skip to main content

Agenda item

Cais llawn ar gyfer gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, er mwyn cyflawni arglawdd rip-rap wedi'i ehangu ar llain ogleddol datblygiad rhan II, yn ogystal a gwaith pellach i atgyfnerthu'r hen llenni dur o amgylch mur y doc

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

 

Cais llawn ar gyfer y gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, i gyflwyno arglawdd rip-       rap estynedig ar barsel datblygu gogleddol Cam II, yn ogystal â gwaith pellach i atgyfnerthu'r             hen lenni dur o amgylch wal y doc

 

Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod dau gais blaenorol wedi bod ar y safle i godi lefel  tir er mwyn ei ddatblygu ymhellach. Roedd rhain yn cynnwys darparu cerrig o gwmpas y safle a rip rap      (amddiffynfa môr). Bwriad y cais cyfredol oedd ymestyn y rip rap yn ymhellach ynghyd â           gosod llenni dur o gwmpas y cei - elfennau mwyaf ymwthiol y cais.

 

          Yn dilyn cyflwyniad asesiadau dirgryniad a sŵn ymgynghorwyd gydag Uned Gwarchod y   Cyhoedd, Cyngor Gwynedd. Daethpwyd i’r casgliad i argymell caniatáu y cais gydag            amodau           penodol monitro sŵn yn ystod y gwaith ynghyd â monitro tirgryniad; ac oherwydd   agosatrwydd tai i’r safle, cyfyngu oriau gwaith i 4 awr y dydd a dim ond dwy awr mewn un     lleoliad penodol.

 

          Yn dilyn asesiad o dan Ddeddf Cynefinoedd 2017, gan fod rhan o'r traeth o flaen y safle yn            cael ei effeithio gan y gwaith, ni ystyriwyd y byddai effaith ar ardaloedd cadwraeth        rhyngwladol Traeth Lafan ac Afon Menai. Er hynny, amlygwyd y byddai mesuriadau lliniaru    wrth osod llenni dur  i beidio gweithio 2 awr cyn ac awr a hanner ar ôl llanw uchel.

 

          Ynglŷn â materion gosod y llenni dur, amlygwyd gan fod waliau'r doc yn dirywio buasai’n    orfodol gwneud gwaith arbed i’r dyfodol. Gyda thai o fewn 25m i’r gosodiad, tynnwyd  sylw'r         ymgeisydd at dechnegau llai ymwthiol o osod llenni dur i mewn i’r ddaear  gan gynnig techneg   silent sheet piling’. Er bod yr ymgeisydd yn fodlon mabwysiadu'r dechneg yma            mynegwyd yr angen am sicrwydd o fesuriadau lluniau pellach ac felly byddai gofyn am         amodau ychwanegol i’r ymgeisydd gadarnhau, cyn dechrau’r gwaith i egluro'r union             dechneg a’r fethodoleg fyddai yn cael ei defnyddio i osod  y llenni. Byddai hefyd angen cadarnhau cynllun monitro dirgryniad, safle’r gwaith ynghyd â’r math o offer fydd yn cael ei           ddefnyddio.       

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd, oedd yn cynrychioli trigolion y bae a thai cyfagos, y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod cais blaenorol wedi ei wrthod oherwydd presenoldeb llysiau’r dial. Angen tystiolaeth bod y planhigyn wedi ei ddifa. Yr un yw’r broblem gyda’r safle yma ac felly angen sicrhau nad oes llysiau dial ar y safle cyn dechrau.

·         Bod y cartref agosaf oddeutu 20m i’r safle

·         Derbyn bod yr ymgeisydd wedi cytuno i newid ei ddull o weithio ond nid yw’r adroddiad yn adlewyrchu dulliau gweithio. Nid yw’r ystadegau yn gywir ac felly angen cais o’r newydd

·         Nid oes gan yr ymgeisydd unrhyw ymrwymiad i ddymuniadau trigolion cyfagos. Ffydd ac ymddiriedaeth yn yr ymgeisydd yn wael, nid ydynt yn cadw at eu gair ac felly angen amodau llym i reoli’r sefyllfa

 

( c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod cais i ymestyn gwaith wedi ei warantu yn  Nhachwedd 2016

·         Bod yr ymgeisydd yn cydweithio gyda’r Awdurdod Cynllunio i geisio datrysiadau

·         Y byddai’r ymgeisydd yn cadw at y rheolau caeth

·         Bod asesiad cynefinoedd wedi ei gwblhau

·         Na fyddai unrhyw adwaith croes

·         Pob pryder wedi ei ddiwallu

·         Bod yr adroddiadau technegol wedi eu gwerthuso gan y Swyddogion Cynllunio

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):

·           Bod sŵn o’r lefel tirgryniant ar lefel uchel iawn

·           Y byddai defnyddio offer  ‘silent vibration free’ yn well na’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol er nad oedd cadarnhad mai'r peiriant yma gaiff ei ddefnyddio. Petai amod yn cael ei gynnwys yn amlygu hyn, byddai’r trigolion yn fodlon.

·           Derbyn yr angen i amddiffyn y safle rhag y môr

·           Os byddai cadarnhad gan yr asiant o’r cynllun gweithredu, byddai hyn yn rhoi sicrwydd i’r trigolion a’r cais yn cael ei ystyried yn dderbyniol.

 

(d)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais ynghyd a gosod amod ychwanegol yn manylu ar y    math o offer fydd yn cael ei ddefnyddio.

 

(dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         A yw’r llysiau dial wedi eu gwaredu yn unol â’r gofyn?

 

          PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r ystod o amodau a nodir isod ac amodau ychwanegol i gytuno ar y math o offer fydd yn cael ei ddefnyddio i osod y llenni dur ac amod monitro dirgryniad a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad;

 

·        Cychwyn ymhen pum mlynedd,

·        Gweithrediadau dros dro yn cynnwys y gwaith gosod llenni dur a chario 7,500 tunnell o gerrig i'w weithredu o fewn amserlen o ddeuddeg mis o ddyddiad hysbysu'r Awdurdod Cynllunio Lleol,

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·        Cario deunyddiau wedi'i gyfyngu i 150 o dunelli'r diwrnod, rhwng 08.00 a 17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu gyfanswm o wyth llwyth y diwrnod,

·        Cyfyngu'r gwaith gosod llenni dur i 4 awr y dydd mewn unrhyw gyfnod 08.00 - 18.00 a dim gweithredu'n barhaus am fwy na 2 awr yn unrhyw leoliad penodol.

·        Argymell cyfyngiad sŵn o 65dB LAeq, 10 awr a gofyn am fonitro sŵn,

·        Cyfyngiad dirgryniad o 10 PPV mm-e -1 yn yr eiddo preswyl agosaf a gofyn am fonitro dirgryniad,

·        Hysbysiad o ddechrau a gorffen y gwaith gosod llenni dur,

·        Pan fo lefelau sŵn (sydd yn aer ac o strwythurau) yn uwch na'r lefelau a ragwelir bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol a'r Adran Gwarchod y Cyhoedd yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosib dros y ffôn neu'n electroneg.

·        Mesurau lliniaru i leihau'r effaith ar y pibydd goesgoch, a nodweddion eraill o ddiddordeb bioamrywiaeth leol, yn cynnwys;

o   Gwahardd gwaith gosod llenni dur 2 awr cyn llanw uchel ac awr a hanner ar ôl llanw uchel rhwng mis Medi a mis Mawrth h.y. cyfnod o ddim gwaith am dair awr a hanner o amgylch llanw uchel,

o   Unrhyw waith arall (adeiladu rip-rap a pharatoi'r safle) i gael ei wahardd am awr a hanner cyn ac ar ôl llanw uchel rhwng mis Medi a mis Mawrth h.y. cyfnod o ddim gwaith am dair awr o amgylch llanw uchel,

o   Dylid ymgymryd ag arolygon monitro yn ystod y cyfnod adeiladu i wirio bod adar yn parhau i ddefnyddio'r safle a bod mesurau i leihau aflonyddwch yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus,

o   ymgeiswyr i gynhyrchu a gweithredu amserlen waith yn manylu ar y cyfnodau gweithio cyfyngedig dyddiol o amgylch llanw uchel fel y nodwyd yn yr amod

·        Cael gwared ag offer peirianneg sifil, strwythurau a pheiriannau sydd dros ben wedi cwblhau'r datblygiad,

·        Rheoli llwch sy'n cael ei gario a darparu offer golchi olwynion ar y safle i fod yn destun amod cynllunio,

·        Defnydd wedi'i gyfyngu i waredu cerrig a gosod llenni dur,

·        Dyluniad manwl y deunydd rip-rap, uchafswm maint y garreg i'w defnyddio ac unrhyw ofynion cynnal a chadw yn y dyfodol i fod yn unol â'r manylion a gymeradwywyd yn flaenorol dan amod,

·        Mesurau rheoli llygredd, monitro safle a lliniaru ecolegol i'w gweithredu yn unol â'r Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu i'w cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i'r datblygiad ddechrau i sicrhau fod arfer da a mesurau lliniaru da wedi'u sefydlu i amddiffyn yr amgylchedd dyfrol, gan gynnwys: amodau gwaith ar y safle a mesurau i reoli effeithiau amgylcheddol megis symudiadau cerbydau trymion, cyfleusterau golchi olwynion, gorchuddio cerbydau, ardaloedd storio diogel, ansawdd aer, oriau gwaith, sŵn/dirgryniad, rheoli gwastraff a llygredd. Hefyd, monitro'r dŵr ffo posib o ddeunyddiau llaid a gwastraff i liniaru ardrawiad posib y datblygiad a gweithdrefnau arllwyso ar yr amgylchedd

·        Yr ymgeisydd i gynnal cynllun o samplo dwr a dadansoddi yn ystod cyfnod y datblygiad i ganfod a oes llygryddion yn bresennol mewn unrhyw drwytholch,

·        Tanwydd neu iraid i'w storio mewn lleoliad i'w gytuno ar bapur gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Bwnd i fod o leiaf 110% o gapasiti'r tanc tanwydd,

·        Cyn dechrau unrhyw ddatblygiad pellach ar y safle, bydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol, i gadarnhau bod y rhaglen trin Llysiau'r Dial wedi bod yn llwyddiannus ac wedi'i hardystio gan ymgynghorydd annibynnol bod yr holl ddeunydd planhigion ymledol wedi'i waredu.  Mae'r cynllun diwygiedig yn gofyn i'r contractwr barhau i archwilio'r tir am unrhyw aildyfiant am gyfnod o 10 mlynedd ac yn darparu ar gyfer dogfennu ffotograffig a monitro, unrhyw waith adfer i waredu unrhyw aildyfiant ac unrhyw achos o Lysiau'r Dial gerllaw'r safle.

·        Dylid cyfyngu ar y defnydd a wneir o beiriannau â thrac ar y safle cymaint ag y bo modd, hyd nes y bydd yr ardaloedd lle mae'r Llysiau'r Dial wedi'u clirio neu wedi'u gwahanu.  Os oes rhaid defnyddio peiriannau â thrac mewn ardaloedd lle mae Llysiau'r Dial yn bresennol, rhaid defnyddio haen geodecstil fel arwyneb i gerbydau deithio ar ei hyd. 

·        Nodyn i'r ymgeisydd yn cyfeirio at ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor Gwynedd a'r Gwasanaeth Erydu Arfordirol i'r ymgynghoriad, ond hefyd lleoliad offer Dwr Cymru sydd angen mynediad diogel bob amser,

·        Nodyn i'r ymgeisydd mai cyfrifoldeb ac atebolrwydd canlynol y datblygwr a/neu'r tirfeddiannwr yw datblygu a meddiannu'r safle'n ddiogel.

·        Nodyn i'r ymgeisydd bod y cais wedi ei asesu'n unol â saith nod cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

 

Dogfennau ategol: