skip to main content

Agenda item

Cyflwynir yr adorddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Cofnod:

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd cyflwynwyd diweddariad ar waith Hunaniaith, gan amlinellu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd, a chymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gwaith.

 

Trosolwg o waith 2018-19

Adroddwyd fod 2018-19 wedi bod yn flwyddyn dda o ran parhau i ddatblygu rhai partneriaethau allweddol, megis gyda Chymraeg i Blant a Grŵp Llandrillo Menai, a’i bod yn ymddangos bod y buddsoddiad amser i gyd-gynllunio a chydweithio yn dechrau talu. 

 

Yn ogystal, nodwyd bod y cydweithio ar draws y Mentrau Iaith yn gyffredinol wedi datblygu ymhellach, gyda Mentrau Iaith Cymru (y sefydliad ambarél sy’n cefnogi gwaith y mentrau ar draws Cymru) yn arwain at sawl prosiect cenedlaethol.  Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer mwy o gydweithio rhwng mentrau iaith rhanbarth y Gogledd yn y dyfodol.

 

 

Cafwyd dau gyflwyniad gan y Swyddogion Iaith:

 

Blynyddoedd Cynnar

Esboniwyd fod seminarau wedi eu cynnal er mwyn arfogi gweithlu’r blynyddoedd cynnar a darparwyr gweithgareddau gyda’r wybodaeth i fynd a’r neges am werth dwyieithrwydd at deuluoedd.  Nodwyd fod yr adborth o’r seminarau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac er na lwyddwyd i ddenu rhai o’r busnesau a mudiadau sy’n darparu gweithgareddau teuluol oedd wedi eu targedu, teimlai’r Swyddog bod y digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant, ac y bwriedir parhau i gydweithio gyda Chymraeg i Blant a Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor ar ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

 

 

Targedu Pobl Ifanc oedran 15+:

Cynhaliwyd cynhadledd i bobl ifanc i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith, gan gyflwyno arfer da a modelau rôl o feysydd proffesiynol a galwedigaethol.  Nod y gynadle oedd annog pobl ifanc i feddwl am eu dewisiadau gyrfaol gan roi sylw penodol i ystyried y Gymraeg yn eu dewisiadau.

 

Cynhaliwyd y gynhadledd ar y cyd gyda swyddogion Grŵp Llandrillo Menai, a chanolbwyntiwyd ar fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda sectorau Adeiladwaith, Gwallt a Harddwch a Lletygarwch a Thwristiaeth. Cafwyd adborth da a chytunwyd bod cynnwys y sesiynau yn fuddiol a phriodol ond bod angen ambell fireiniad megis symleiddio geirfa, a chynnwys llai o gwestiynau agored, fel modd i hwyluso cyfranogiad a thrafodaethau.

 

Cynhaliwyd cyfarfod cloriannu ar ôl y digwyddiadau a chytundeb ymysg y swyddogion bod y gynhadledd wedi llwyddo o ran y trefniadau a chynnwys, er bod angen ambell fireiniad a man addasiadau os am gynnal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.  Un pryder a fynegwyd oedd y trafferthion a gafwyd wrth ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid y grŵp.

 

Mynegodd yr Aelodau siom yn hyn, gan nodi awydd i gymryd camau pellach.  Nododd Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd ei bod am ysgrifennu yn swyddogol at Grŵp Llandrillo Menai i rannu’r adborth ar werthusiad am y cynadleddau er mwyn rhannu’r pryderon.

Cynigodd Aelod y pwyllgor y byddai yn fodlon ysgrifennu llythyr at Grŵp Llandrillo Menai, ar ran y pwyllgor.

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiynau cyffredinol am waith Hunaniaith, gofynnwyd yr Aelodau sut roedd Hunaniaith yn dewis yr ardaloedd i dargedu.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr ardaloedd oedd wedi derbyn sylw dros y tair blynedd ddiwethaf wedi eu dewis yn bennaf ar sail data’r cyfrifiad ac argymhellion gan Lywodraeth Cymru.  Nodwyd bod angen edrych ar ffynonellau data eraill, megis y Siarter Iaith, er mwyn gwneud penderfyniadau am le i dargedu yn y dyfodol.

 

Cymraeg Byd Busnes

Cyflwynwyd y wybodaeth gan Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd ar ran Paul Carrol Jones (Byd Busnes).

 

Un o’r prosiectau mae Menter Iaith Cymru (MIC) yn gyfrifol amdanynt ar lefel genedlaethol yw prosiect Cymraeg Byd Busnes.

 

Nod y prosiect yw:

 

       Cynnig cefnogaeth a chyngor i fusnesau ar eu defnydd o’r Gymraeg.

       Gwasanaeth rhad ac am ddim.

       Wedi ei deilwra yn bennaf at fusnesau bach a chanolig a busnesau micro.

Esboniwyd y gallai busnesau bach yng Nghymru ofyn am gymorth gyda chyfathrebu, archebu nwyddau, llunio gwefannau a chysylltu gyda’r cyfyngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Esboniwyd hefyd fod cefnogaeth ar gael i hysbysebu a recriwtio staff ac y gellid cael darpariaeth cyfieithu am ddim.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: