Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod gwelliant i berfformiad Gwasanaethau Stryd eleni, y
gwasanaeth sydd yn cadw strydoedd y sir yn lan a thaclus. Ychwanegwyd fod y
mesurydd glendid ac edrychiad strydoedd hyd yma eleni yn 74.1% sydd yn dangos
cynnydd o berfformiad y llynedd a oedd yn 71.95%. Mynegwyd fod canran strydoedd
sydd â safon B, B+ ac A wedi gweld cynnydd o 94.1% yn 2017/18 i 98.5%. Tynnwyd
sylw at y newid yn y mesurydd perfformiad ar gyfer canran tipio anghyfreithlon
a gliriwyd o fewn 5 diwrnod. Nodwyd fod y perfformiad ar gyfer y mesurydd
newydd yma yn dangos ar gyfartaledd ei bod yn cymryd 1.7 diwrnod i’r adran
glirio unrhyw dipio anghyfreithlon, ac
ar y cyfan mae’r adran yn gweld hwn yn
berfformiad eithaf da ac yn un gellir ei ddefnyddio fel gwaelodlin.
Mynegwyd fod canran
y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi yn is eleni yn y cyfnod o Ebrill i
Hydref sef 17.98% o’i gymharu â 24.33%. Mynegwyd fod y gwelliant hwn o
ganlyniad i’r ffaith fod mwy o wastraff wedi cael ei drin drwy’r drefn llosgi
ac o ganlyniad ddim wedi’i anfon i dirlenwi.
Trafodwyd safon y
ffyrdd gan nodi fod Prif Ffyrdd dosbarth A a B mewn cyflwr cymharol a bod
gwelliant i’r weld y ffigyrau cymariaethau cenedlaethol. Mynegwyd fod dosbarth
C sydd mewn cyflwr gwael wedi gwaethygu ond mynegwyd fod yr adran wedi derbyn
arian gan y Llywodraeth a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i lonydd dosbarth
C. Nodwyd fod angen i’r adran greu mesur ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth gan and
yw’r ffyrdd yn rhan o’r mesuriadau cenedlaethol. Ategwyd gan fod cynifer o
ffyrdd y Sir yn rhai di-ddosbarth mae cyflwr y ffyrdd yma yn hanfodol bwysig i
drigolion Gwynedd.
Tynnwyd sylw at
doriadau a chynllun cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y sir gan nodi fod
angen llunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus erbyn Mai 2019, a bydd yn dod i’r
Cabinet i gael ei drafod. Ar y cyfan, nodwyd fod yr aelod cabinet yn hapus ar y
sefyllfa ariannol ac arbedion.
Mynegwyd fod yr
Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cyrraedd ei brif fesur wedi ei gyrraedd, a
bod tafluniad y sefyllfa NET ddiweddaraf yn dangos elw o £23,583. Nodwyd fod yr
adran wedi ennill Gwobr Genedlaethol am Gydweithio yn ddiweddar. Nodwyd fod yr
aelod yn hapus iawn gyda’r ddwy adran.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
-
Tynnwyd
sylw at gynllun Lampau LED’s a nodwyd nid yn unig ei fod yn arbediad arian ond
ei fod yn arbed ar garbon, a'i fod yn cyd-fynd ar agenda gostwng carbon.
-
Mynegwyd
ei bod yn syniad da i ddechrau mesur ffyrdd di-ddosbarth gan fod llawer o’r
lonydd yma yn yr ardaloedd gwledig ar draws y sir a fydd yn gymorth i’r
trigolion.
-
Nodwyd
ei bod yn anodd cael mesurydd ar gyfer baw ci, ond efallai y gall fod adroddiad
byr tro nesaf a holwyd os oes unrhyw beth y gall y Cyngor ei wneud i fod o flaen
y gad gydag annog pobl i godi a glanhau eu baw ci. Nodwyd fod yr eitem hon yn
cael ei hymchwilio gan y pwyllgor Craffu.
-
Holwyd
os bydd gwastraff trefol yn mynd i dirlenwi yn lleihau unwaith y bydd y
gwastraff i gyd yn cael ei losgi yn y prosiect rhanbarthol. Cadarnhawyd y bydd
unwaith y bydd y safle yn mynd yn weithredol, ym mis Mai
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: