skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins

Penderfyniad:

(a)   Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2019) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £248,013,890 ar gyfer 2019/20 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790 a £71,462,100 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.8%.

 

2.    Ychwanegu £18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

(b)   Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3 oni bai am 8 cynllun sef:

-        Cynllun 4.4 – Parcio am ddim dros y Nadolig

-        Cynllun 4.19 - Codi ffi am finiau wedi’u difrodi

-        Cynllun 6.2 – Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion

-        Cynllun 6.11 - Lleihau’r Llyfrgell Deithiol

-        Cynllun 6.16 – Grantiau i’r Celfyddydau

-        Cynllun 6.17 – Cronfa Llyfrau’r Llyfrgelloedd

-        Cynllun 6.22 – Cymorth i Ferched

-        Cynllun 6.25 - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

         er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

(c)   Nodi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNIAD

 

(a)   Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2019) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £248,013,890 ar gyfer 2019/20 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £176,551,790 a £71,462,100 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 5.8%.

 

2.    Ychwanegu £18,316,130 at y rhaglen gyfalaf i’w wario yn 2019/20 er mwyn sefydlu rhaglen gyfalaf gwerth £34,991,250 erbyn 2019/20 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

(b)   Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3 oni bai am 8 cynllun sef:

-        Cynllun 4.4 – Parcio am ddim dros y Nadolig

-        Cynllun 4.19 - Codi ffi am finiau wedi’u difrodi

-        Cynllun 6.2 – Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion

-        Cynllun 6.11 - Lleihau’r Llyfrgell Deithiol

-        Cynllun 6.16 – Grantiau i’r Celfyddydau

-        Cynllun 6.17 – Cronfa Llyfrau’r Llyfrgelloedd

-        Cynllun 6.22 – Cymorth i Ferched

-        Cynllun 6.25 - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

         er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

(c)   Nodi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cyd-destun y gyllideb yw’r setliad ddifrifol sâl mae’r holl awdurdodau wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth, ychwanegwyd fod polisi llymder Llywodraeth Prydain yn parhau ac mae sicrhau rheolaeth dynn a chynllunio ariannol gofalus yn gwbl angenrheidiol i sicrhau gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Mynegwyd ei bod yn mynd yn fwy anodd cyflwyno mantolen cyllideb yn flynyddol, ac ychwanegwyd nad oes balchder mewn cyllideb sydd yn gorfodi arbedion ac yn codi’r Dreth Cyngor. Ond ychwanegwyd fod balchder mewn cael un o’r trefniadau cyllidebol gorau yng Nghymru gan fod hynny yn sicrhau fod effaith hyn oll ar drigolion Gwynedd yn cael ei gadw i’r lleiafswm. Mynegwyd mai dau brif incwm sydd gan y Cyngor sef Grant Llywodraeth Cymru a'r Dreth Cyngor. Mynegwyd fod £13miliwn o fwlch ariannol, a bydd angen dwy elfen i lenwi’r bwlch sef cynnydd yn y Dreth Cyngor ac arbedion. Mynegwyd fod yr arbedion wedi'u craffu ac wedi cael ystyriaeth drylwyr gan yr aelodau drwy gyfres o weithdai a gan y cyhoedd drwy ymgynghoriad.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ar y rhesymau dros y blwch ariannol o £13miliwn. Mynegwyd nad yw’r cynnydd grant gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol ddim yn ddigonol i gwrdd â chynnydd mewn chwyddiant o £7.5m a galw anorfod ar wasanaethau o £4m. Manylwyd ar y bidiau, sydd i’w gweld yn Atodiad 2, sydd â gwerth cyfanswm o £2.5m, gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal ar y bidiau yma, ble mae’r aelodau’n cytuno fod y gwariant yn anorfod.

Trafodwyd yr arbedion gan nodi y bydd angen i’r Cabinet benderfynu os am weithredu’r holl gynlluniau arbedion arfaethedig sydd yn atodiad 3. Manylwyd ar ffigyrau’r arbedion i ddygymod a’r bwlch ariannu gan nodi fod £2.48m o arbedion eisoes wedi’u cymeradwyo, fod £2.45m o arbedion arfaethedig, £0.5m o arbedion effeithlonrwydd pellach, sydd yn dod a chyfanswm o £5.4m o arbedion i leihau’r bwlch.  Mynegwyd fod gofynion gwario’r Cyngor ar gyfer 2019/20 yn £253.2m, ac wedi tynnu Grant Llywodraeth Cymru a’r arbedion mae’n gadael bwlch ariannu o £71.25m. Ychwanegwyd er mwyn cyfarch y bwlch y byddai angen codi’r dreth 5.5%.

 

Esboniwyd yn ystod mis Ionawr, fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ar y Strategaeth Ariannol, gan ychwanegu fod yr ymatebion i’w gweld yn atodiad 11.

 

Tynnwyd sylw at y crynhoad o’r gyllideb gan nodi fod y gyllideb wedi ei graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Ymhelaethwyd ar rhai ymatebion o’r Pwyllgor Archwilio a'r Gweithdai a gynhaliwyd a’r aelodau gan nodi pryderon am effaith gweithredu arbedion a chodi treth ar drigolion Gwynedd. Mynegwyd pryder am gynnydd treth 5.5% neu uwch gan nodi y bydd angen cynorthwyo pobl Gwynedd i hawlio gostyngiadau treth pan yn briodol. Pwysleisiwyd pryderon am y sefyllfa a fydd yn wynebu’r Cyngor ymhen blwyddyn gan nodi’r angen i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn briodol. Mynegwyd fod y Pwyllgor Archwilio wedi trafod a nodi risgiau, ond eu bod yn fodlon i’r gyllideb fynd yn eu blaen i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor Llawn.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Tynnwyd sylw at lythyr sydd wedi ei dderbyn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn nodi eu pryderon am rhai o’r arbedion a fyddai o bosib yn effeithio busnesau o fewn Gwynedd. Mynegwyd fod y rhain yn cynnwys parcio am ddim yn ystod cyfnod y Nadolig a’r pryder am Bont Bermo. Ychwanegwyd fod y llythyr yn nodi yn ogystal eu bod yn diolch i’r Cyngor am gadw’r  toriadau ar gyfer maes cefnogi busnes i’r lleiafswm posibl.

-        Tynnwyd sylw at ganlyniad y gweithdy aelodau a’r ymghynghoriad cyhoeddus ar yr arbedion gan nodi ei bod yn syniad i ail edrych ar rai cynlluniau arbedion. Mynegwyd y farn y dylid yn sicr ymatal rhag gwireddu’r cynlluniau sydd yn atodiad 12 am eleni sef -

·         Lleihau cyllideb Cymorth i Ferched

·         Lleihau cyfraniad y Cyngor i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

·         Codi ffi am gyflenwi biniau sydd wedi’u difrodi gan drigolion

·         Cynnwys parcio am ddim dros y Nadolig

·         Lleihau’r Grantiau Strategol i’r Celfyddydau

Yn ychwanegol at hyn cynigwyd y dylid ymatal rhag gwireddu cynlluniau arbedion o’r gwasanaeth Llyfrgelloedd sef

·         Dileu’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd i Ysgolion

·         Lleihau’r gwasanaeth llyfrgell deithiol

·         Lleihau’r gyllideb cronfa lyfrau’r llyfrgell.

Trafodwyd y cynnig, gan nodi os yn arbed tri cynllun o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd am eleni yn ychwanegol i’r pum arbediad yn atodiad 12 y bydd angen codi’r dreth Cyngor 5.8% yn hytrach na 5.5%.

-        Eiliwyd y gwelliant, gan nodi ei bod yn anodd cael y balans cywir rhwng arbedion a chodi’r dreth cyngor. Mynegwyd pwysigrwydd gwrando a’r trigolion Gwynedd.

-        Mynegwyd cefnogaeth i beidio lleihau cyllideb i Gymorth i Ferched nac y cyfraniad i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid am eleni. Ategwyd ei fod yn rhoi cyfle i gael ail drefnu ac edrych ar ffyrdd o weithio yn fwy effeithlon er mwyn wynebu’r her ariannol y dyfodol.

-        Trafodwyd chwyddiant ym mhensiynau athrawon, a nodwyd fod ymgynghoriad ar y mater yn cael ei gynnal yn Lloegr. Ychwanegwyd y  bydd angen aros i weld beth fydd y canlyniad yr ymgynghoriad hwn.

-        Croesawyd y cynnig i beidio gweithredu rhai o gynlluniau arbedion y  gwasanaeth Llyfrgelloedd, yn benodol y gwasanaeth ar gyfer Ysgolion gan ei fod yn ehangu'r dewis a pecynnau sydd ar gael i ddisgyblion.

-        Mynegwyd pryder am gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Nodwyd fod angen i sicrhau fod yr economi yn ffynnu.

-        Diolchwyd i’r Prif Weithredwr, Pennaeth Cyllid a staff yr Adran Gyllid am y gwaith o lywio’r gwch drwy’r dyfroedd tymhestlog sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Awdur:Dafydd L Edwards

Dogfennau ategol: