skip to main content

Agenda item

Newid defnydd anecs i lety gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Newid defnydd anecs yn llety gwyliau

 

         Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn stad o dai preswyl yng Nghriccieth. Nodwyd bod y safle yn cynnwys eiddo preswyl deulawr gydag adeilad allanol unllawr gyda tho pits o fewn y cwrtil sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell chwaraeon.

 

Ategwyd bod cynllun llawr diwygiedig, datganiad Dylunio a Mynediad a Chynllun Busnes wedi ei cyflwyno (27.11.18) fel rhan o’r cais oedd yn lleihau’r nifer o ystafelloedd gwelyau o   ddwy i un ac yn dileu ffenestr fyddai yn goredrych cwrtil yn eiddo preswyl.

 

Eglurwyd bod cyngor cyn cyflwyno cais wedi ei ddarparu lle amlygwyd yn yr ymateb bod y bwriad yn groes i bolisïau TWR 2 a PCYFF 2 oherwydd bod yr uned bwriedig wedi ei leoli o fewn ardal breswyl yn bennaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion cyfagos. Amlygwyd  bod polisi TWR 2 yn caniatáu trosi adeiladau allanol llety gwyliau ar sail fod y datblygiad yn un o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac yn cwrdd â phum maen prawf. Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn cwrtil annedd breswyl o fewn ystâd breswyl ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda phwynt iv o Bolisi TWR 2 - Nad yw’r datblygiad yn  cael ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed arwyddocaol i gymeriad preswyl ardal;. Ategwyd oherwydd agosatrwydd y bwriad i’r eiddo presennol ni ellid ystyried y byddai’n un o ansawdd uchel o ran lleoliad ac y byddai defnyddio’r adeilad fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r datblygiad yn annerbyniol gyda’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau ei gilydd. Nid oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda phwynt ii Polisi TWR2 - Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad, a/neu anheddiad dan sylw.

 

Ystyriwyd bod y bwriad hefyd yn groes i PCYFF 2 o ran sicrhau a diogelu mwynderau meddianwyr presennol ac i’r dyfodol rhag gweithgareddau allai achosi aflonyddwch i’r stad o ran sŵn a symudiadau fyddai’n gysylltiedig gyda natur gwyliau.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

(c)     Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â fyddai modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i ystyried posibiliadau ac addasu’r cynllun, nodwyd mai anodd fyddai dod dros feini prawf TWR2 gyda’r bwriad dan sylw. Ategwyd bod cyngor cyn cyflwyno wedi ei ddarparu i’r ymgeisydd lle amlygwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau.

 

(ch)   Mewn ymateb i sylw gan Aelod y byddai anecs ar gyfer rhieni yn dderbyniol ond uned gwyliau yn annerbyniol, nodwyd mai'r brif egwyddor dan sylw yma oedd y math o ddefnydd oedd yn cael ei ystyried a’r angen i warchod lleoliadau preswyl. Ategwyd nad oedd y Gwasanaeth Cynllunio a’r gallu i reoli tai marchnad agored, ond gyda bwriad o’r math yma bod modd rheoli trwy ddeddfwriaeth. Gallai caniatáu’r bwriad osod cynsail i ddatblygiadau tebyg o greu uned llety hunangynhaliol mewn ardal breswyl.

 

(d)     Mewn ymateb i awgrym o osod cytundeb 106 ar yr uned gwyliau fel na ellir gwerthu’r ddau uned ar wahân i’w gilydd, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod gosod cytundeb 106 yn debyg o gael her i’w ddiddymu ymhen 5 mlynedd.

 

(dd)   Mewn ymateb i sylw ynglyn ar angen am eglurder i niferoedd llety twristiaeth yng Nghriccieth (70 uned a 5 uned hunan darpar) o gymharu â chyfanswm o 41 (mewn datganiad nifer trethi annomestig) nodwyd bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r Uned Twristiaeth ac nad oedd ganddynt unrhyw reswm i anghytuno gyda’u sylwadau.

 

(e)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Nad yw cystadlu yn rheswm dros wrthod

·         Bod yr adeilad o faint garej dwbl ac felly os caniatáu gall osod cynsail peryglus i eraill

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

Mae’r bwriad o drosi’r adeilad cwrtil presennol i lety gwyliau hunangynhaliol yn annerbyniol oherwydd lleoliad y safle o fewn stad o dai preswyl, ac nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi nad oes gormodedd o’r math yma o lety yn yr ardal sy’n groes i feini prawf iv a v o bolisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026. O ganlyniad i leoliad yr adeilad, ai agosatrwydd at yr eiddo preswyl presennol ar y safle, ni ellir cysidro fod y bwriad yn un o ansawdd uchel o ran lleoliad ac ystyrir y byddai defnyddio’r adeilad cwrtil yma fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r bwriad yn annerbyniol ac y byddai’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar eu mwynderau ei gilydd, sy’n groes i ofynion polisi TWR 2 a’i faen prawf rhif ii o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

Mae’r bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 o ran sicrhau mwynderau meddianwyr presennol ac i’r dyfodol o ran diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol rhag gweithgareddau allai achosi aflonyddwch i’r stad o ran sŵn a symudiadau.

Dogfennau ategol: