Aelod Cabinet: Cynghorydd
Dafydd Meurig
Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Eiddo
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Eiddo yn manylu ar egwyddorion rheoli stad man
ddaliadau y Cyngor. Nodwyd, yn 2008, bod adolygiad cynhwysfawr wedi ei gynnal i edrych ar bwrpas y stad, ei
pherfformiad ariannol a‘r trefniadau rheoli. Gyda degawd wedi mynd heibio ers yr adolygiad, ystyriwyd mai amserol
fyddai ail ymweld a’r maes a
chadarnhau’r rhesymeg sydd yn cefnogi pwysigrwydd parhau i ddarparu man ddaliadau yn y Sir.
Adroddwyd bod
swyddog o fewn yr Uned Stadau wedi ei rhyddhau i gynorthwyo gyda gwaith rheoli man ddaliadau’r Cyngor sydd
wedi galluogi’r uned i roi mwy o sylw i faterion
ynglŷn a chynyddu incwm rent a delio gyda nifer o faterion cytundebol
oedd yn
disgwyl sylw. Ategwyd mai trefniant dros dro yn unig oedd yr adnodd a’i fod ar
draul perfformiad ym meysydd
gwaith eraill yr Uned Stadau.
Atgoffwyd yr
aelodau mai Aelod Cabinet Amgylchedd sydd ar cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau
gweithredol rheoli man ddaliadau gyda phaneli ymgynghori wedi eu sefydlu i gynorthwyo gyda materion
megis gosod daliadau gwag neu ddirwyn tenantiaethau
i ben. Amlygwyd bod panel ar gyfer Meirionnydd a phanel ar gyfer Dwyfor.
Nodwyd bod sefyllfa
ariannol y stad wedi newid yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a bellach bod y stâd yn hunangynhaliol - yn creu
incwm i’r Cyngor uwchlaw costau rhedeg.
Ategwyd pe byddai dymuniad i ail fuddsoddi yn y stad byddai hynny yn arwain at yr angen i ddarganfod arbediad cyfwerth
mewn maes arall. Pe byddai’r incwm yn cynyddu
yn y dyfodol (drwy adolygiadau rhent neu drosglwyddo i delerau newydd o dan y cytundebau modern) gellid ystyried
clustnodi’r swm ychwanegol i’w ail fuddsoddi yn y stad.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau unigol:
·
Bod yr
adroddiad / diweddariad hir ddisgwyliedig i’w groesawu
·
Bod man
ddaliadau yn cyfrannu at gadw pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig gan roi cyfle
iddynt weithio yn y byd amaeth
·
Awgrym
i gadw yr adnodd staff a chadw’r elw fel bod gwariant yn cael ei ail fuddsoddi
ar welliannau. Rhai o’r tai mewn cyflwr difrifol.
·
Ystyried
targedu rhai o’r tai sydd angen llawer o waith gwella
·
Awgrym
i sefydlu un panel ar draws y Sir gan sicrhau arbenigedd amaethyddol
·
Os oes
cais i’r tenant fuddsoddi yn yr adeiladau rhaid rhoi mwy o sicrwydd na 5
mlynedd i’r tenant
·
Awgrym
i osod y tiroedd
·
Bod
angen cytuno cylch gorchwyl a chynnal trafodaethau i flaenoriaethu gwariant
·
Awgrym
i sefydlu cwmni hyd braich i ddenu arian cyfalaf / grant fel ffordd ymlaen i
wella a moderneiddio safonau. Nid yw rheoli man ddaliadau yn ofyn statudol ac
felly mae sicrhau bod y stad yn hunangynhaliol yn hanfodol.
·
Gyda
gosod ymddeoliad oed pendant o 65 rhaid adolygu’r cymal yma fel bod modd
sicrhau bod y tenant yn cael cyfle i wneud cynllun busnes a chyd-fynd gyda
gofynion cyfreithiol.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a chanllawiau caeth ar gyfer gofynion statudol safonau tai, nodwyd bod cyfrifoldeb statudol ar yr
adran eiddo i gwrdd âr gofynion hyn. Ategwyd
mai un ffynhonnell cynnal a chadw
sydd gan y Cyngor ac anodd yw blaenoriaethu’r angen.
Nodwyd bod yr uned yn cwrdd a’r ‘addas a phriodol’ ond dim a’r adnodd i godi safonau.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sicrhau olyniaeth /
etifeddiaeth, amlygwyd bod polisi cefnogi
olyniaeth yn cael ei ystyried
Cynigiwyd ac
eiliwyd i sefydlu un panel ar draws y sir gyda chyfansoddiad clir a chylch gorchwyl ehangach gyda’r bwriad, yn y tymor hwy,
i ystyried cwmni hyd braich hyfyw. Ategwyd
yr angen i gadw yr adnodd staff dros dro a bod unrhyw elw, sydd tu hwnt i’r hyn
sydd wedi ei glustnodi, yn cael ei
fuddsoddi yn y stad.
PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD
·
Sefydlu un panel ar draws y Sir gyda
chyfansoddiad clir a chylch gorchwyl ehangach
·
Ystyried sefydlu cwmni hyd braich yn y tymor
hwy.
·
Cadw yr adnodd staff dros dro
·
Unrhyw elw, tu hwnt i’r ffigwr sydd wedi ei
glustnodi, yn cael eu ail fuddsoddi yn y stad.
Dogfennau ategol: