Adeiladu 15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad gerbydol newydd a ffordd fynediad fewnol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard
Cofnod:
Adeiladu
15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad cerbydol newydd
a ffordd fynediad fewnol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
y cais yn gais amlinellol gyda’r mynediad a gosodiad yn ffurfio rhan o’r cais
amlinellol ac yn faterion i’w ystyried. Eglurwyd bod materion edrychiad,
tirweddu a graddfa yn faterion a gadwyd yn ôl ac felly ddim yn faterion i’w
ystyried fel rhan o’r cais. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o
dai unllawr a deulawr 2,3 a 4 ystafell wely.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu
Pwllheli ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(CDLl). Nodwyd y byddai 5 o’r tai ar gyfer angen fforddiadwy, sef unedau 2
ystafell wely a oedd yn cynnwys 4 tŷ teras ac 1 byngalo. Amlygwyd bod yr Uned
Strategol Tai wedi cadarnhau'r angen am y math yma o dai ym Mhwllheli. Nodwyd
bod y bwriad yn cynnig amrywiaeth briodol o dai ar y safle gan gydymffurfio â
gofynion polisi TAI 8 o’r CDLl ac yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol
Cymysgedd Tai.
Nodwyd o ran materion mwynderau gweledol a mwynderau
cyffredinol a phreswyl y gellir sicrhau bod y materion yma yn dderbyniol drwy’r
cais materion a gadwyd yn ôl ynghyd a’r amodau a argymhellir ar y cais gerbron.
Ymhelaethwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt bioamrywiaeth a
thrafnidiaeth. Ychwanegodd bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd mai’r cyfraniad
ariannol a fyddai’n ofynnol tuag at lefydd chwarae / mannau agored oedd
£5,001.71. Eglurwyd y byddai’r cyfraniad yn cael ei sicrhau drwy gytundeb 106.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i’r hyn a
nodwyd yn yr adroddiad, ar sail y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi cynnal trafodaethau efo cymdeithas dai yng nghyswllt
trosglwyddo’r tai ar hyn o bryd oherwydd bod y cais yn gais amlinellol ond bod
bwriad i wneud hyn ac i adeiladu’r tai i safonau adeiladu cymdeithasau tai
(safon ‘DQR’) a fyddai’n galluogi trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai.
Argymhellwyd sicrhau’r tai fforddiadwy drwy amod yn hytrach na drwy gytundeb
106 oherwydd y gellir asesu’r disgownt o dan gais materion a gadwyd yn ôl pan
fyddai manylion megis dyluniad a maint wedi ei gadarnhau. Argymhellwyd yn
ogystal i osod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg i’r tai/stad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Mai cais amlinellol oedd
gerbron a bod gosodiad y safle a mynediad i’w gytuno;
·
Byddai 5 tŷ yn dai
fforddiadwy ac roedd amod i sicrhau hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd;
·
Gan mai cais amlinellol a
gyflwynwyd nid oedd yr ymgeisydd wedi cysylltu efo cymdeithas dai ond roedd
dyluniad y tai dan sylw i safon ‘DQR’ tai cymdeithasol. Roedd cymdeithasau tai
wedi mynegi diddordeb ond ni chafwyd trafodaethau manwl;
·
Bod y safle wedi ei glustnodi
ar gyfer tai gyda llai o dai yn cael eu datblygu na’r hyn a nodir yn y CDLl;
·
Cynhaliwyd trafodaethau â’r
Uned Drafnidiaeth o ran lleoliad y fynedfa er sicrhau bod gwelededd digonol.
Roedd darpariaeth parcio ddigonol ar y safle ar gyfer y datblygiad.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod gofyn am y math o dai ond
bod angen ystyried y lleoliad. Roedd y ffordd i’r safle yn gul a pheryglus gyda
cheir wedi parcio ar yr allt. Pryder y byddai’r preswylwyr yn defnyddio’r
ffordd gefn i gyfeiriad Iocws a oedd yn cysylltu efo’r A499 ger Ysbyty Bryn
Beryl. Tynnu sylw bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais ond yn amlygu defnydd
o lôn a oedd yn barod yn lôn brysur a bod nifer o sylwadau wedi eu derbyn fel
rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus o ran diogelwch ffyrdd. Er bod gofyn am y math
o dai ddim yn gallu cefnogi’r cais oherwydd pryder diogelwch ffyrdd;
·
Nid oedd palmant ar y ffordd
i’r safle ac roedd y lôn yn gul ac yn hynod o beryglus gyda symudiadau traffig
sylweddol;
·
Yn fodlon ni fyddai’r
datblygiad yn gwneud y ffordd yn fwy peryglus ac yn hapus i gefnogi’r bwriad;
·
Mai’r adeg i wrthwynebu’r
safle fel safle i ddatblygu tai oedd pan luniwyd y CDLl, yn hapus efo’r bwriad;
·
Fyddai’n bosib creu palmant ar
y ffordd i’r safle i liniaru’r peryglon? Nid oedd y ffaith nad oedd damwain ar
y ffordd wedi ei gofnodi ddim yn golygu na allai damwain ddigwydd.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod y safle wedi
ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, ni fyddai’r safle wedi ei gynnwys yn y
cynllun pe na fyddai’n dderbyniol o ran trafnidiaeth. Bod yr argymhelliad yn
gadarn a bod angen bod yn ofalus gan y byddai’n bosib y byddai costau yn erbyn
y Cyngor mewn apêl pe gwrthodir y cais ar sail pryderon diogelwch ffyrdd;
·
Bod y bwriad yn
darparu 5 tŷ fforddiadwy a chymysgedd tai addas;
·
Bod y bwriad yn
cynnig gwelliant i’r sefyllfa bresennol gan y byddai palmant ar flaen y safle a
gwellhad o ran gwelededd yn y fynedfa oherwydd ei leoliad. Roedd tawelyddion
traffig ar yr allt i arafu traffig, hanes o ddefnydd cerddwyr a thraffig trwm a
dim damweiniau felly nid oedd tystiolaeth i ddangos bod y ffordd yn beryglus;
·
Nid oedd modd creu
palmant ar y ffordd oherwydd bod y tir ar un ochr dan berchnogaeth amryw o
berchnogion a bod wal gynnal ar yr ochr arall. Byddai’n bosib efallai rhoi
marciau ffordd i ddynodi coridor ar gyfer cerdded. Efallai ei fod yn fater i’w
ystyried wrth edrych ar y cynllun pellach.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 er mwyn
sicrhau’r cyfraniad ariannol tuag at gaeau chwarae / llecynnau agored ac i
amodau -
1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno
materion a gadwyd yn ôl (edrychiad, tirweddu, graddfa)
2. Llechi ar y to.
3. Cytuno deunyddiau waliau allanol.
4. Amodau ffyrdd
5. Amod Dŵr Cymru i gysylltu dŵr
budr yn unig i’r garthffos gyhoeddus
6. Cyflwyno a chytuno strategaeth ddraenio
fanwl
7. Trawsleoli ymlusgiaid
8. Dim clirio’r safle yn ystod y tymor nythu.
9. Cynllun goleuo yn unol gyda’r hyn sydd yn
yr asesiad ecolegol.
10. Diogelu gwrychoedd.
11. Ffens diogelu ardal gwreiddiau coed.
12. Amod safonol ar gyfer datblygiadau mawr o ran
gwybyddu o gychwyn y gwaith.
13. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol tai
fforddiadwy.
14. Cyfyngu oriau gweithio.
15. Cytuno ar ddull i sicrhau 5 tŷ
fforddiadwy.
16. Enwau Cymraeg i’r tai/stad.
Dogfennau ategol: