Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cynllunio
yn codi ymwybyddiaeth o ddatblygiad y
canllaw uchod cyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd benderfynu ar ei
addasrwydd i’w fabwysiadu 23.5.19. Gwnaed cais i’r Pwyllgor Craffu gyflwyno
sylwadau ar y canllaw i’r Pwyllgor Polisi.
Atgoffwyd yr aelodau bod y gweithgor craffu, sydd yn ymchwilio
i’r broses ymgynghori ar y Canllaw Cynllunio
Atodol (CCA) drafft ar ran y Pwyllgor Craffu,
wedi cyflwyno sylwadau ac argymhellion i’r Pwyllgor, sydd, yn ei dro, wedi eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Polisi eu hystyried cyn cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus.
Amlygodd Cadeirydd y Gweithgor Craffu ei ddymuniad
i wrthod yr adroddiad gan
fod awgrymiadau'r gweithgor wedi eu diystyru. Nododd
hefyd, yn dilyn cyhoeddiad Polisi Cynllunio Rhifyn 10 bod angen ystyried y newidiadau fyddai’n cael effaith
ar y CCA. Awgrymodd y dylid parhau i
ddefnyddio'r CCA presennol hyd 2020 a phenodi arbenigwyr i geisio
tystiolaethu ar effaith y canllaw gan lunio addasiadau
erbyn Awst 2020. Mynegodd bod trafodaethau wedi bod yn anodd
ac wedi eu hatal, ac nad
oedd y gweithgor wedi cael gwrandawiad
teg.
Ategodd y Cynghorydd Aled Evans (aelod o’r gweithgor
craffu) bod angen i’r canllaw fod yn
gryf a gwerthfawr ac roedd yn cwestiynu ei werth yn y ffurf bresennol.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro,
bod yr adroddiad yn cynnwys sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda chais
i’r Pwyllgor am sylwadau pellach. Byddai gwrthod yr adroddiad yn golygu ail
gyfleu sylwadau blaenorol fyddai yn amhriodol. Nododd fod yr hyn oedd yn cael
ei ofyn yn anodd i’w gyflawni gan y byddai’n golygu newid y polisi.
Pwysleisiodd nad oes modd
i’r Canllaw newid y polisi, ac mai pwrpas y Canllaw
yw cynnig mwy o eglurhad ac arweiniad parthed sut i weithredu’r
polisi. Amlygodd bod y trothwyon o ran pryd mae’n ofynnol gofyn
am asesiad/datganiad ieithyddol wedi ei gosod allan yng ngeiriad y polisi
Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y gweithgor yn gwrthwynebu’r
polisi ac mai ymdrech yw’r canllaw
ar sut i
gynnal a dehongli’r polisi. Ategodd mai annheg oedd
y cyhuddiad o ‘atal trafodaeth’ a pheidio gwrando. Nododd bod y broses o gydweithio gyda’r Pwyllgor Craffu, y Gweithgor Craffu a Phwyllgor Sgriwtini Môn, er yn
un hir, wedi bod yn un agored ac nad oedd sylwadau'r
Gweithgor a’r Pwyllgor Craffu wedi eu diystyru.
Amlygodd nad
oedd tystiolaeth wedi ei dderbyn
i dystiolaethu nad oedd y polisi
yn gweithio a’i fod yn
cael ei fonitro
yn flynyddol. Mynegodd fod cyfraniad
y gweithgor wedi bod yn werthfawr a bod rhai newidiadau wedi eu gwneud
yn dilyn y sylwadau a dderbyniwyd e.e., arbenigwyr allanol cynllunio ac iaith wedi eu
penodi i werthuso gwerth y canllaw. Ategodd bod cyfle am sylwadau pellach cyn i’r Pwyllgor Polisi
ei drafod ymhellach 23.05.19.
Cwestiynodd y Cynghorydd Aled Evans yr angen am ganllaw os nad oes angen asesiad
iaith ar safleoedd sydd eisoes wedi eu
dynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ac ar gyfer
y nifer fechan hynny os yw’r
‘angen’ wedi newid. Mewn ymateb,
roedd y swyddog monitro yn derbyn
rhwystredigaeth yr aelod ac yn nodi
y byddai angen newid deddfwriaeth i gyfarch hyn
gyda phwysau gwleidyddol a thystiolaeth briodol.
O’r ymateb, gofynnwyd sut mae modd casglu ystadegau
a thystiolaeth a beth yw’r ffordd ymlaen.
Gofynnwyd hefyd a oedd tystiolaeth
yn bodoli dros y ddwy flynedd
ddiwethaf ac os oes mecanwaith yn ei le i
gasglu tystiolaeth.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod ystadegau o’r cyfrifiad yn
cael ei ddefnyddio
ynghyd a gwybodaeth twf aelwydydd/
poblogaeth. Amlygodd hefyd bod yr uned
yn gweithio gyda swyddogion iaith.
Nodwyd fod dyletswydd ar y Cyngor i gyflwyno
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) o’r Cynllun i’r Llywodraeth
yn ystod mis Hydref eleni.
Amlygwyd bod yr AMB yn cynnwys dadansoddiad
o sut mae’r Cynllun yn cael
ei weithredu ac yn seiliedig ar
y 69 dangosydd monitro sydd wedi cael
ei adnabod yn y Cynllun. Mae rhai o’r dangosyddion
hyn yn benodol
ymwneud a materion ieithyddol a sut mae Polisi
Strategol 1 yn cael ei weithredu.
Amlygodd y Cadeirydd ei siom
nad oedd
mecanwaith casglu tystiolaeth yn ei le a bod hyn yn wendid yn
y broses.
Mynegodd Cadeirydd y gweithgor yr angen am ganllaw
cryf ac effeithiol i warchod yr
iaith yn unol â datganiad yr Aelod Cabinet yng Ngorffennaf 2017. Nododd bod y gweithgor wedi cynnal nifer
o gyfarfodydd gyda nifer y gwahoddedigion wedi mynegi eu
pryder nad
oedd digon yn cael ei
wneud i warchod
yr iaith. Pwysleisiodd yr angen i geisio
ymgynghoriad cyhoeddus ar bob cais dros
10 neu fwy o dai (5 mewn
ardal wledig) - nid yw hyn
yn ymddangos yn anodd gan
fod angen ymgynghori ar faterion
eraill beth bynnag.
Amlygodd y Cadeirydd ei siom
nad oedd
modd cryfhau'r canllaw, ond nododd
yr angen i gyflwyno sylwadau
pellach i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Nododd y Swyddog Monitro bod cyfle i gyfleu
sylwadau i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ac awgrymodd i’r gweithgor gyflwyno
sylwadau / mynegi pryderon ar ran y Pwyllgor Craffu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i’r gweithgor
craffu gyflwyno sylwadau ar ran y Pwyllgor Craffu i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio
ar y Cyd.
Dogfennau ategol: