skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad yn amlinellu’r prif negeseuon am berfformiad gwasanaethau cymdeithasol fydd yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad blynyddol maes o law, yn ogystal â rhoi amlinelliad o’r prif heriau a rhaglenni trawsffurfio ar gyfer 2019/20.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr:-

·         y byddai’r adroddiad blynyddol ar gael yn ei ffurf orffenedig ym mis Gorffennaf ac y byddai’n cael ei gylchredeg i holl aelodau’r Cyngor.

·         oherwydd ymrwymiadau personol, na fyddai’n bosib’ iddi ddod i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf i gyflwyno’r adroddiad, felly eleni roedd adroddiad cynnar lefel uchel yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff, yn fewnol ac allanol, am eu gwaith diflino ac ymroddedig eto eleni.  Diolchodd i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) am eu gwaith ymroddgar a gwerthfawr drwy gydol y flwyddyn.  Diolchodd hefyd i’r craffwyr am eu mewnbwn ac i’r Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Dilwyn Morgan am eu cefnogaeth dros y flwyddyn.  Nododd hefyd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynghorydd Dafydd Meurig, oedd wedi cymryd drosodd y portffolio oedolion, iechyd a llesiant.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd yr adroddiad a nodwyd bod y gyfres o glipiau fideo ar Hafan y Sêr, Hafod y Gest, Plas Hafan a Go Dementia, a ddangoswyd fel rhan o’r cyflwyniad, wedi dod â gwaith y gwasanaeth i fyw i’r aelodau.

·         Nodwyd bod y ddarpariaeth wedi’i drawsffurfio yn y blynyddoedd diwethaf a chroesawyd nifer o gynlluniau newydd ac arloesol, megis tai gofal ychwanegol Hafod y Gest, y cynllun peilot ym Methesda ar gyfer trawsnewid gofal cartref a Mwy na Geiriau.  Cyfeiriwyd yn benodol at Hafan y Sêr, a nodwyd y dylid ymfalchïo ynddo, fel yr unig ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, gan ledaenu’r neges ar draws Cymru i ddangos beth sy’n bosib’.

·         Awgrymwyd y dylai pob aelod fynd i ymweld â chartrefi henoed yn eu hardal er mwyn gweld y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan y staff.

·         Gofynnwyd am gynnwys adran yn yr adroddiad blynyddol llawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd o ran gwasanaethau ar gyfer unigolion ag awtistiaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, nodwyd:-

 

·         Bod y cynnydd yn niferoedd plant mewn gofal yn adlewyrchu ein cymdeithas a’r heriau roedd llawer o’r plant a’r teuluoedd yn wynebu.  Dyna pam bod y gwaith ataliol a’r ymyrraeth gynnar mor allweddol fel bod modd cynnig y gefnogaeth yma i deuluoedd a phlant, drwy weithio gyda’r ysgolion, ayb, yn y ffordd fwyaf addas i atal problemau rhag dwysau.  Roedd disgwyliadau wedi cynyddu yn sgil y gwaith o godi ymwybyddiaeth pobl o faterion diogelu ac roedd y ffaith bod yna blant mewn gofal bellach yn parhau i fyw gartref gyda’u rhieni wedi cyfrannu at y cynnydd yn y niferoedd hefyd.

·         Ei bod wedi mynd yn beth cyffredin i glywed am gwmnïau gofal annibynnol preifat yn mynd i drafferthion ariannol, felly roedd yn bwysig cloriannu beth oedd y farchnad gofal mwyaf addas i Wynedd.  Gan fod gennym ddarpariaeth fewnol a llawer o ddarpariaethau wedi tyfu yng Ngwynedd, boed hynny’n annibynnol, trydydd sector neu breifat, nid oedd y Cyngor hwn mor ddibynnol ar y cwmnïau mawr ag yr oedd rhai siroedd eraill.  Ond, roedd rhaid bod yn glir beth oedd y gofyn o’r sector gofal, mapio’r gofyn hwnnw ar y cyd â hwy a gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth, boed yn fewnol neu’n allanol, yn cael ei ariannu, fel ei bod yn bosib’ iddo weithio’n iawn.  O bosib’ nad oedd yr eglurder wedi bod yn ddigonol dros y blynyddoedd, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor gael darpariaeth gynaliadwy ac o safon wrth symud ymlaen.  Roedd gwaith yn digwydd yn rhanbarthol ac yn lleol ar hynny i wneud yn siŵr bod y balans yn iawn, ond roedd gan y Cyngor benderfyniadau anodd i’w gwneud mewn hinsawdd ariannol heriol.

·         Mai un o’r anawsterau mwyaf o ran y maes ‘Mwy na Geiriau’ oedd sut i gael ein darpariaethau allanol, annibynnol i gydymffurfio’n llawn â’r gofynion.  Er y disgwyliad arnynt, ac er bod yna drafodaethau digon adeiladol wedi digwydd dros y blynyddoedd, nid oeddent wedi bod yn derbyn cefnogaeth ddigonol o ran sut i fynd ati i wella’r ddarpariaeth ieithyddol.  Bellach, roedd y Cyngor yn eu cefnogi’n llawer mwy rhagweithiol o ran sut i fynd ati i lunio polisïau, recriwtio’n wahanol a chreu amgylchedd llawer mwy Cymreig o fewn eu cartrefi.

·         Er mai staff o’r gymuned oedd yn cynnal y gofal yn yr Hafod y Gest newydd, nad oedd yna unrhyw fwriad i dynnu oddi ar y gymuned.  Fel tenantiaid, y model gofal mwyaf addas ar gyfer trigolion Hafod y Gest oedd gofal cartref, ac felly, yn hytrach na chael un tîm yn yr adeilad a thîm arall yn y gymuned, penderfynwyd sefydlu un tîm, oedd yn gallu cyd-drafod a chyd flaenoriaethu’r gwaith.  Credid y byddai’r trefniant hwn yn cryfhau’r gymuned a’r tai gofal ychwanegol, ond cytunodd y Cyfarwyddwr i fynd â’r sylw yn ôl i’r timau fel y gellid darparu gwybodaeth mewn ymgais i fodloni’r aelod nad oedd yna risg a bod hyn yn rhywbeth i’r gwasanaeth ei fonitro wrth i amser fynd yn ei flaen.

·         Bod yna lawer wedi digwydd yn y maes dementia o ran buddsoddi mewn cartrefi a chydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd o safbwynt sicrhau darpariaeth di-dor a gwell.  Gellid anfon gwybodaeth at yr aelod o ran datblygiadau yn Nolgellau a Bermo yn benodol, ond roedd y broses yn ymwneud â cheisio gwneud y ddarpariaeth adeiladau yn llawer mwy addas i bobl â dementia, ac yna edrych sut y gellid cael staff addas gyda’r sgiliau, ayb, i gyd-fynd â’r buddsoddiad hwnnw.

·         Mewn ymateb i awgrym bod lle i wella’r trefniadau newydd ar gyfer cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau, cynigiodd y Cyfarwyddwr ei bod yn cael sgwrs gyda’r aelod er mwyn gweld beth oedd ei brofiad o ffonio i mewn.

 

Dogfennau ategol: