Agenda item

I ystyried yr adroddiad a rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor i graffu’r Drafft Strategaeth Toiledau Lleol a chynnig unrhyw adborth cyn mynd gerbron y Cabinet.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar effaith y toriadau ar doiledau    cyhoeddus y Sir a chynlluniau sydd gan y Gwasanaeth i’r dyfodol drwy ddatblygiad y strategaeth arfaethedig fydd i’w mabwysiadu a’i chyhoeddi erbyn 31 Mai 2019.         Nodwyd, yn dilyn penderfyniad Her Gwynedd i gyflawni toriad o £244,000 yn y            gwasanaeth drwy wireddu’r Cynllun Partneriaethau gyda Chynghorau Cymuned a Thref        bod y Cyngor wedi llwyddo i   gadw hyd at 63 o doiledau ar agor yn y Sir. Ategwyd bod             gan y Sir ddarpariaeth o 35 o doiledau cymunedol sydd yn rhan o Gynllun Grant Toiledau             Cymunedol.

 

            Mewn ymateb i Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 rhaid i bob Awdurdod Lleol yng  Nghymru asesu anghenion eu cymuned o ran toiledau ac yna defnyddio dulliau    strategol a thryloyw i ddiwallu’r angen hwnnw yn y modd gorau posib. Wrth ddatblygu’r   strategaeth, amlygwyd bod opsiynau ehangach wedi eu hystyried fydd yn mynd i’r afael   a’r heriau presennol sydd yn ymwneud a darparu cyfleusterau mewn cymunedau a hynny        gyda lleihad yng nghyllideb y gwasanaeth. Tynnwyd sylw at yr amserlen oedd yn       amlygu’r camau allweddol at gyhoeddi’r strategaeth.

 

            Croesawyd y wybodaeth a’r gwaith calonogol oedd wedi ei wneud

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen arwyddion ffordd i dynnu sylw at yr adnoddau oddi ar lonydd prysur – yr arwyddion i gynnig gwybodaeth a chyfarwyddiadau

·         Croesawu Cynllun Toiledau Cymunedol, ond angen addasu a gwella cyflwr rhai o’r adeiladau – rhaid sicrhau bod y toiledau yn safonol

·         Angen hysbysu  a hyrwyddo toiledau cymunedol yn well

·         Bod angen i unrhyw wybodaeth am doiledau sy’n cael ei roi ar y wefan fod yn gyfredol a bod fersiwn ar gael i’w argraffu

·         Angen annog mwy o doiledau cymunedol – derbyn bod rhestr aros, ond angen adolygu’r sefyllfa

·         Pellter rhwng toiledau yn bryder – a oes posib mapio fesul 10 milltir?

·         Awgrym i gynnwys gwybodaeth ar ap Gwynedd

·         Bod angen ystyried sefydliadau sydd yn cynnig oriau hwy a hyblyg

·         Bod angen cyfleusterau cydradd – efallai  ystyried nad oes angen dynodiad

·         Posib creu dolen gyda Google Maps o leoliadau toiledau

·         Targedu rhai busnesau ar brif ffyrdd i gynnig defnydd o’u toiledau.

·         Bod mwy o sylw yn cael ei roi ar anghenion twristiaid; pobl leol sydd yn talu trethi

 

            Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag os yw’r cynllun toiledau cymunedol yn cynnig gwerth am   arian, nodwyd bod gwerth i’r cynllun yn y darlun llawn ond bod cyfle i adolygu’r cynllun   gan edrych i ardaloedd sydd heb adnodd. Nodwyd bod y cynllun yn cael ei ariannu gan      Lywodraeth Cymru a’i fod bellach yn arian sydd yn cael ei gynnwys fel rhan o’r setliad   blynyddol ac wedi ei warchod ar gyfer y defnydd yma yn unig.  Nodwyd bod grant      hefyd yn cael ei dderbyn gan yr Asiant Cefnffyrdd. Ategwyd bod modd adolygu’r             niferoedd a hefyd y lleoliadau gan addasu yn ôl yr angen ynghyd a’r swm sydd yn cael ei             dalu i bob busnes sydd yn rhan o’r cynllun. Nodwyd hefyd, yn dilyn y cyhoeddi’r Strategaeth ym Mai 2019 bydd darn o waith yn cael ei wneud i fapio ac adnabod y gwagle.

 

            Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag uchafu safon a chyflwr y cyfleusterau, amlygwyd bod        grant wedi ei dderbyn yn ddiweddar i uwchraddio 3 toiled oedd yn cynnwys cyfleusterau            newid plant. Ategwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddenu cyllid i wneud gwaith          uwchraddio ar 5 eiddo arall a bod grantiau yn rhoi cyfle i’r gwasanaeth edrych ar            gyfleoedd newydd ac arloesol. Mewn ymateb i sylw bod y gwasanaeth yn ddibynnol ar           grantiau i uwchraddio safon a chyflwr y toiledau a petai’r grant yn dod i ben byddai’r             cyfrifoldeb a’r gost yn disgyn ar y  Cyngor Cymuned, cadarnhawyd mai'r Cyngor sydd yn             gyfrifol am gyflwr y toiledau.

 

            Mewn ymateb i sylw am ddefnyddio Google Maps neu ap priodol, amlygwyd bod hyn yn rhan statudol o’r strategaeth a cham naturiol fyddai llunio ap.

 

            PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan argymell i’r Aelod Cabinet gyfarch y      sylwadau wrth lunio’r Strategaeth Doiledau terfynol

 

 

Dogfennau ategol: