Yn unol
â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Judith Humphreys yn cynnig fel a ganlyn:-
Pleidlais
y Bobl
Noda’r
Cyngor:
·
Bod mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i Aros yn
yr Undeb Ewropeaidd.
·
Fod
swyddi, cyflogau a gobeithion yng Ngwynedd a Chymru mewn perygl o ganlyniad
i’r DG yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd
·
Fod
potensial y bydd y DG yn peidio â dod
i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd
ar delerau gadael ac fod perygl
y bydd hwn yn achosi difrod
economaidd a chymdeithasol anadferadwy yn syth. Mae hyn yn
cynnwys materion hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DG a dinasyddion y DG yn yr Undeb Ewropeaidd,
cyflenwad bwyd a mynediad at feddyginiaethau, ond nid y materion
hyn yn unig.
·
Nad
yw San Steffan yn llwyddo i warchod
swyddi, cyflogau na gobeithion Cymru
trwy negydu parhad ein haeoldaeth
o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd neu’r Undeb Tollau
yn dilyn unrhyw ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd
·
Ers
y bleidlais wreiddiol i adael yr
Undeb Ewropeaidd y cafwyd mwy o eglurder
ynghylch sut y byddai gadael y bloc yn effeithio ar
bobl Cymru
·
Fod
prosesau democrataidd cywir yn mynnu
fod pobl Cymru yn cael
cyfle i fwrw
pleidlais ddeallus ynghylch ein perthynas
yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd
yn dilyn trafodaethau ar y mater
Cynigia’r Cyngor:
• Y dylid cynnal refferendwm ledled y DG ar
berthynas y DG yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn unrhyw gytundeb ar
ymadawiad y DG, neu os na fydd y trafodaethau yn arwain at gytundeb ar delerau
ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd
• Dylai’r refferendwm gynnwys y dewis i
aros yn yr Undeb Ewropeaidd
Cofnod:
(2) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Judith Humphreys o dan Adran 4.20
y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Noda’r
Cyngor:
·
Bod
mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb
Ewropeaidd.
·
Fod
swyddi, cyflogau a gobeithion yng Ngwynedd a Chymru
mewn perygl o ganlyniad i’r DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
·
Fod
potensial y bydd y DG yn peidio â dod i gytundeb
gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau gadael a bod perygl y bydd hwn yn achosi
difrod economaidd a chymdeithasol anadferadwy yn syth. Mae hyn yn cynnwys
materion hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DG a dinasyddion y DG yn yr Undeb
Ewropeaidd, cyflenwad bwyd a mynediad at feddyginiaethau, ond nid y materion
hyn yn unig.
·
Nad
yw San Steffan yn llwyddo i warchod swyddi, cyflogau
na gobeithion Cymru trwy negydu parhad ein haelodaeth
o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd neu’r Undeb Tollau yn dilyn unrhyw ymadawiad o’r Undeb
Ewropeaidd.
·
Ers
y bleidlais wreiddiol i adael yr Undeb Ewropeaidd y
cafwyd mwy o eglurder ynghylch sut y byddai gadael y bloc yn effeithio ar bobl
Cymru.
·
Fod
prosesau democrataidd cywir yn mynnu fod pobl Cymru
yn cael cyfle i fwrw pleidlais ddeallus ynghylch ein perthynas yn y dyfodol â’r
Undeb Ewropeaidd yn dilyn trafodaethau ar y mater.
Cynigia’r
Cyngor:
·
Y dylid cynnal refferendwm ledled y DG ar berthynas y DG yn y
dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn unrhyw gytundeb ar ymadawiad y DG, neu os
na fydd y trafodaethau yn arwain at gytundeb ar delerau ymadawiad y DG o’r
Undeb Ewropeaidd.
·
Dylai’r refferendwm gynnwys y dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Cafwyd
pleidlais y bobl yn 2016 a phleidleisiwyd dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes diben cyfeirio at ffeithiau a
ffigurau di-sail. Bydd Brexit yn digwydd y flwyddyn nesaf a bydd yn llwyddiant yn
y pen draw. Rhaid i bawb gefnogi hyn
bellach. Mae’r penderfyniad wedi’i wneud
ac nid oes modd troi’n ôl.
·
Nid
oes dadl o gwbl o ran y dymuniad y tu ôl i’r cynnig, ond rhaid gochel rhag yr
hyn a ddymunir gan y byddai cynnal ail refferendwm yn gwneud llawer mwy o
lanast o’r sefyllfa.
·
Bod
pobl Cymru wedi pleidleisio yn y 1970au i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond
na chawsant ddewis o ran bod yn rhan o Undeb Prydain ai peidio. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ochr dde
cymdeithas wedi ymwrthod â’r syniad o fod yn Ewropeaidd, ond petai pawb wedi
bod y tu cefn i hyn, efallai y byddai wedi gweithio.
·
Er
y pleidleisiwyd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, roedd y canlyniad
hwnnw’n seiliedig ar ffantasi a gafodd ei werthu i bobl. Dywedwyd y byddem yn gallu mwynhau holl
fanteision bod yn Ewrop, heb ddim o’r cyfrifoldebau ynghlwm â hynny. Bellach, rydym yn wynebu goblygiadau
hynny. Bydd rhwystrau sylweddol ar ein
hawl i fasnachu. Bydd y 700 o gytundebau
masnachu sydd gennym drwy Ewrop yn mynd, neu’n gorfod cael eu ail-negydu, ac mae bygythiad sylweddol i’r mwyafrif o brif
gyflogwyr Gwynedd, sy’n masnachu gydag Ewrop.
Byddwn yn rheoli symudiadau poblogaeth o un wlad i’r llall, ond ni ein
hunain fydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i hyn.
·
Holwyd
a oedd gan y Cyngor hawl i bleidleisio ar y cynnig gerbron gan fod yna bobl yng
Ngwynedd oedd wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod y
cynnig yn briodol i’r Cyngor gael barn arno.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig.