skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddogion Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

 

Cofnod:

i)          Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Marchnad Lleol

 

Cyflwyniad gan Rhodri Owen yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 25 Ionawr 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’r Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw.

 

Materion a godwyd:

 

      Gofynnwyd am eglurder pellach ar gyfer yr ymateb i sylw 7 o ran  nad oes bwriad i gyfyngu ar bris tai marchnad leol.

      Codwyd cwestiwn os oedd modd i gystadleuaeth ar gyfer tai fforddiadwy olygu fod ei prisiau hwy yn cynyddu.

      Nodwyd fod y system gynllunio yn Lloegr wedi newid i alluogi mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid defnydd adeiladau i ddefnydd preswyl yn y cefn gwlad. Holwyd os oedd hyn yn debygol o ddigwydd yng Nghymru? Hefyd a oes modd pwyso am hyn trwy deddfwriaeth o Caerdydd efo pwyslais ar bobl leol i gael blaenoriaeth am fath ddatblygiadau?

      Cwestiynwyd os oedd yna broblem efo’r ardaloedd lleol ym Mholisi TAI 5 os diffinnir ardaloedd gwahanol ar gyfer tai fforddiadwy o dan Polisïau TAI 4 a TAI 6.

 

 

Ymateb:

 

      Esboniwyd nad yw tai marchnad lleol yn cyd fynd â’r diffiniad cynllunio a roddir yn NCT 2 ar gyfer tai fforddiadwy ac felly maint y tai a maint y farchnad fydd yn rheoli pris y tai yma yn hytrach na mecanwaith cynllunio. Fe ellid cael esiampl ble mae dau unigolyn lleol yn cystadlu am dŷ a all olygu fod ei werth yn cynyddu i fod yn agos i werth tŷ marchnad agored.

      Oherwydd bod mecanwaith penodol wedi ei osod ar gyfer unedau fforddiadwy ni all eu gwerth gynyddu uwchben y lefel disgownt sydd yn berthnasol ar gyfer unedau penodol.

      Mae’r broses yn wahanol yng Nghymru a ni rhagwelir a hyn o bryd y buasai yna gefnogaeth yng Nghymru i gael proses tebyg i Lloegr ar gyfer hyn oherwydd deallir bod y newid yn y rheoliadau yn achosi anawsterau ac oherwydd nad oes dim rheolaeth dros feddiannaeth y tai a fyddai’n cael eu creu, h.y. ni chyfyngir yr unedau i fod yn dai i bobl leol ac ni ellir atal iddynt gael eu defnyddio fel tai haf/ ail gartrefi. Mae Polisi yn y Cynllun eisoes yn galluogi adeiladau ar fferm gael caniatâd cynllunio i’w trosi i fod yn dai fforddiadwy angen lleol (os ellir dangos nad oes defnydd economaidd yn ymarferol). Mater i’r Cynghorau yw os ydynt eisio pwyso ar Llywodraeth Cymru i gael deddfwriaeth newydd am y math yma o ddatblygiadau.

      Mae ardaloedd Tai marchnad Lleol wedi cael ei diffinio yn y Polisi a felly nid oes problem efo creu ardal gwahanol ar gyfer diffinio’r ardal wledig gyfagos yn Mholisïau TAI 4 a TAI 6.   

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw hwn.

 

ii)         Canllaw Cynllunio Atodol: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd

 

Cyflwyniad gan Linda Lee yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 25 Ionawr 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus  am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw.

 

 

Materion a godwyd:

 

      O edrych ar yr esiampl o 50 o dai sydd yn y Canllaw beth sydd yn digwydd pan mae Pentref efo mwy o dir na beth yw’r angen?

      Cafodd cais diweddar ei wrthod er fod y bwriad yn darparu llecyn agored.

 

Ymateb

      Mae Cam 1 o’r Canllaw yn adnabod os oes diffyg yn y gymuned, os nad oes diffyg yna ni fydd angen darparu llecynnau agored efo bwriad. Mae’r llecynnau agored o fewn aneddleoedd wedi eu mapio ac mae’n bwysig trafod unrhyw ddarpariaeth arfaethedig gyda’r Cyngor Cymuned. Efallai na fyddai ond angen math penodol o lecynnau agored o fewn anheddle penodol, e.e. ddim yn angenrheidiol i bentref bychan ddarparu cae pêl droed ond o bosib byddai llecyn chwarae plant ei angen yno.    

      Bydd rhaid i bob cais fodloni polisïau eraill o fewn y CDLl ar y cyd i gael cymeradwyaeth. Felly hyd yn oed os yw’n darparu y llecyn agored perthnasol yn unol â’r angen a gafodd ei sefydlu, gall fod yna resymau eraill pam na yw’r bwriad yn cael cefnogaeth. Nid yw’r canllaw hwn yn nodi ble ddylid lleoli unrhyw lecyn agored o fewn safle. Yn hytrach mae’n sefydlu’r fethodoleg dros ganfod os oes angen gwneud darpariaeth pellach o’r fath. Caiff union leoliad llecyn agored ei drafod o fewn y broses o ymdrin â chais cynllunio.   

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r sylwadau dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw hwn.

 

 

Dogfennau ategol: