skip to main content

Agenda item

Codi 7 byngalo ar wahan (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 byngalo par, mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan cais rhif C18/0132/23/LL

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Charles Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Codi 7 byngalo (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 dŷ deulawr, mynedfa newydd    a          gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan          gais rhif           C18/0132/23/LL

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 7 tŷ unllawr i gynnwys un tŷ fforddiadwy a thŷ dwylawr marchnad agored ynghyd a chreu mynediad newydd, ffordd stad, llecynnau parcio, rhodfeydd a seilwaith cysylltiedig. Nodwyd y byddai’r safle yn cael ei wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth 1 sydd yn cynnwys culfan bws gerllaw.

 

         Amlygwyd bod Datganiad Dylunio a Mynediad wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r cais. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a nodwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Nodwyd hefyd bod gwybodaeth pris y tŷ fforddiadwy wedi ei dderbyn ers ysgrifennu’r adroddiad. Ategwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn bod carthffos gyhoeddus yn rhedeg o dan lecyn tir gwag oedd ar y safle ac na fydd modd adeiladu drosto. Y bwriad yw, cynnig y tir i’r feddygfa gyfagos neu i’r Cyngor Cymuned ar ddiwedd y gwaith datblygu,

 

         Lleolir y safle o fewn ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Llanrug yn ogystal â’i fod wedi ei ddynodi yn bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Er bod y safle yn gallu ymgymryd â 10 tŷ eglurwyd oherwydd amgylchiadau eithriadol yn ymwneud a diogelu'r garthffos gyhoeddus sy’n croesi’r safle mai 9 tŷ sydd yn briodol.

 

         Penderfynwyd gohirio’r cais blaenorol er mwyn derbyn tystiolaeth bellach am yr angen o’r math o dai yng nghymuned Llanrug. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad cymysgedd tai oedd yn ymateb i’r angen lleol  ac y byddai codi tai un llawr ar y safle yn rhyddhau tai deulawr 3/4/5 llofft yn y pentref ar gyfer teuluoedd a’r dymuniad i fyw’n lleol.

 

         Adroddwyd bod y bwriad yn golygu creu mynedfa safonol oddi ar y ffordd sirol dosbarth 1 cyfagos ynghyd ag ymestyn llwybr troed presennol i mewn i’r safle. Eglurwyd bod y cynllun diweddaraf yn ganlyniad o drafodaethau rhwng yr ymgeisydd, yr Aelod Lleol a’r Uned Drafnidiaeth ac o ganlyniad wedi sicrhau diogelwch ffyrdd ar sail gwelededd a’r nifer o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu.

 

         Eglurwyd bod data Lleoliad Ysgolion Cynradd Gwynedd yn cadarnhau bod digon o gapasiti o fewn Ysgol Gynradd Llanrug i allu ymdopi gyda’r niferoedd o blant a all ddeillio o’r datblygiad hwn ac i’r perwyl hynny ni fyddai angen cyfraniad addysgol gan yr ymgeisydd.

        

         Ystyriwyd bod y bwriad cyfredol yn dderbyniol a’i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·       Bod nifer o drafodaethau wedi eu cynnal yn lleol

·       Bod y cais gerbron yn ymateb i ofynion y gymuned leol

·       Derbyn bod yr ymgeisydd yn fodlon cynnal trafodaethau am y llecyn gwag ar ôl i’r                      gwasanaethau gael eu gosod

·       Croesawu bod yr ymgeisydd wedi ystyried cymysgedd tai addas yn ôl yr angen sydd                  yn y pentref

·       Bod y cynllun bellach yn ymateb i bryderon parcio

·       Er bod cais wedi ei wneud am lwybr cyswllt, nid oedd yr ymgeisydd yn fodlon newid                   y cynllun ymhellach gan nad oedd rhaid iddo osod llwybr.

·       Wedi ystyried yr addasiadau, bodlon caniatáu y cais

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

          PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn                 ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau bod 1 o’r 9 tŷ yn dŷ fforddiadwy ac i’r amodau isod:

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau.

3.    Llechi naturiol.

4.    Deunyddiau allanol.

5.    Amodau’r Uned Drafnidiaeth.

6.    Amod Dŵr Cymru parthed gwaredu dŵr aflan o’r safle.

7.    Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar yr uned fforddiadwy.

8.    Tirlunio.

9.    Cwblhau’r cynllun draenio cyn meddiannu unrhyw annedd breswyl.

 

 

Dogfennau ategol: