skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Cynlluniau oedd yn atodiadau 1 i 6, yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, fel rhai y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu cyflawni os am geisio sicrhau cyllideb gytbwys yn 2019/20, gan ymgynghori ar y cynlluniau oedd yn atodiadau 3 i 6 yn ystod mis Ionawr .

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu’r Cynlluniau oedd yn atodiadau 1 i 6, yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, fel rhai y bydd yn rhaid i’r Cyngor eu cyflawni os am geisio sicrhau cyllideb gytbwys yn 2019/20, gan ymgynghori ar y cynlluniau oedd yn atodiadau 3 i 6 yn ystod mis Ionawr.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen yn flynyddol i gyllideb y Cyngor fod yn hafal. Ychwanegwyd eleni fod y Cyngor yn rhagweld bwlch ariannol sylweddol ar gyfer 2019/20.

 

Mynegwyd ers dechrau’r haf fod yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Adran wedi bod yn ystyried beth fyddai angen ei wneud er mwyn cyfarch y bwlch ariannol. Bu i bob adran nodi sut y byddent yn darganfod 20% o’u cyllideb pe byddai angen gwneud hynny. Mynegwyd fod y broses hon wedi bod yn broses anodd, ond trwyadl a’i bod wedi gorfodi pob Adran i edrych ym mhob twll a chornel am arbedion posibl. Yn ychwanegol at hyn, nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn ymgynghori a thrigolion Gwynedd i ofyn pa bethau mae’r Cyngor yn ei wneud sydd fwyaf pwysig iddynt.

 

Rhoddwyd cyd-destun ariannol gan nodi fod y Pennaeth Cyllid yn parhau i geisio sefydlu cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 a bu pedwar gweithdy i aelodau etholedig i roi dealltwriaeth o ble maent arni erbyn hyn. Eglurwyd fod y Cyngor wedi derbyn setliad siomedig arall gan Lywodraeth Cymru ble gwelwyd grant a roddir i Lywodraeth Leol yn aros yn ei unfan. Ychwanegwyd er hyn fod pwysau aruthrol yn wynebu'r Cyngor ym meysydd Addysg a Gofal a bod cynnydd sylweddol yn chwyddiant cyflogau ac ar faterion megis ynni. O ganlyniad i hyn, eglurwyd fod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannol sydd yn debygol o fod o gwmpas £12.9m. Esboniwyd y camau posib y gellir eu cymryd i leihau’r bwlch a drwy wneud hyn, nodwyd, fod yr amcangyfrif diweddaraf yn dod a’r bwlch i lawr i tua £6.8m.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai proses fathemategol yw dod o hyd i’r bwlch ariannol sy’n weddill.  Ni ellir ond darganfod mwy o arbedion neu gynyddu’r Dreth Gyngor. Nodwyd fel rhan o’r broses o edrych ar bosibiliadau yn ystod y cyfnod ers diwedd yr haf fod yr Adrannau wedi adnabod arbedion effeithiolrwydd pellach a'u bod i’w gweld yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. Mynegwyd fod yr arbedion effeithiolrwydd sydd yn cael eu cynnig yma yn arbedion ble na fydd llawer o newid i’r gwasanaeth i drigolion Gwynedd a bod canran ohonynt yn arbedion swyddfa gefn. Roedd atodiadau 3 i 6 wedyn yn amlinellu arbedion fyddai yn debygol ar gael mwy o ardrawiad ar drigolion Gwynedd ond nid i’r un graddfa a llawer o gynlluniau eraill a gafodd ystyriaeth.

 

Bydd yr arbedion yma, ychwanegodd, yn dod at £2.5miliwn a fydda’i dod a’r bwlch i lawr i oddeutu £4.3miliwn.  Ychwanegwyd os byddai modd i ddarganfod £0.5 pellach, byddai hyn yn dod a’r bwlch i lawr i £3.8miliwn, a fyddai cyfystyr a chynnydd yn y Dreth Cyngor o 5.5%.

 

Esboniwyd y bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau yn atodiad 3 i 6 yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Yn dilyn hyn, ategwyd, bydd gweithdy yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl aelodau i gael rhoi eu barn ynglŷn â lefel benodol o Dreth Cyngor; yr atebion fydd wedi eu  derbyn drwy’r  ymgynghoriad ac ystyried angen i ddod a mwy o arbedion ag ardrawiad llawer gwaeth i mewn i’r hafaliad. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd mai  Prif Weinidog Cymru, pan yn Weinidog dros Gyllid, a luniodd y gyllideb hon. Mynegwyd bod yr Arweinydd wedi datgan ei siom a’i ddicter am y gyllideb i Lywodraeth Cymru. Ategwyd fod gan Lywodraeth Cymru ddewis gan fod bron i biliwn ychwanegol o arian a’r gael ond fod y Llywodraeth wedi blaenoriaethu'r holl adrannau eraill, ac ychwanegodd fod rhai adrannau wedi gweld cynnydd o bron i 14%. 

-        Mynegwyd fod y setliad wedi ei ddisgrifio gan Brif Weithredwr Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru fel un “brutal”, ond ychwanegwyd fod y setliad yn un ddifrifol wael a dieflig. Mynegwyd fod pob awdurdod lleol wedi nodi y bydd toriadau sylweddol am ddigwydd i’w gwasanaethau craidd. Nodwyd mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am hyn, yn dilyn y bleidlais a fydd yn cael ei gynnal wythnos yma i benderfynu ar eu cyllideb. Nodwyd hefyd mai cyfrifoldeb unrhyw Aelod Cynlluniad a bleidleisiodd dros y setliad yma fyddai wynebu eu hetholwyr yn y pendraw. 

-        Mynegwyd fod y Cyngor yn ceisio gwasgu’r geiniog olaf o wasanaethau drwy arbedion effeithiolrwydd, er mwyn isafu’r effaith ar drigolion. Nodwyd  mai'r arbedion swyddfa gefn yw’r camau cyntaf, ond fod rhai ag ardrawiad swyddi.

-        Nodwyd er bod y Cyngor wedi amddiffyn cyllidebau ysgolion ac ychwanegu chwyddiant ar gyfer tâl athrawon ac yn y blaen, fod Llywodraeth Cymru yn torri eu grantiau i ysgolion mewn termau “real”, drwy beidio ychwanegu unrhyw chwyddiant. Ychwanegwyd fod y Cyngor yn ceisio gwarchod gwasanaethau addysg a gofal, ond os bydd pethau yn parhau fel hyn, yna mi fydd angen ail ymweld â’r adrannau yma a gall hynny danseilio diogelwch a bywydau plant a phobl ifanc.

-        Nodwyd fod angen i’r Cyngor ddod o hyd i ffordd i adael i drigolion wybod mai toriadau  Llywodraeth Cymru yw’r rhain, a bod Cyngor Gwynedd yn ymateb i’r her sydd yn eu hwynebu.

-        Codwyd cwestiwn ynglyn a chynllun Pont Abermaw ac fe nododd yr aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod yna drafodaethau yn mynd ymlaen i weld a ellid gwireddu’r arbediad yma gan sicrhau fod y llwybr yn parhau ar agor.  Nodwyd mai yn Ebrill 2020 y byddai disgwyl i’r cynllun yma wireddu ei hun ac felly ‘roedd yna amser ar gael i drafodaethau barhau.

Awdur:Dilwyn Williams

Dogfennau ategol: