achosi baich ychwanegol ar y gwasanaethau brys.

 

          Nodwyd yng nghyd-destun cynnwys Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd ac ymateb y Gwasanaeth Tân i’r bwriad ni chredir y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa perygl llifogydd presennol i ddarpar ddefnyddwyr y safle ei hun nac ychwaith i ddefnyddwyr eiddo cyfagos.

 

          Eglurwyd nad oedd y rhan yma o’r arfordir (gyferbyn a safle’r cais) o fewn Ardal Rheoli Newid Arfordirol (ARhNA) ac o ganlyniad i hyn nid oedd yn cael ei adnabod fel ardal a fyddai’n cael ei effeithio gan golled tir neu o ganlyniad i effeithiau erydu arfordirol. Nodwyd o ganlyniad, nid oedd gofynion Polisi ARNA1 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn berthnasol mewn perthynas â’r cais hwn.

 

          Parthed perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r ffordd sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber), nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau fod wal y môr ym mherchnogaeth amryw o adrannau’r Cyngor gan gynnwys Trafnidiaeth, Hamdden ac Economi. Eglurwyd mai’r Uned Drafnidiaeth a oedd yn cynnal a chadw’r wal ar ran yr adrannau. Nodwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw yn unol â’r angen.

 

          Nodwyd o ystyried yr asesiad o’r cais ynghyd â’r holl sylwadau a dderbyniwyd, gan aelodau o’r cyhoedd a’r ymgynghorai statudol, yn ogystal â’r penderfyniad apêl blaenorol, bod y datblygiad yn dderbyniol ac nid oedd risg o ran llifogydd. Roedd y bwriad yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 15 gan y gellir rheoli’r risg mewn modd derbyniol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod yr adroddiad swmpus gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgan y sefyllfa bresennol o ran llifogydd, roedd trigolion yn pryderu be allai ddigwydd yn y dyfodol o ran llifogydd a’r wal;

·         A fyddai gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol agos ar y wal?

·         Bod tŷ preswyl wedi ei leoli ar y safle ers yr wythdegau, mi fyddai’r bwriad yn newid tirwedd yr ardal o harddwch.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod Polisi TWR 2 o’r CDLl yn cydnabod yr angen am lety gwyliau gwasanaethol, sut gellir profi bod gormodaeth o lety ac o le derbynnir yr ystadegau o’r angen? Roedd amryw o westai o gwmpas yr ardal yn ogystal â llety megis Air BnB;

·         Fe ddifethir rhan o’r arfordir pe ganiateir adeilad o’r fath;

·         Mai dim ond ar adegau pan fyddai stormydd eithafol yr oedd llifogydd llanwol ar y ffordd i’r safle;

·         Pryder o ran effaith adeilad o’r maint ar yr ardal o harddwch;

·         Pryder o ran trafnidiaeth, roedd digonedd o drafnidiaeth ar y ffordd i’r safle yn barod;

·         Ei fod yn ymddangos o’r cynlluniau mai 14 o lefydd parcio fyddai ar y safle, a fyddai’r ddarpariaeth yn ddigonol ar gyfer gwesteion a staff? Pryder y byddai ceir yn cael eu parcio ar y ffordd i’r safle;

·         Pryder o ran carafanau modur yn parcio ar y ffordd i’r safle gan achosi trafferth i gerbydau’r Gwasanaeth Tân o ran mynediad;

·         Pryder o ran y nifer o geir a fyddai’n parcio ar y ffordd i’r safle o ystyried bod y Clwb Golff gerllaw;

·         A oedd unrhyw waharddiad o ran parcio ar y ffordd i’r safle?

·         Bod arogleuon o’r gwaith carthffosiaeth yn yr ardal eisoes, roedd angen edrych ar y mater;

·         Bod yr apêl ar gais blaenorol ar y safle wedi cadarnhau y byddai’r adeilad yn dderbyniol o fewn y dirwedd;

·         O ran materion llifogydd, nid oedd y Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r bwriad a derbyniwyd cadarnhad ei fod yn bosib gwacau’r safle. Yn fodlon gyda’r ymatebion i’r pryderon a godwyd gan yr aelodau ym Mhwyllgor 11 Chwefror 2019 ac yn cytuno â’r argymhelliad;

·         Byddai’r datblygiad o fudd i’r Clwb Golff a’r economi leol;

·         Bod y bwriad yn unol â’r Strategaeth Twristiaeth gyda mwy o alw am westy na llety Air BnB.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod y ddarpariaeth parcio ar y safle yn cyrraedd y safonau parcio, ac efallai nad oedd yn amlwg o’r cynlluniau bod llefydd parcio i fyny ochr yr adeilad yn ogystal;

·         Pe byddai cerbydau yn rhwystro llif traffig ar y ffordd i’r safle, mater i’r Heddlu a’r Cyngor byddai delio a’r sefyllfa ar y pryd;

·         Roedd gwaharddiad rhag parcio cerbydau ar y ffordd gerllaw Bont yr Aber;

·         O ran arogleuon carthffosiaeth, bod bwriad fel rhan o’r cais i osod tanc septig. Gellir adrodd ar unrhyw bryder i’r cyrff perthnasol, nid oedd yr arogleuon yn gysylltiedig â’r bwriad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.      Samplau o ddefnyddiau allanol i’w cyflwyno a’u cadarnhau gyda’r ACLL cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

4.      Ni cheir defnyddio’r gwesty hyd nes bod y fynedfa a’r llecynnau parcio wedi eu cwblhau.

5.      Cytuno a chynllun dŵr yfed a draenio dŵr hwyneb cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

6.      Cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno manylion parthed amseru a darparu clwyd ystlumod.

7.      Dim gwaith dymchwel rhwng 15 Ebrill i 1 Hydref gyda gweithiwr trwyddedig yn bresennol yn ystod y gwaith dymchwel ynghyd a thynnu llechi o’r to drwy law.

8.      Dim gwaith dymchwel rhwng 1 Ebrill i 31 Awst oni bai bod modd dangos nad oes adar nythu yn yr adeilad presennol.

9.      Cydymffurfio gyda’r adroddiad coed a chynllun tirweddu.

10.    Cyfyngu’r defnydd i ddefnydd gwyliau yn unig.

11.    Amodau Priffyrdd.

12.    Cytuno a chynllun goleuo.

13.    Arwyddion a phecynnau croeso / gwybodaeth ddwyieithog.

14.    Tanc septig a’r suddfan ddŵr cysylltiedig i gydymffurfio gyda Safonau Prydeinig.

15.    Cyflwyno Cynllun Rheoli Llifogydd e.e. i gynnwys: pecynnau gwybodaeth, system i ragrybuddio gwesteion a staff, gosod rhybuddion/arwyddion perygl llifogydd o fewn y safle.

Dogfennau ategol: