Ystyried cymeradwyo is-ddeddfau i’w mabwysiadu gan y Cyngor Llawn.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Brif Beiriannydd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn
manylu ar gefndir a phwrpas llunio
cyfres newydd o is-ddeddfau fyddai’n cynorthwyo’r Awdurdod Lleol i atal llifogydd a rheoli
gweithgareddau ar hyd dyfrffosydd cyffredin yn fwy effeithiol a chyson. Eglurwyd bod hyn mewn ymateb
i’r Cynghorau yng Nghymru yn derbyn pwerau
a chyfrifoldebau ychwanegol i reoli llifogydd a dŵr wyneb o dan Ddeddf
Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Cyfeiriwyd at yr is-ddeddfau newydd oedd ynghlwm â’r adroddiad ac ategwyd eu bod wedi eu cynllunio i
weithio ochr yn ochr â’r fframwaith rheoleiddio presennol a ddarparwyd o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 a Deddf
Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Nodwyd na fyddai mabwysiadu’r is-ddeddfau yn cael effaith ar lefel staffio presennol yr Uned.
Amlygwyd bod cyfnod o
ymgynghori cyhoeddus wedi ei gynnal rhwng 15fed o Dachwedd a 13eg o Ragfyr 2018, ac ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd.
Ynghyd â chynorthwyo’r
Awdurdodau Lleol i atal llifogydd a mynd i’r afael a’r peryglon mwyaf difrifol amlygwyd bod yr is-ddeddfau,
drwy addasu geirfa ac amlinellu’r math o weithgareddau
sydd dan sylw, o lês i’r amgylchedd yn gyffredinol. Drwy wneud hyn byddai’r is-ddeddfau o fudd i feysydd eraill
ym myd gwaith Llywodraeth Leol ac yn gymorth
i wireddu amcanion deddfau eraill sydd yn cynnwys Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr a Chyfarwyddeb y Cynefinoedd.
Nodwyd mai bwriad yr
adroddiad oedd i aelodau’r Pwyllgor Craffu asesu’r is-ddeddfau newydd ac argymell i’r Cyngor Llawn eu
mabwysiadu’n ffurfiol. Yn dilyn penderfynia dy Cyngor
ar y 7fed o Fawrth 2019, bydd datganiad polisi yn cael ei lunio yn amlygu sut byddai’r is-ddeddfau yn cael eu gweithredu a beth fydd
y newidiadau.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r hyn sydd yn cael i gario lawr yr afonydd amlygwyd mai sylwadau am risgiau llifogydd fydd yn cael
eu hystyried.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwarchod anifeiliaid maes, amlygwyd mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwaith cynnal a chadw
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r broses ymgynghori nodwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi dilyn canllawiau ymgynghori
Llywodraeth Cymru ac felly heb gysylltu yn uniongyrchol
gyda datblygwyr oherwydd eu bod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hyn. Ategwyd y byddai ymgynghori
gyda’r datblygwr yn cael ei ystyried yn ystod
y drefn cynllunio lle bydd Swyddogion yr Uned Dŵr ac Amgylchedd yn cynnig sylwadau ar geisiadau. Mewn sylw
pellach ynglŷn ag ymgynghori gydag Undebau Amaeth nodwyd eto bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn tybio bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn ag effaith y cyfrifoldebau ychwanegol ar lwyth gwaith a lefelau staffio'r Uned Dŵr ac
Amgylchedd, nodwyd, drwy weithio yn rhesymol a synhwyrol
ni ystyriwyd y byddai angen adnodd ychwanegol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Bod angen hysbysu pobl o’r newidiadau gan
amlinellu’r amser y bydd yr is-ddeddfau yn dod i rym
·
Bod angen caniatâd i blannu coed yn gam rhy bell
(Pennod 3 (9)
·
Bod angen gofyn i Lywodraeth Cymru gyda phwy y
maent wedi ymgynghori a chynnwys y wybodaeth yma yn yr adroddiad terfynol
fyddai yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.
·
Derbyn mai ‘gorchymyn’ i weithredu sydd wedi ei
gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i Wynedd, ond angen sicrhau ymgynghoriad teg.
PENDERFYNWYD
·
derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i gynnwys
gwybodaeth am fanylion trefniadau ymgynghori Llywodraeth Cymru i’r is-ddeddfau
yn yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 7fed o Fawrth
2019
·
Argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r is-ddeddfau
yn ffurfiol.
Dogfennau ategol: