Cais ar gyfer darparu safle ar gyfer 15 uned teithiol gan gynnwys ystafell hamdden a toiledau
AELOD LLEOL
Cynghorydd Aled Lloyd Evans
Cofnod:
Cais ar gyfer darparu safle ar
gyfer 15 uned deithiol gan gynnwys ystafell hamdden a thoiledau
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol. Eglurwyd bod
y bwriad yn cynnwys creu safle annibynnol ar gyfer lleol 15 o garafanau
teithiol ynghyd a phlannu coed cynhenid draenen ddu, wen a chelyn gyda ffens
goed er mwyn darparu ffin rhwng y silwair a phit silwair.
Nodwyd
bod y safle yn sefyll yng nghefn gwlad agored ac o fewn ffiniau fferm bresennol
gydag unedau gwyliau. Adroddwyd bod sied amaethyddol gyda chyfleusterau presennol
yn ochri gyda’r safle gyda bwriad o
ddefnyddio’r adeilad i ddarparu cyfleusterau toiledau a chawodydd. Amlygwyd bod
y safle wedi ei guddio gan wrych a choed ar y ffin rhyngddo a’r briffordd fydd
yn sicrhau bod y safle wedi ei guddio yn eithaf da o’r dirwedd ehangach.
Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd
fel rhan o’r cais yn cynnwys tirlunio ychwanegol ar hyd terfyn deheuol y safle
sydd yn gwahanu'r safle o’r pit silwair gerllaw. Nodwyd bod y cynlluniau hyn yn cynnwys
mesurau lliniaru ar gyfer y datblygiad arfaethedig fyddai’n atgyfnerthu’r
tirweddu presennol. Ystyriwyd bod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad yn
dderbyniol ac na fyddai’n peri newid sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.
O
safbwynt agosatrwydd at y rhwydwaith ffyrdd, amlygwyd bod gan y safle fynediad
uniongyrchol i ffordd ddosbarth 1 A497 gyda gwelliannau diweddar wedi bod i’r
fynedfa yn sgil cynllun gwella'r ffordd. Ni ystyriwyd y byddai angen gwneud
addasiad pellach i’r fynedfa er gwasanaethu’r bwriad ac ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth
wedi cadarnhau na fyddai ‘n achosi effaith andwyol o ran diogelwch ffyrdd.
Tynnwyd sylw at
ymatebion yr ymgynghoriad yn yr adroddiad ac amlygwyd na dderbyniwyd ymatebion
gan y cyhoedd. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned
fod gormod o safleoedd o fewn ardal gyfyng nodwyd bod paragraff 6.3.81 yn dilyn
polisi TWR 5 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol yn gofyn sicrhau na fydd gormodedd
o unedau teithio o fewn un ardal yn ychwanegu at broblemau gwasanaethu na
niweidio cymeriad neu adnoddau naturiol, yr ardal. Gan fod y safle wedi ei
leoli tu allan i’r AHNE ni ystyriwyd na fyddai yn ychwanegu at broblem
gwasanaethu nac yn niweidio cymeriad yr ardal ac felly'r bwriad yn dderbyniol.
(b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
(c) Wrth
drafod y cais, amlygodd un o’r aelodau bod Cyngor Cymuned / Tref wedi gwrthod y
cais ar sail gormodedd
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2.
Unol â chynlluniau
a gyflwynwyd.
3.
Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w
cyfyngu i 15.
4.
Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
5.
Defnydd gwyliau yn unig.
6.
Cadw cofrestr.
7.
Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
8.
Cyflawni’r cynllun tirlunio.
9.
Gosod y tanc septig yn weithredol cyn defnyddio’r
safle
10.
Rhaid gosod yr unedau yn unol â chynllun 1515/03
(diwygiad 26/11/2018)
Dogfennau ategol: