Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
COFNODION:
Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr aelodau
drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:
·
Rhagwelwyd
y byddai archwiliad tanddwr o'r angorfeydd yn yr harbwr yn cael ei gynnal cyn cyfnod
y Pasg, yn amodol ar ymrwymiadau'r contractwr angorfeydd a’r amodau tywydd.
·
Hysbysebir
swydd Cymhorthydd Harbwr llawn amser yn Harbwr Porthmadog, byddai’r swyddog yn
rhoi cymorth i’r Harbwr Feistr gyda’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau yn
ogystal â gweithio yn harbyrau Aberdyfi ac Abermaw pan fod angen.
Rhannwyd crynodeb bras o gyllidebau'r harbwr a'r sefyllfa ariannol hyd
at ddiwedd Chwefror 2019. Manylodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar y
cyllidebau gan nodi bod yr incwm a gasglwyd, £10,754 yn is na’r targed incwm.
Nododd y rhagwelwyd gorwariant o oddeutu £20,000 ar ddiwedd blwyddyn ariannol
2018/19 ond o ystyried maint a chyfrifoldebau’r Harbwr a bod adnoddau ariannol
wedi eu hymrwymo ar gyfer cynnal a chadw a oedd yn fuddsoddiad yn yr Harbwr.
Tynnodd sylw at ffioedd a thaliadau 2019/20.
Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran incwm parcio Traeth y Greigddu,
eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod costau traethau yn cael eu
cyllido dan gyllidebau traethau a nid oedd gwariant a incwm traethau yn rhan o
gyllideb harbyrau.
Tynnodd aelod sylw bod swyddogion yr Harbwr yn gweithio ar adegau ar y
traethau. Holodd os oedd yr oriau a dreulir yn cwblhau’r gwaith yn cael eu
had-dalu o’r gyllideb traethau. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod trefniant yn bodoli lle'r oedd swyddogion traethau a
swyddogion yr Harbwr yn cydweithio ar adegau ar waith yn yr Harbwr ac ar y
traethau er cyflwyno y budd gorau i drigolion Gwynedd yn unol â Ffordd
Gwynedd.
Cyflwynodd Harbwr Feistr Porthmadog adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb
o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref
2018 a mis Chwefror 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn
ystod y cyfnod. Nododd bod bwi mordwyo rhif 10 wedi dod i’r lan,felly roedd
Rhybudd i Forwyr wedi ei rhyddhau yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad.
Nododd aelod ei fod yn braf gweld lluniau yn nodi gwerthfawrogiad o’r
gwaith ynghlwm â’r morglawdd ym Morth-y-Gest gyda gwrthwynebwyr i’r bwriad
bellach yn ei groesawu gan ei fod wedi gwella’r sefyllfa.
Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod arwyddion diogelwch
Sefydliad y Bâd Achub a fwriedir eu gosod yn ardal Morfa Bychan yn arwyddion da
iawn. Tynnodd sylw bod Bâd Achub Cricieth wedi achub 10 unigolyn oddi ar Fanc y
Gogledd ger Traeth y Greigddu yn ystod 2018 a oedd yn ganran sylweddol o’r
nifer o fywydau a achubwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ystod y flwyddyn
gyda 182 bywyd wedi eu hachub yn y cyfnod. Nododd aelod bod y Gwasanaeth yn un
effeithiol a phwysig iawn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt y consesiwn hufen iâ,
nododd Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r tendr yn cael ei hysbysebu yn ystod
mis Mawrth. Ychwanegodd yr aelod ei fod yn awyddus i’r tendr gael ei hysbysebu
mor fuan â phosib.
Nododd aelod mai’r Cynghorydd Nia Jeffreys oedd yn ymgymryd â’r gwaith
Caru Port yn ei le a bod bwriad i ymestyn y goleuadau oedd wrth ochr Y Ganolfan
i fynd o amgylch.
Derbyniwyd diweddariad gan Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ar Gynllun
Clwb Hwylio Madog i gynyddu nifer y pontŵns yn yr harbwr. Nododd bod yr
holl waith papur perthnasol o ran gosod y pontŵns yn yr harbwr, gan
gynnwys union safle'r prif estyniad a'r bysedd pontŵn, wedi ei gyflwyno i
Cyfoeth Naturiol Cymru. Eglurodd bod Clwb Hwylio Madog wedi derbyn ymateb gan
Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau y derbyniwyd yr holl
waith papur perthnasol. Ymhelaethodd y bwriadwyd gosod y prif adrannau pontŵn
ychwanegol 24 medr a’r bysedd pontŵn dechrau mis Ebrill, mewn pryd ar
gyfer y tymor i ddod, ac fe gwblheir y gwaith gan Intermarine UK Limited.
Dogfennau ategol: