skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm ac Uwch Swyddog Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

Cofnod:

i) Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad

 

Cyflwyniad gan Heledd Jones yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 16 Tachwedd 2018 ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

            Materion a godwyd:

 

·         Angen eglurhad pam fod adeiladau sydd wedi cael eu hadeiladu cyn 1919 yn cael eu hystyried fel rhai traddodiadol?

·         Beth a olygir gan y term ‘agos at’ Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol h.y. wrth ystyried effaith unrhyw fwriad ar yr AHNE?

·         Angen ychwanegu’r gair “Nac Ydy” rhwng dau flwch yn y siart llif.

·         O ran dymchwel ac ail-adeiladu, ydi’r canllaw yn adnabod adeiladau sâl?

·         Pryder am ail-ddefnyddio adeiladau fferm yng nghefn gwlad.  Mae’n haws i ffermydd mawr ddangos fod y busnes yn hyfyw i gymharu hefo ffermydd bach sy’n golygu gall ffermydd mawr cael tŷ i aelod o’r teulu sy’n gweithio ar y fferm neu weithiwr ar y fferm drwy NCT6. Er hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r polisi’n cydnabod bod gweithwyr eraill yn bwysig i ardaloedd gwledig. Polisïau yn caniatáu trosi adeiladau allanol i lety wyliau ond dim i dŷ ar gyfer trigolion lleol.

·         Ydy tai fforddiadwy yn fforddiadwy i drigolion lleol, yn enwedig mewn llefydd fel Abersoch?

·         Mae’r canllaw yn rhwystro yn hytrach nag hwyluso datblygiadau yng nghefn gwlad.

 

Ymateb:

 

·         Ar ôl 1919 fe gyflwynwyd dulliau mwy modern o adeiladu e.e. waliau geudod a seiliau adeiladu.  Eglurodd nad oedd y dyddiad yn un rhagnodol ond caiff ei gynnwys yn y canllaw er mwyn rhoi syniad i bobl beth a ddiffinnir fel adeilad traddodiadol.

·         Ni ellir diffinio yn union yr hyn a olygir gan ‘agos at’ yr AHNE. Rhaid ystyried pob achos yn unigol o safbwynt effaith y bwriad ar osodiad yr AHNE. Mae pob bwriad yn wahanol o safbwynt yr hyn a gynigir a’r math o dirwedd o fewn yr AHNE sydd angen ei ystyried.  Mae effaith datblygiad unigol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE yn seiliedig felly ar ddadansoddiad o dystiolaeth am ardrawiad gweledol y datblygiad .

·         Mae rhan 13 o’r canllaw yn delio gydag addasrwydd adeiladau ac yn cefnogi polisi TAI 13 o ran bod angen adroddiad strwythurol ac adroddiad hyfywdra ariannol sy’n dangos nad yw’r adeilad yn economaidd hyfyw i’w ail-ddefnyddio. Nid yw hyn yn eithrio ail-adeiladu tai o ansawdd gwael, cyn belled a bod yr adeilad yn cyd-fynd â’r holl ofynion perthnasol yn y polisi a’r canllaw.

·         Hefo bwriad i drosi adeiladau yng nghefn gwlad, mae rhaid cydymffurfio hefo polisïau cenedlaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i drosi ar gyfer defnydd economaidd. Mae polisi cenedlaethol wedi dechrau newid cyfeiriad ac adnabod y newid yn yr economi wledig e.e. cyfeiriad at fentrau gwledig yn hytrach na ffermio ac amaethyddiaeth yn unig. Tra rhoddir blaenoriaeth i ddefnydd cyflogaeth, os ydyw tystiolaeth yn dangos nad ydyw hynny yn hyfyw yna gellir rhoi caniatâd cynllunio i drosi adeilad ar gyfer tŷ fforddiadwy i berson lleol.  Mae rhan 5 o’r canllaw, “Blaenoriaethu defnydd cyflogaeth”, yn amlygu’r dystiolaeth sydd ei angen er mwyn profi nad oes modd gwneud defnydd cyflogaeth hyfyw addas o’r adeiladau e.e. marchnata am gyfnod o 12 mis, tystiolaeth berthnasol gan arwerthwr eiddo.

·         Mae prisiau tai fforddiadwy canolradd yn ganran o’r pris tai farchnad agored.  Mewn aneddleoedd ble mae pris tŷ marchnad agored yn uchel, fel Abersoch er enghraifft, byddai’r gwahaniaeth rhwng pris y ty fforddiadwy a phris ty tebyg ar y farchnad agored, h.y. y discownt, yn fwy.  Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy, sydd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, yn rhoi fwy o wybodaeth ar y pwnc hwn. 

·         Nodi’r sylw

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo cyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

ii) Canllaw Cynllunio Atodol: Ymrwymiadau Cynllunio

 

Cyflwyniad gan Nia Davies yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 16 Tachwedd 2018 ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

            Materion a godwyd:

 

·         Angen cysoni’r derminoleg bang eang/band llydan ar dudalen 74 - yn Gymraeg ac yn Saesneg.

·         Tudalen 85 – cyfeirio at y “Cyngor” ac nid y “Cynghorau”

 

Ymateb

·         Nodi’r pwyntiau.

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo cyhoeddi’r canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ategol: