Agenda item

 

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Darparu adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar gynnydd gwaith Bwrdd Gwasanaethau Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd, amgylchedd a diwylliannol y ddwy sir. Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y chwe maes blaenoriaeth.

 

Adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn destun craffu gan  Bwyllgor Craffu / Sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Wrth sefydlu’r Bwrdd, cytunwyd y byddai panel craffu ar y cyd rhwng y ddwy sir yn cael ei ddatblygu i wneud y gwaith craffu. Nodwyd y byddai swyddogion craffu Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn rhoi sylw i’r camau gweithredu allweddol mewn perthynas â sefydlu panel ar y cyd yn ystod y misoedd nesaf.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Er cytuno gyda’r ddelfryd, posib creu diwydiant o eiriau / siop siarad

·         Bod angen dwyn perswâd ar gwmnïoedd mawr i ddatblygu gwybodaeth ddwyieithog

·         Cynllun Iaith a Thaith plentyn – derbyn pwrpas y cynllun, ond ar y llaw arall Canolfannau Iaith yn cael eu hadolygu

·         Cartrefi ar gyfer Pobl Leol – rhaid adnabod safleoedd yn y llefydd cywir a bod y cartrefi yn ymateb i’r angen

·         Amcan Iechyd a Gofal - angen datblygu cydweithio effeithiol rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Angen sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cynnig a chyflawni'r hyn sy’n cael ei geisio

·         Awgrym i wahodd arweinyddion yr Is-grwpiau i wneud cyflwyniadau unigol ar gynnydd y prosiectau.

 

Mewn ymateb i’r sylw o’r pryder y gall cyfarfodydd y Bwrdd fod yn ‘siop siarad’, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn awyddus i weld y prosiectau sy’n atebol i’r Bwrdd, yn cael effaith ar ddinasyddion Gwynedd a Môn. Er cytuno mai delfryd yw’r ddeddfwriaeth, mynegodd bod ymdrech benodol i weithio mewn dulliau arloesol drwy gydweithio i wella’r gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r panel craffu ar y cyd, nododd yr aelod Cabinet y tebygolrwydd y byddai cynrychiolaeth debyg o’r ddwy Sir yn aelodau ar y panel. Ategodd bod Rheolwyr Craffu yn cyfarfod i drafod y datblygiad. Gwnaed sylw pellach bod sefydlu panel yn gallu arwain at greu siop siarad arall a bod angen osgoi hyn.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r elfen economaidd, nododd nad oedd y maes penodol yma wedi ei adnabod fel un o feysydd gwaith y Bwrdd gan mai’r Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru fydd yn gwneud hyn ar draws y Gogledd. Wedi dweud hynny, derbyniwyd y sylw bod gan yr economi effaith uniongyrchol ar dlodi sef un o feysydd gwaith y Bwrdd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae cyllido’r prosiectau, nodwyd mai gwaith yr is-grwpiau, wrth adnabod eu prosiectau, yw cyflwyno ac adnabod ffynonellau ariannol ar eu cyfer yn eu cynllun busnes. Os gall prosiectau gael eu cyflawni yn well drwy gydweithio a chreu partneriaethau, debyg byddai arbedion posib. Mewn ymateb i awgrym i herio Llywodraeth Cymru am gyllid i gefnogi’r prosiectau, nododd yr Aelod Cabinet bod trafodaethau parhaol gyda’r Llywodraeth am y diffyg arian i Awdurdodau Lleol. Ategodd bod y Ddeddf yn un dyheuadol, yn gosod safon uchelgeisiol ac mai rôl y Cynghorau yw adnabod y meysydd hynny all elwa o gydweithio. Gwnaethwpyd y sylw yn ogystal i’r Bwrdd Gwasanethau Cyhoeddus ystyried sefydlu is-grŵp arall i roddi sylw i adnoddau’r Bwrdd.

 

Mewn ymateb i ‘oediad’ Cynllun Wylfa Newydd, nododd yr Aelod Cabinet  bod yr effaith, o ran gobeithion wedi bod yn niweidiol, ond bod y ‘safle’ yn parhau mewn bodolaeth fydd yn creu cyfleoedd pellach i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: