Cyflwyno adroddiad y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad ar ran is-grŵp o’r pwyllgor yn argymell y ffordd
ymlaen o ran cyflogau aelodau etholedig.
Gan gyfeirio at yr argymhelliad i gadw lefelau cyflogau Aelodau Cabinet a
Chadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ostwng y
lefelau cyflogau i Lefel 2, ar y sail y byddai hynny’n arbed oddeutu £40,000
i’w wario mewn meysydd eraill ac yn dangos i drigolion y sir fod y Cyngor yn
fodlon rhannu’r boen yn y cyfnod presennol o galedi.
Mynegodd rhai aelodau eu gwrthwynebiad i’r gwelliant ar y sail:-
·
Er bod lle bob amser i edrych ar gyflogau’r holl
aelodau, mai camgymeriad fyddai gwahanu dyletswyddau’r Aelodau Cabinet oddi
wrth y cyflog gan y byddai’r dyletswyddau yn aros yr un fath, ond y cyflog yn
gostwng.
·
Bod yr Aelodau Cabinet wedi eu penodi i’r swyddi’n
llawn-amser a bod rhai wedi rhoi’r gorau i swyddi eraill neu wedi gorfod gwneud
trefniadau arbennig er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl.
·
Nad dyma’r adeg i adolygu cyflogau, eithr ar
ddechrau tymor newydd y Cyngor.
·
Os oes awydd i ail-ymweld â chyflogau, dylid edrych
ar gyflogau’r holl aelodau, ac nid yr Aelodau Cabinet yn unig.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe ddisgynnodd.
Gan gyfeirio at yr argymhelliad i beidio talu uwch-gyflog i Gadeirydd y
Pwyllgor Apelau Cyflogaeth o hyn allan, mynegodd Cadeirydd presennol y Pwyllgor
Apelau Cyflogaeth (fyddai’n sefyll i lawr y mis hwn) ei wrthwynebiad i’r
argymhelliad ar y sail:-
·
Bod y pwyllgor yn gweithredu ar ran 6,000 – 7,000 o
staff y Cyngor ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac emosiynol dros ben,
e.e. i ddiswyddo staff.
·
Bod nifer y cyfarfodydd wedi cynyddu gyda’r pwyllgor
yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis, ac weithiau ddwywaith.
·
Bod y cyfarfodydd yn rhai trwy’r dydd a bod un cyfarfod
wedi mynd ymlaen am ddau ddiwrnod a chyfarfod arall wedi mynd ymlaen o 9.30yb
tan 7.00yh.
·
Nad oedd yr is-grŵp fu’n edrych ar gyflogau
aelodau wedi trafod y llwyth gwaith gydag ef nag aelodau’r Pwyllgor cyn llunio
eu hargymhelliad.
·
Pe na bai’r Cyngor yn fodlon gwrthod yr
argymhelliad, y byddai’n fodlon cynnig bod yr is-grŵp yn gwneud rhagor o
waith ymchwil ar y mater, fyddai’n cynnwys holi cadeiryddion ac aelodau’r
Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Pwyllgor Pensiynau ynglŷn â’r llwyth gwaith.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gadw at y drefn bresennol oherwydd
llwyth gwaith y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth.
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-
·
Y gallai’r gwaith ychwanegol sy’n wynebu Cadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau olygu 17 cyfarfod mewn blwyddyn, gan gynnwys aros dros nos
ar rai achlysuron, a gallai olygu ymrwymo o leiaf 19 diwrnod yn y cyswllt hwn.
·
Bod aelodau’r Pwyllgor Pensiynau yn gorfod ymgymryd
â hyfforddiant ac asesiadau parhaus.
·
Y gobeithid bod yr is-grŵp wedi edrych yn fanwl
ar y llwyth gwaith sydd ynghlwm â’r ddwy rôl, ac wedi eu cymharu a dod i
ddealltwriaeth.
·
Bod gan Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau lawer o waith
i’w wneud y tu allan i’r pwyllgor, ac nad mater o nifer cyfarfodydd yn unig
ydoedd.
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chywirdeb y ffigurau yn yr adroddiad
o ran nifer cyfarfodydd y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth, cadarnhaodd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol y cynhaliwyd 4 cyfarfod yn 2015-16, er y clustnodwyd
un dyddiad bob mis ar gyfer gallu cynnal gwrandawiad buan petai angen.
Nodwyd, er bod mwyafrif cyfarfodydd y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth yn cael
eu canslo, bod hynny’n dueddol o ddigwydd ar y funud olaf wedi i’r aelodau
gwblhau’r holl waith paratoi.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant i gadw at y drefn bresennol ac fe
ddisgynnodd.
Pleidleisiwyd ar y
cynnig gwreiddiol i beidio talu uwch-gyflog i Gadeirydd y Pwyllgor Apelau
Cyflogaeth o hyn allan, ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD
(a) Cadw lefelau
cyflogau Aelodau Cabinet ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith a
chyfrifoldebau cyfartal i’r meysydd gwaith) a chadw lefelau cyflogau
Cadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith, natur
ddaearyddol y sir a’r gofynion i deithio i gyfarfodydd ayyb)
(b) Ar
sail y wybodaeth a ystyriwyd gan yr is-grŵp, talu uwch-gyflog i Gadeirydd
y Pwyllgor Pensiynau yn sgil y gwaith a’r gofynion ychwanegol sydd i ddod i
Gadeirydd y pwyllgor hwnnw yn sgil y newidiadau.
(c) Er
mwyn gallu gweithredu’r uchod, gan fod y Cyngor wedi ei gyfyngu i dalu 18
uwch-gyflog yn unig, na thelir uwch-gyflog i Gadeirydd y Pwyllgor Apelau
Cyflogaeth o hyn allan.
Dogfennau ategol: