skip to main content

Agenda item

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gwynion ac engreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Datblygu Iaith a nodwyd ei fod yn edrych ar gwynion a chanmoliaeth law yn llaw, er mwyn gallu adnabod tueddiadau a rhoi darlun llawn i’r aelodau o’r hyn sydd yn digwydd o fewn y Cyngor o safbwynt cydymffurfio gyda’r Safonau a’r Polisi Iaith.

 

Canmoliaeth

Esboniwyd fod yr adroddiad yn dangos dau achos penodol sydd wedi dod i sylw dros y misoedd diwethaf lle mae swyddogion y Cyngor wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i hyrwyddo’r Gymraeg ac i sicrhau bod trigolion yn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg o safon:

 

1.    Hyfforddiant diogelwch (IOSH): Cafodd y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant eu cydnabod yng ngwobrau’r Cyngor ar ei Orau yn ddiweddar am eu gwaith i sicrhau bod modd cael hyfforddiant IOSH yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers cryn amser, roedd staff y Cyngor wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn, ond yn gorfod defnyddio deunyddiau Saesneg yn unig gan nad oedd y corff siartredig yn darparu deunyddiau dwyieithog. Roedd y mater wedi ei gyfeirio at y Comisiynydd er mwyn cael eu cefnogaeth nhw i ddwyn pwysau ar y darparwyr, ond yn y pen draw, ymdrechion swyddogion y Cyngor, dynnodd sylw at ofynion y safonau a galwadau gan staff am ddeunyddiau Cymraeg,

 

2.    Ffurflen ar-lein newydd direct.gov ar gyfer Bathodyn Glas

Nodwyd bod Rheolwr Siopau Gwynedd a Galw Gwynedd a’i swyddogion yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i sicrhau bod y ffurflen ar-lein newydd ar gyfer ceisiadau Bathodyn Glas yn cwrdd â gofynion y Safonau a Pholisi’r Cyngor. Roedd y swyddogion wedi sylwi wrth brofi’r system (cyn mynd yn fyw) bod nifer o wallau a chamgymeriadau gyda’r fersiwn Gymraeg, ac mae’r Cyngor wedi gwrthod trosglwyddo i’r system ar-lein newydd heb i’r newidiadau gael eu gwneud i gyrraedd y safon ddisgwyliedig. Maent wedi bod yn cydweithio gyda’r uned gyfieithu a thîm y we i wirio’r system, ac wedi codi’r mater efo’r darparwr gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae trafodaethau yn parhau ar hyn o bryd a’r system yn dal heb fynd yn fyw.

 

Cwynion

Ers dechrau 2019, derbyniwyd gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg am dair cwyn yn ymwneud efo’r Safonau Iaith.

 

Penderfynodd y Comisiynydd beidio ag ymchwilio ymhellach i’r cwynion ar sail yr esboniadau isod:

 

1.    E-bost safonol Saesneg yn unig wedi ei anfon mewn ymateb i e-bost Cymraeg anfonwyd at GwE.  Penderfynwyd peidio ag ymchwilio wedi i’r Comisiynydd dderbyn gohebiaeth gan uned Gyfreithiol y Cyngor oedd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd Safonau’r Cyngor yn berthnasol i GwE oherwydd eu statws fel cydbwyllgor.

2.    Derbynneb uniaith Saesneg wedi ei hanfon gan Bartneriaeth Prosesau Cosb Cymru.  Esboniwyd bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i nam technegol ar ôl i’r gweinyddwyr wneud diweddariadau i’r system dalu. Roedd y mater eisoes wedi dod i sylw’r Cyngor ac wedi ei ddatrys erbyn derbyn y gŵyn gan y Comisiynydd, a chytunodd y Comisiynydd bod y Cyngor eisoes wedi delio gyda’r mater yn briodol.

3.    Gwasanaeth cynnal asesiadau a phrosesu ceisiadau Bathodyn Glas.  Cadarnhaodd y Cyngor mai gwasanaeth dan reolaeth y Llywodraeth yw hwn, a bod y Cyngor eisoes wedi derbyn sawl cwyn am y gwasanaeth ac wedi cyfeirio pryderon am safon y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg at y Llywodraeth. Wedi'r ymateb, cytunodd y Comisiynydd nad oedd cyfrifoldeb ar y Cyngor am y mater, ac maent wedi cyfeirio'r gŵyn a phryderon Cyngor Gwynedd ymlaen at yr adran berthnasol yn y Llywodraeth.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: