Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn aml-feddianaeth (defnydd dosbarth C4)
AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD ELIN WALKER JONES
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn amlfeddiannaeth
(defnydd dosbarth C4)
Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol
Roedd yr
aelodau wedi ymweld â’r safle
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod
penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er
mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y wybodaeth fel ag a gyflwynwyd yn y
cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod Polisi TAI 9 y Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd yn gefnogol i’r egwyddor o drosi adeiladau presennol yn dai
amlfeddiannaeth o fewn ffiniau datblygu yn ddarostyngedig i gwrdd â’r pedwar
maen prawf cysylltiedig.
Ystyriwyd bod y defnydd
arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai yn amharu ar gymeriad yr ardal nac yn achosi niwed mwynderol
annerbyniol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau
canlynol:
·
Cartref teulu ydyw - cyn dŷ
Cyngor ac yn anaddas ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth
·
Gwrthwynebu ar sail
gor-ddatblygiad
·
Bwriad creu 5 stafell wely -
dim lolfa, un gegin fechan i baratoi bwyd a dwy stafell ymolchi fechan. Creu
sefyllfa gyfyng iawn - pam gwasgu 5 person i mewn i un tŷ
·
Nifer o dai / llety myfyrwyr
yn hanner gwag o gwmpas Bangor
·
Rhagweld cynnydd mewn
gwastraff
·
Rhagweld problemau parcio -
nid oes man parcio pwrpasol. Byddai angen parcio ar y ffordd
·
Bod caniatáu trydydd tŷ
amlfeddiannaeth yn ymestyn dros y trothwy 10% ar y stryd
·
Rhaid gwarchod y ddinas rhag
caniatáu tai amlfeddiannaeth i ledaenu dros y lle
·
Nid yw’r mapiau sydd ynghlwm
a’r cais yn gyfredol
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail
gor-ddatblygu a diffyg lle i barcio
(ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod rhybuddion hanesyddol gan gyn-gynghorydd
bod tai teuluoedd yn cael eu trosi yn dai amlfeddiannaeth ym Mangor
·
Bod ystadegau yn dangos bod
nifer myfyrwyr yn gostwng
·
Bod tai amlfeddiannaeth / tai gosod yn ymledu i ganolfannau cymunedol
·
Nid oedd y sefyllfa parcio
wedi adlewyrchu gwirionedd y sefyllfa yn ystod yr ymweliad safle. Awgrym y
byddai’r sefyllfa yn dra gwahanol gyda’r nos neu dros y penwythnos. Rhaid
ystyried y gellid cael 5 car ychwanegol yma
·
Bod ward sydd gyda ‘dwy
hanner’, fel petai, yn gallu gosod cynsail i geisiadau tebyg fod yn cronni yn
yr un hanner
·
Bod tai myfyrwyr yn prysur
ledaenu ar draws y ddinas. Derbyn bod trothwyon yn bwysig, ond ymddengys eu bod
yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol.
·
Bod angen cynnal ymweliadau
safle ar yr amseroedd prysuraf
(d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith tebygol o wrthod y cais, yn
groes i argymhelliad, a’r risg costau ar y Cyngor, amlygodd yr Uwch Reolwr
Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu yn un cadarn, bod rheolaeth dda dros
ddefnydd tai amlfeddiannaeth a bod trothwy 10% yn cael ei osod ar gyfer ward ac
nid un stryd benodol. Derbyniodd bod pryderon parcio ond amlygodd nad oedd yr
Uned Trafnidiaeth wedi datgan gwrthwynebiad i’r cais ac anodd fyddai
tystiolaethu yn erbyn penderfyniad yr Uned. Eglurwyd, os mai gwrthod byddai’r
penderfyniad, byddai cyfyngu’r rhesymau gwrthod yn fuddiol ac awgrymwyd
ymhellach, efallai y gall Aelodau ystyried gwrthod ar sail gor-ddatblygiad a’r
effaith y byddai’n cael ar y tŷ drws nesaf.
(e) Mewn ymateb i’r pryderon parcio amlygodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth
Datblygu y byddai’n ofynnol i’r tŷ, fel tŷ teulu, gael dau le parcio.
O newid y tŷ i dŷ amlfeddiannaeth ar gyfer 5 oedolyn byddai’r gofyn
yn 0.5 - 1 car ar gyfer pob stafell
wely. Amlygodd bod pawb yn parcio ar ddwy ochr y stryd gan nad oes lle parcio o
fewn cwrtil y tai. Ategodd bod Bangor yn
lleoliad canolog gyda gwasanaethau cyhoeddus a rhwydwaith dda o lwybrau cerdded
a beicio. Anodd fyddai tystiolaethu os fyddai cerbydau'r tŷ hwn yn creu
effaith ar y tŷ drws nesaf.
(f)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â throthwy o 10% ac os yw hyn yn gyson i bob ardal, nodwyd bod hyn yn wahanol i
bob ardal. Y bwriad, trwy osod trothwyon, yw gwarchod yr ardal fel nad yw tai
amlfeddiannaeth yn lledaenu. Ategodd bod rhai ardaloedd ym Mangor gyda
throthwyon uwch.
(g) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gormod o dai ar gyfer myfyrwyr, nododd y
Rheolwr Cynllunio mai rhagdybiaeth ydyw mai myfyrwyr sydd yn byw mewn tai
amlfeddiannaeth. Nid yw’r adeiladau hyn yn cael eu cyfyngu i fyfyrwyr yn unig,
pobl eraill yn gwneud defnydd ohonynt hefyd.
(h) Atgoffodd y Cyfreithiwr petai'r Pwyllgor yn gwrthod y cais ar sail parcio,
yna byddai rhaid cael tystiolaeth gref fyddai yn gwrthddweud yr hyn y mae’r
Uned Trafnidiaeth wedi ei nodi. Byddai gwrthod ar sail trothwyon yn arwain at
gamddefnydd polisi. Byddai gwrthod ar sail y ddau fater uchod yn rhoi’r Cyngor
mewn sefyllfa o fod yn agored i gostau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol gwrthod y cais ar sail byddai’r datblygiad yn or-ddatblygiad o’r tŷ a fyddai’n cael effaith ar fwynderau’r eiddo cyfagos.
Dogfennau ategol: