skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Yn dilyn yr holl drafferthion gyda’r sefyllfa barcio yn Llanberis dros y Pasg, byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth mae’r Cyngor yma yn bwriadu wneud i wella’r sefyllfa, gan gadw mewn cof bod rhaid cael cydbwysedd gyda hybu twristiaeth ac iechyd a diogelwch yn yr ardal?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Mae’n glir bod yr Adran wedi cael amser prysur dros y Pasg - roedd y tywydd yn boeth ofnadwy, ac mae’r Aelod yn adrodd yr hyn a welsom yn yr ardal, pryd roedd yna gymaint o dwristiaid yma dros y Pasg.  O ran beth mae’r Adran yn mynd i’w wneud, mae’r Adran yn ymdrechu i wneud gwaith dros y sir yn gyfan gwbl.  Mae yna waharddiadau parcio, mae yna arwyddion, mae yna ddirwyon wedi cael eu gosod, a bydd y sefyllfa yn cael ei fonitro dros y cyfnodau yma i wella trefniadau, nid yn unig i dwristiaid, ond hefyd i drigolion Gwynedd.  Felly, mae’n waith anodd, a gan fod y Pasg yn hwyrach y tro yma, roedd yna dipyn mwy o bobl a’r tywydd yn ofnadwy o boeth ac yn denu pobl i’r ardal.  Bydd y sefyllfa yn cael ei fonitro ac mae’r Adran hefyd yn cymryd y cyfle i siarad gydag unrhyw un sydd â phroblemau yn eu ward hwy.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

“Efallai bod hi’n amser cael y faniau towio allan a dangos i dwristiaid bod ni’n agored ac yn ddiogel i ymwelwyr a phobl leol ymweld â ni?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Mae’r Adran yn barod i siarad hefo unrhyw gynghorydd o unrhyw ward.  Mae’r Adran wedi bod yn dirwyo.  Rwy’n derbyn y pwynt mae’r aelod yn ei wneud ac fe gawn drafodaeth bellach a gweld sut mae pethau’n mynd dros yr haf.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Yn y cyfarfod diwethaf, wrth drafod y gyllideb, fe amlinellwyd beth oedd ar droed er mwyn ceisio atal tai haf rhag symud i’r Dreth Fusnes ac osgoi’r premiwm tai haf.  A fedr yr Arweinydd ein diweddaru ar unrhyw lobïo sydd wedi bod yn digwydd i fynd i’r afael ar hyn?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Ein bwriad ni oedd paratoi tystiolaeth, a hoffwn ddiolch i’r Prif Weithredwr am wneud y gwaith yna a’r Adran Gyllid hefyd, a chasglu gwybodaeth allan o’r siroedd sy’n aelodau o’r Fforwm Gwledig, ac mae yna naw sir yn aelod o’r Fforwm.  Fe ddaru ni, yn y cyfarfod ar 10 Ebrill, gyflwyno papur i’r Fforwm Gwledig yn amlygu’r gost mewn difri’, nid yn unig i gynghorau unigol, ond y gost i gyllideb y wlad Cymru gyfan o fod yn colli’r Dreth Ddomestig yma o’n cyllidebau.  Rwy’n falch o ddweud bod y Fforwm Gwledig i gyd wedi cytuno i gefnogi ein cais i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ymgymryd ar ran y Fforwm Gwledig y gwaith o gyflwyno’n hachos i Lywodraeth Cymru.  Rwy’n meddwl ei fod yn rhoi mwy o nerth i ni fod yna naw Cyngor, yn hytrach nag un, yn mynd ati ar hyn, ac rydym yn disgwyl adroddiad cynnydd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar y gwaith maen nhw wedi wneud.  Mae’n werth nodi yn y fan hyn bod y neges wedi cyrraedd adref a bod y gwas sifil o swyddfa Llywodraeth Cymru wedi trefnu i ddod i’n gweld ar 13 Mai er mwyn clywed y dystiolaeth sydd gennym ac i gael gwell dealltwriaeth o’r broblem sydd wedi codi yn dilyn cyflwyno’r hawl i gael codi premiwm tai haf.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Allwch chi fanylu faint mae’r premiwm wedi codi, neu yn codi, a faint sydd wedi trosglwyddo i Dreth Fusnes felly a pha effaith mae hyn yn cael ar gyllid y Cyngor ac ar y cynlluniau i sicrhau cartrefi addas i bobl Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Y diweddaraf sydd gennyf ydi’r ffigurau a roddwyd yn yr adroddiad.  Yng Ngwynedd, mae 1,250 o dai domestig wedi trosglwyddo o’r Dreth Gyngor i Drethi Annomestig ers Ebrill 2014.  Mae’n hynny’n golygu, ar lefel Treth Ddomestig, colled flynyddol o bron i £2m o Dreth Cyngor i Wynedd.  O’r hyn rydym ni wedi gallu casglu o gynghorau eraill (a rhaid cydnabod mai gwaith cymharol ysgafn ydyw, ond rydym wedi cael atebion gan o leiaf 6 o’r cynghorau), rydym yn amcangyfrif yn geidwadol, bod yna golled i bwrs y wlad Cymru gyfan o tua £4.5m.  Hynny yw, mae holl incwm Cymru wedi gostwng o £4.5m dros y cyfnod yna, sydd, wrth gwrs, yn golled i bob un cyngor yng Nghymru.  Rydym wedi manylu ar enghreifftiau o hynny.  Mae hyd yn oed yn effeithio ar Gaerdydd a Wrecsam a llefydd sydd heb broblem tai haf.  Mi ofynnaf i’r Pennaeth Cyllid amlygu i ni faint o bremiwm rydym ni wedi dderbyn a faint oeddem ni’n amcangyfrif y byddem wedi ei dderbyn.”

 

Ateb pellach gan y Pennaeth Cyllid

 

“Mae’r niferoedd sy’n pasio drosodd o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Treth Fusnes yn cyflymu.  Yn y flwyddyn sydd newydd orffen, roedd tua 460 eiddo wedi mynd drosodd o’r Rhestr Ddomestig i’r Rhestr Fusnes, sy’n gynnydd 60% ar y 280 roedd wedi trosglwyddo yn y flwyddyn gynt.  Mae angen ymyrryd i gael mwy o gyfiawnder yn hyn, ac mae’r gwaith hynny’n mynd ymlaen.  O ran faint o Bremiwm Treth rydym ni’n gasglu, roeddem wedi amcangyfrif ein bod am gael £2.9m llynedd, gyda £200,000 o hwnnw wedi ei neilltuo i bwrpas plismona’r drefn a mentrau yn y maes tai, a’r gweddill ohono wedi’i neilltuo i weithredu’r Strategaeth Tai fydd yn dod gerbron yn fuan.  Tra gawn ni rhwng £2.7m a £2.9m i mewn, yn anffodus, pan mae’r eiddo yn trosglwyddo, mae’r Prisiwr yn ôl-ddyddio rhywfaint ohono.  Mae’r golled o’r ôl-ddyddio yn broblem ‘cash’ benodol i ni, tra mae’r trosglwyddo’n golled i bob Cyngor wrth symud ymlaen, oherwydd bod addasiad i’r dosbarthiad grant ar ei gyfer.”

 

Ateb pellach gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Rydw i’n meddwl ein bod wedi amcangyfrif y byddem wedi gallu cael tua £5m y flwyddyn, felly rydym ar ein colled o £2m - £3m y flwyddyn o’r premiwm yn unig, heb sôn am y golled o’r Dreth safonol.  Mae’r ateb, wrth gwrs, yn un cymharol eglur a chlir, ac rydym wedi cynnig yr ateb hwnnw, a’r ateb yma fyddwn ni’n drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, sef bod angen addasu Deddf Tai Cymru i sicrhau, os oes unrhyw dŷ yn dŷ annedd, yna bydd yn cael ei drethu fel tŷ annedd.  Hynny yw, ni chaiff fod yn fusnes oni bai ei fod wedi cael caniatâd cynllunio i’w droi yn ryw fath o fusnes gwahanol.  Felly, mae hynny’n eithaf syml ac yn hawdd ei drosglwyddo.  Yn digwydd bod, roedd y Prif Weithredwr a minnau wedi cael cyfarfod dechreuol gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a bu i ni godi’r pwynt yma gyda hi, ac mae ganddi hi ddiddordeb.  Mae ganddi hi brofiad o sefyllfa o’r math yma, ac yn wir fe ddylai bod ganddi ddiddordeb, achos mae’r Ddeddfwriaeth yma’n golygu ein bod ni, nid yn unig yn colli pres i bwrs y wlad yn gyffredinol, ond yn methu cyflawni’r hyn mae’r premiwm tai haf i fod i’w gyflawni, sef i gael mwy o dai ar gyfer ein pobl leol, ac annog pobl a’i gwneud yn rhwyddach i bobl leol gael tai.  Ar hyn o bryd rydym ni’n rhoi pres ym mhocedi’r bobl hynny sy’n gallu fforddio tai haf, ac ar y llaw arall, rydym ni’n methu cael y gwariant a ddylai fod yn dod i’n dwylo ni i wneud gwaith lliniaru a darparu tai ar gyfer ein pobl ein hunain.”

 

Nododd aelod fod y mater hwn wedi’i godi yn y cyfarfod diwethaf, ac yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, nad oedd hawl i drafod y mater eto o fewn 6 mis.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd ymateb i gwestiwn a gyflwynwyd gan aelod yn tramgwyddo’r rheol 6 mis.

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Yn dilyn y ffaith na fydd isetholiad yn Ward Morfa Nefyn bellach, faint yn union o’r cynghorwyr ar Gyngor Gwynedd sydd erbyn hyn wedi cerdded i mewn i’r seddau hynny heb wynebu etholiad a sut mae’r ffigurau hyn yn cymharu â siroedd cyfagos, h.y. Môn, Conwy a Dinbych?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Fel yr ydych yn ymwybodol, cynhaliwyd etholiadau diweddaraf Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.  Yr adeg honno, nid oedd cystadleuaeth ar gyfer 21 o’r 75 sedd ar Gyngor Gwynedd. 

 

Roedd y sefyllfa ar draws Cymru yn amrywio, gyda chyfanswm o 92 sedd yn ddiwrthwynebiad yng Nghymru yn 2017 (7%), a oedd ychydig yn is na’r sefyllfa yn 2012 pan gafwyd 99 sedd o’r fath, (8%). Mae’n ddiddorol nodi fod dros 50 o’r seddau hynny yn 2017 mewn tair ardal wledig, sef Gwynedd, Powys a Sir Benfro.  Dylid hefyd nodi fod gan hanner cynghorau Cymru o leiaf un sedd ddiwrthwynebiad yn 2017. 

 

Roedd y sefyllfa yn y siroedd cyfagos fel a ganlyn:

Conwy - 6 sedd ddiwrthwynebiad (o 59 sedd)

Dinbych - 5 sedd ddiwrthwynebiad (o 47 sedd)

Môn - dim un sedd ddiwrthwynebiad (o 30 sedd)

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer o resymau sy’n ysgogi pobl i sefyll fel Cynghorwyr.  Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil hefyd yn dangos rhai o’r rhwystrau sydd yn wynebu pobl sydd â diddordeb mewn sefyll.  Rhaid cofio hefyd fod y Cyngor yn buddsoddi amser ac adnoddau cyn pob etholiad i annog amrywiaeth ehangach o bobl i sefyll.  Mae cyfarch hyn yn sialens barhaus i bob mudiad sydd ynghlwm â Llywodraeth Leol yng Nghymru ac i ninnau hefyd fel cynghorwyr.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Mae’r ffigurau yna felly’n dangos bod 7% o seddau drwy Gymru gyfan wedi cerdded i mewn heb etholiad, ond yng Ngwynedd mae’n 30%, sydd 4 gwaith yn fwy na’r cyfartaledd dros Gymru gyfan.  Beth ydym ni am wneud yn ei gylch a beth oedd dyddiad cau'r isetholiad diweddaraf?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Rydw i’n hyderus bod y Cyngor wedi cyfarch y gofynion statudol i gyd yn ymwneud â’r etholiad, ac yn wir maent wedi mynd uwchben y gofynion hynny drwy roi gwybodaeth ar y wefan, a hefyd postio allan gwybodaeth i bobl sydd ddim yn defnyddio e-bost.  Mae’n bechod mawr fod pobl ddim wedi sefyll yn yr etholiad ym Morfa Nefyn.  Rydym ni fel Plaid Cymru yn gweld bod hwn yn bwnc pwysig ac rydym ni’n croesawu dadl am bolisïau.  Dydd Sadwrn nesaf, byddaf mewn digwyddiad ym Mhen Llyn sydd wedi’i drefnu gan y Cynghorydd Wager i gael mwy o ferched i sefyll mewn etholiadau.  Mae hwn yn bwnc rwy’n ymddiddori’n fawr ynddo a bûm yn darllen adroddiad llywodraeth leol am amrywiaeth ym maes llywodraeth leol sy’n edrych ar y rhwystrau i bobl sefyll.  Roedd yna bennod gyfan yna ar fwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu ac roedd yn sioc i mi ddarllen mai dim ond traean o gynghorwyr sydd heb orfod dioddef hyn.  Gan ein bod yn sôn yn benodol am Forfa Nefyn yn y cwestiwn, hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i’r cyn-gynghorydd Sian Hughes am ei blynyddoedd o wasanaeth i’r Cyngor ac ar lawr gwlad yn ei ward, ac yn olaf hoffwn ymestyn croeso cynnes iawn i’r Cynghorydd Gareth Jones, a’i longyfarch.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Mae codiad diweddar yn y Dreth Cyngor wedi taro nifer o deuluoedd yn ariannol.  Mae angen diolch i’r Cyngor am godi ymwybyddiaeth am y Rhaglen Gostyngiad Trethi sydd ar gael, ond oes modd i’r Aelod Cabinet egluro beth sydd yn cael ei ddiffinio fel ‘incwm isel’ a faint o bobl Gwynedd sydd yn cael gostyngiad yn eu Treth Cyngor?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Mae egluro beth sydd yn cael ei ddiffinio fel ‘incwm isel’ yn gymhleth a thechnegol.

 

Defnyddir y term ‘incwm isel’ yn genedlaethol gan sawl asiantaeth, er nad oes ganddynt ddiffiniad clir o beth yw ‘incwm isel’.

 

Mae’r lefel incwm fyddai’n gwneud aelwyd yn gymwys am gymorth o’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor yn amrywio’n ddibynnol ar ystod o amgylchiadau.

 

Bydd aelodau’n cofio fod y Cyngor llawn, yng nghyfarfod mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf, a phob mis Rhagfyr, yn penderfynu ar Gynllun Gostyngiad Treth Cyngor, ond nodir fod swmp y Cynllun yn cael ei ddiffinio gan reoliadau Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r rheoliadau’n diffinio ‘swm perthnasol’ ar gyfer gwahanol amgylchiadau.

 

Wrth asesu’r hawl i gael gostyngiad Treth Cyngor, rhoddir ystyriaeth i enillion yr aelwyd, a chaiff y swm yma ei gymharu gyda’r ‘swm perthnasol’.

 

Gan fod y ‘swm perthnasol’ yn amrywio’n ddibynnol ar sefyllfa ac amgylchiadau’r cais, mae gan y Cyngor gyfrifiannell ar ei wefan, ac mae’r aelodau wedi derbyn linc i hwn, ac mae’n bosib’ i drigolion fynd ar hwn i weld beth yw’r sefyllfa.  Mae hwn yn galluogi i bobl Gwynedd ddarganfod os ydynt yn gymwys i gael gostyngiad treth trwy fewnbynnu manylion eu hamgylchiadau personol hwy.  Wedyn, mae’n bosib’ i bobl benderfynu bwrw ymlaen i gyflwyno cais am asesiad ffurfiol neu drafod y sefyllfa gyda staff.  Rwy’n ymwybodol bod yna waith da iawn yn cael ei wneud gan swyddogion yr adran i bobl sy’n cysylltu gyda hwy.

 

Ar hyn o bryd, mae 9,301 o aelwydydd yng Ngwynedd yn derbyn gostyngiad yn eu Treth Cyngor, sy’n golygu ymrwymo £9.6m o adnoddau'r Cyngor.  Mae tua 58,000 aelwyd yn derbyn bil am Dreth Cyngor, felly mae 9,301 yn agos at 16% o’r cyfanswm sy’n derbyn gostyngiad llawn neu rannol.  Gofynnaf i’r Aelodau drosglwyddo’r wybodaeth yma i unrhyw etholwr sydd am geisio amdano.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn fodlon ail-edrych ar sut mae’r broses yn gweithio ac edrych ar symleiddio’r broses er mwyn helpu pobl Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Mi roedd eich cwestiwn gwreiddiol ynglŷn â’r gostyngiad, ac rydw i wedi ateb hynny ac mae hynny’n mynd trwy’r Cyngor ym mis Rhagfyr.  Mi roeddech chi’n son am bobl sengl, ac ati.  Mae hynny’n ddiffiniad o rywbeth o’r enw ‘discounted’, a tydi o ddim yn ostyngiad.  Rwy’n credu bod tua 18,000 o bobl yn cael disgownt o’u bil Treth Cyngor.  Rwy’n hapus iawn i unrhyw un gysylltu â mi neu’r adran i gael y manylion cywir ynglŷn â’r wybodaeth.  Dydi o ddim yn syml fel y gwnes i egluro hefo’r gostyngiad, ond rydych chi’n son am ostyngiad ac rydym ni’n cynnig disgownt hefyd.  Felly, rwy’n cydnabod nad yw’n hawdd iawn i’w ddeall, ond mi wnaf edrych i mewn i’r sefyllfa, ac yn hapus iawn i dderbyn unrhyw ohebiaeth.”