Agenda item
Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y gorwariant
sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn i’r Prif
Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd gyda’r Aelod
Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw
ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim
ynglŷn â hwy.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ond yn wyneb y
gorwariant sylweddol a adroddwyd yn ystod yr adolygiad cyllidol diwethaf, gofyn
i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd
gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran
sylw ariannol i osgoi ymdrech gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn
â hwy.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi y bydd yn amlinellu'r diweddaraf am yr adran, a diolchwyd
i’r aelodau craffu a oedd yn rhan o’r cyfarfod herio perfformiad am eu
cyfraniad. Mynegwyd fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan, yn hapus a pherfformiad
yr adran, ond fod ambell i lithriad ond nid yw un o’r llithriadau yn achos
pryder o ran diogelwch o fewn yr adran.
Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran gan
nodi fod y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd yn datblygu gwasanaethau mwy
integredig o fewn y Cyngor a gyda phartneriaid. Mynegwyd fod gwaith mapio yn
cael ei wneud ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth
a’r cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i uno eu grantiau atalion wedi rhoi
cyfle i’r adran adelwyrchu ar eu cyfeiriad. Ategwyd ei bod yn gyfnod cyfores
iawn. Mynegwyd bellach fod gan y Cyngor Fwrdd Cefnogi Llesiant, a fydd yn hybu
gweithio yn drawsadrannol ar gyfer lles trigolion Gwynedd. Tynnwyd sylw yn ogystal at Strategaeth
Rhiantu Corfforaethol, gan nodi fod grwpiau tasg wedi eu sefydlu i geisio
adnabod lle sydd angen ei wella ac i adnabod ymarfer da. Mynegwyd fod y gwaith
yn un uchelgeisiol iawn.
Tynnwyd sylw at adolygiad ‘Dechrau I’r
Diwedd’ sydd yn gynllun arbedion sydd wedi bod yn waith ar y cyd rhwng yr Adran
Blant a Chefnogi Teuluoedd, Cyllid a’r Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth. Nodwyd fod
yr adolygiad yn nodi cynnydd yn y nifer o blant mewn gofal fesul categori.
Ategwyd fod lleihad yn y nifer o blant ag anableddau Dysgu / anghenion dwys ond
fod cynnydd yn y nifer o fewn categorïau eraill. Ychwanegwyd fod gwaith yn parhau i edrych ar
y sefyllfa.
Mynegwyd fod y wybodaeth yn yr adolygiad yn
amlygu fod achosion bellach yn anodd ei ragweld. Ategwyd ei bod yn anodd rhoi
cyllideb bendant gan fod angen bod yn ofalus ac ymateb i achosion mor
effeithiol â phosib. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i geisio gwella’r
sefyllfa ariannol. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ceisio bod yn gyfrifol a
chyfrannu at y cyllidebau arbedion. Mynegwyd fod cost lleoliadau preswyl yn uchel ac felly mae’r lefel gorwariant yn
llawer yn uwch, mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal yn rhanbarthol er
mwyn edrych ar gost.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod gorwariant o fewn yr Adran Blant yn broblem genedlaethol ond mynegwyd fod
pryderon yn codi am nad oes unrhyw oleuni ariannol. Holwyd beth mae’r
Llywodraeth yn ei wneud am y gorwariant cenedlaethol yn y maes. Mynegwyd fod y
Gweinidog dros Lywodraeth Leol newydd yn dymuno cael deialog agored ac i
wella’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Awdurdodau Lleol. Pwysleisiwyd fod
angen cyfleu darlun clir o’r sefyllfa a sicrhau ei fod yn destun trafodaeth
genedlaethol.
-
Pwysleisiwyd
fod yr adran er yn holl ddadansoddi, yn parhau i fethu rhagweld yr achosion a
fydd yn codi o fewn y maes, ychwanegwyd fod yr adran nid yn unig yn edrych o
fewn y Cyngor ond ar y sefyllfa tu hwnt i’r sir.
-
Mynegwyd fod yr adolygiad Cenedlaethol yn amlygu fod y gwasanaeth
yn gweithio yn effeithiol dros y plant, ond amlygwyd fod y broblem gyllidol yn
un sydd angen ei drafod. Ychwanegwyd fod gorwariant i’w weld ym mhob gwasanaeth
o fewn yr adran a nodwyd fod angen gofyn i’r Prif Weithredwr; y Pennaeth Cyllid
a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyfarfod gyda’r Aelod Cabinet a’r Adran i weld pa
feysydd y dylid eu blaenoriaethu o ran sylw ariannol i osgoi ymdrech
gwastraffus ar faterion na ellir gwneud dim ynglŷn â hwy
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol:
- Eitem 7 - Adroddiad Cabinet Aelod dros Blant a Cefnogi Teuluoedd, eitem 7. PDF 256 KB
- Eitem 7 - Mesurau Perfformiad Plant a Cefnogi Teuluoedd, eitem 7. PDF 41 KB