skip to main content

Agenda item

I ystyried yr adroddiad sydd yn codi ymwybyddiaeth am drefniadau a chyfrifoldebau  rheoli parcio’r Cyngor, allbynnau’r gwaith a’r heriau ar gyfer y dyfodol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Eiddo yn manylu a’r drefniadau a       chyfrifoldebau rheoli parcio'r Cyngor, allbynnau gwaith a’r heriau ar gyfer y dyfodol.        Dengys y strwythur staffio bod y Gwasanaeth, ers 2012, wedi wynebu arbedion / toriadau     sylweddol er yn ymateb i’r un llwyth gwaith. Amlygwyd bod y trefniadau  talu ac   arddangos sydd mewn bodolaeth mewn 60 o feysydd parcio y Sir, ynghyd a Thocynnau Parcio Blynyddol a’r  taliadau a ddaw o orfodaeth parcio wedi arwain at incwm o £2.65m            erbyn 2018/19. Nodwyd bod yr incwm yn rhan allweddol o incwm refeniw blynyddol y             Cyngor ac yn cyfrannu tuag ar gynnal gwasanaethau. Yn unol â gofynion deddfwriaethol,            bydd unrhyw incwm sydd yn cael ei gasglu o reoli parcio yn cael ei ail fuddsoddi yn y   

            rhwydwaith priffyrdd.

 

            Tynnwyd sylw at yr heriau ar gyfer y blynyddoedd i ddod ynghyd ar amrediad opsiynau ar            gyfer sicrhau cynnydd yn yr incwm parcio. Os am gyfarch effaith chwyddiant a chyfrannu          £180,000 tuag at y targed arbedion amlygwyd erbyn 2022/23 yr angen i’r incwm          blynyddol fod oddeutu £450,000 yn uwch nag ydyw yn 2018/19.

 

            Diolchwyd am y wybodaeth

 

            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â cholled incwm o oddeutu £45,000 am gynnig parcio am      ddim dros gyfnod y Nadolig, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen ystyried trothwy amser cyn diddymu’r gwasanaeth

·         Posib nad yw yn cynnig gwerth am arian gan mai gweithwyr 9 - 5pm sydd yn ei ddefnyddio?

·         Angen ystyried dulliau fel nad yw gweithwyr yn ei ddefnyddio

·         Angen gwell amseriad - diwedd Tachwedd - cyd fynd a Dydd Gwener Gwallgo’?         Penwythnosau sydd yn rhedeg i fyny at y Nadolig?

·         Cynnig nosweithiau parcio am ddim pan fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y dref

·         Parcio am ddim yn gynllun da ac yn gefnogol i Fusnesau Lleol

 

            Roedd yr Uwch Reolwr Eiddo yn derbyn y sylwadau a nodwyd bod bwriad i adolygu’r       drefn bresennol.

 

            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r graff apeliadau oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a’r angen am wybodaeth fanylach am y nifer sydd yn cael ei dyrannu a’r nifer sydd yn cael         eu herio, derbyniwyd bod y graff yn elfennol a bod modd cyflwyno data manylach.

 

            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut fydd cyllido cyfleusterau gwefru ceir trydan adroddwyd y byddai’r cynllun yn debygol o gael ei ariannu drwy grantiau yn ystod y cyfnod cyntaf.         Ategwyd bod y galw am y math yma o gyfleuster yn isel ar hyn o bryd, ond bod angen            paratoi ymlaen llaw drwy gynnal gwaith asesu lleoliadau addas o fewn y Sir.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen amlygu gwahaniaeth rhwng perchnogaeth maes parcio preifat a maes parcio'r Cyngor

·         Bod angen peiriannau dwbl sydd yn cynnig gwasanaeth talu gydag arian parod neu dalu gyda cherdyn

·         Bod cyfansymiau cynnydd yn ffioedd parcio yn ymddangos yn anodd o ran ceiniogau / arian parod – angen cadw’r symiau yn syml

·         Awgrym i gyflwyno talu am docyn parcio blynyddol mewn rhandaliadau misol

·         Beth yw costau cynnal a chadw'r 57 maes parcio sydd yn ddi-dâl? A fyddai modd trosglwyddo’r adnodd i gymunedau lleol eu rheoli byddai yn lleihau costau i’r Cyngor?

·         Angen sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithiol. Dim esgus nad yw peiriannau yn gweithio ar benwythnosau prysur!

·         Bod angen cysoni ffioedd parcio ar draws y Sir

·         Tocyn Parcio Lleol - a oes modd cynyddu criteria'r tocyn ar gyfer parcio mewn maes parcio tymor hir?

·         Gyda galw cynyddol am orfodaeth, a oes modd ystyried gosod camerâu mewn rhai meysydd parcio fel bod modd rhyddhau swyddogion i orfodi mewn meysydd parcio eraill

 

            Mewn ymateb i rai sylwadau uchod, amlygodd y swyddogion,

·         Bod defnydd o gamerâu yn amhersonol, cudd a drudfawr ond yn opsiwn posib ar gyfer y dyfodol

·         Bod galw cynyddol ar swyddogion i orfodi ystod eang o feysydd. Er bod modd cynnig gwasanaeth traws adrannol golygai hyn hyfforddiant dwys i’r swyddogion mewn nifer o feysydd deddfwriaethol. Ategwyd bod trafodaethau yn parhau ond bod angen symleiddio’r ddeddfwriaeth a phwyso a mesur materion ymarferol.

·         Bod sicrhau a sefydlu tegwch mewn gosod ffioedd parcio ar draws y Sir wedi bod yn un o’r prif ystyriaethau wrth gyflwyno trefniadau rheoli parcio yn 2015. Y bwriad yw parhau i geisio sefydlu cysondeb a thegwch drwy’r Sir wrth ystyried opsiynau posib o gynyddu’r incwm parcio i’r dyfodol.

·         Bod modd cynnal trafodaethau ‘achos wrth achos’ gyda Chynghorau Cymuned / Tref ynglŷn â throsglwyddo cyfrifoldebau meysydd parcio di-dâl o fewn y Sir.

·         Bydd modd cyflwyno amrediad o opsiynau posib wedi i’r Cyngor Llawn benderfynu ar gyllideb 2019/2020 ar y 7fed o Fawrth 2019.

 

            PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda chais i’r swyddogion ystyried   sylwadau’r Aelodau wrth ddarparu diweddariad maes o law ar yr amrediad           opsiynau ar gyfer sicrhau cynnydd yn yr incwm parcio

 

Dogfennau ategol: