Agenda item
Yn unol
â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor yn mynegi pryder am gynigion Llywodraeth Cymru, “Brexit a’n tir: diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru”.
Mae’r Cyngor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd yn
ei dogfen ymgynghorol, i gefnogi busnesau fferm er mwyn eu gwneud yn fwy
cystadleuol. Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r bwriad i gydnabod yn ariannol y
cyfraniad ychwanegol amhrisiadwy y mae amaeth yn ei wneud i ardaloedd gwledig a
Chymru gyfan.
Serch hynny, mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynigion presennol Llywodraeth
Cymru, a all danseilio hyfywedd ein cymunedau gwledig a niweidio tirwedd,
cymdeithas a phroffil ieithyddol Cymru.
Mae’r Cyngor felly yn cefnogi ymateb yr Arweinydd i’r ymgynghoriad ar
ran y Cyngor yn arddel y gofynion canlynol:
• ddarparu amgylchedd sefydlog i fusnesau fferm wrth iddynt addasu
i’r newidiadau anochel yng nghyflwr y farchnad wedi Brexit,
drwy barhau i roi cefnogaeth uniongyrchol i ffermydd fel ag ar hyn o bryd, am
gyhyd ag sy’n briodol, heblaw am fesurau i symleiddio gweinyddiaeth y drefn;
• peidio â gweithredu unhyw newidiadau
wedyn heb wneud ymchwil a modelu manwl, ar lefel ddaearyddol sy’n ddigon mân i
sicrhau y byddant yn cael canlyniadau cadarnhaol i amaethwyr, i’r economi, i
gymunedau gwledig ac i’r iaith Gymraeg, gan roi ystyriaeth ddigonol i’r
gwahanol ffyrdd y defnyddir tir;
• sicrhau bod cefnogi amaethwyr i gynhyrchu bwyd yn elfen allweddol
o unrhyw gyfundrefn gwneud taliadau yn y dyfodol; sicrhau bod unrhyw arian a
delir i gydnabod gwerth ehangach amaeth yn ychwanegol i hyn; diffinio’r gwerth
ychwanegol hwn yn eang i gynnwys gwerth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol
amaeth yn ogystal â’i rôl o ran gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol.
• sicrhau y rhoddir cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio ar y tir a’i
reoli yn unig, gan ganolbwyntio ar ffermydd teulu bach a chanolig;
• darparu arian wedi’i neilltuo ar gyfer ei fuddsoddi mewn datblygu
gwledig, yn arbennig i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i’r heriau economaidd y
mae Cymru wledig yn eu hwynebu. Dylid cyfeirio’r arian i’r ardaloedd hynny y
mae eu heconomi fwyaf bregus oherwydd eu bod yn ardaloedd ymylol.
Cofnod:
(1) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Mae’r Cyngor yn
mynegi pryder am gynigion Llywodraeth Cymru, “Brexit a’n tir: diogelu dyfodol
ffermio yng Nghymru”.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd yn ei dogfen ymgynghorol, i
gefnogi busnesau fferm er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol. Mae’r Cyngor hefyd
yn cefnogi’r bwriad i gydnabod yn ariannol y cyfraniad ychwanegol amhrisiadwy y
mae amaeth yn ei wneud i ardaloedd gwledig a Chymru gyfan.
Serch hynny, mae’r
Cyngor yn gwrthwynebu cynigion presennol Llywodraeth Cymru, a all danseilio
hyfywedd ein cymunedau gwledig a niweidio tirwedd, cymdeithas a phroffil
ieithyddol Cymru.
Mae’r Cyngor felly
yn cefnogi ymateb yr Arweinydd i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor yn arddel y
gofynion canlynol:
·
Ddarparu
amgylchedd sefydlog i fusnesau fferm wrth iddynt addasu i’r newidiadau anochel
yng nghyflwr y farchnad wedi Brexit, drwy barhau i roi cefnogaeth uniongyrchol
i ffermydd fel ag ar hyn o bryd, am gyhyd ag sy’n briodol, heblaw am fesurau i
symleiddio gweinyddiaeth y drefn.
·
Peidio
â gweithredu unrhyw newidiadau wedyn heb wneud ymchwil a modelu manwl, ar lefel
ddaearyddol sy’n ddigon mân i sicrhau y byddant yn cael canlyniadau cadarnhaol
i amaethwyr, i’r economi, i gymunedau gwledig ac i’r iaith Gymraeg, gan roi
ystyriaeth ddigonol i’r gwahanol ffyrdd y defnyddir tir.
·
Sicrhau
bod cefnogi amaethwyr i gynhyrchu bwyd yn elfen allweddol o unrhyw gyfundrefn
gwneud taliadau yn y dyfodol; sicrhau bod unrhyw arian a delir i gydnabod
gwerth ehangach amaeth yn ychwanegol i hyn; diffinio’r gwerth ychwanegol hwn yn
eang i gynnwys gwerth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol amaeth yn ogystal
â’i rôl o ran gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol.
·
Sicrhau
y rhoddir cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio ar y tir a’i reoli yn unig, gan
ganolbwyntio ar ffermydd teulu bach a chanolig.
·
Darparu
arian wedi’i neilltuo ar gyfer ei fuddsoddi mewn datblygu gwledig, yn arbennig
i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i’r heriau economaidd y mae Cymru wledig yn eu
hwynebu. Dylid cyfeirio’r arian i’r ardaloedd hynny y mae eu heconomi fwyaf
bregus oherwydd eu bod yn ardaloedd ymylol.”
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Er bod y ddogfen ‘Brexit a’n Tir’ yn swnio’n dda ar
yr olwg gyntaf, gwelir wrth ddarllen ymlaen, nad oes llawer o fanylion yma o
gwbl. Pryderir am effaith Brexit ar
ffermwyr llai a ffermwyr mynyddig, yn enwedig o ddeall y bydd ffermwyr yn
gorfod cystadlu am arian gyda chyrff eraill ym maes gwarchod yr amgylchedd. Mae ffermwyr, yn enwedig rhai llai a rhai
mynyddig, dan straen eisoes ac ni ddymunir gweld dim yn ychwanegu at
hynny. Hefyd, er bod y ddogfen yn
cydnabod cyfraniad ffermwyr i’n cymdeithas, nid yw’n taclo hynny yn y ffordd
gywir.
·
Bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn lladd
ffermydd bychain drwy wrthod caniatáu i bobl ifanc adeiladu tŷ ar y fferm
deuluol. Er hynny, caniateir trosi hen
feudai yn llety ar gyfer ymwelwyr, ac ati.
·
Nid
yw’r cynnig yn dweud yr holl stori gan y bu cynllun mewn grym gan y Llywodraeth
Ganolog i helpu ffermwyr ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Hefyd, mae rhai ffermydd mwy yn derbyn
£250,000 y flwyddyn o grant. Nid yw
hynny’n helpu’r ffermwyr bach a chanolig, ac mae 90% o’r grant sy’n dod i Gymru
yn mynd i lai na 10% o’r pocedi. Dymunir
gweld cap ar y swm mae ffermydd mawr yn derbyn, a thra’n derbyn bod y
Llywodraeth am ail-edrych ar y cynllun, mae angen ail-edrych ar hyn hefyd.
·
Ei bod yn fwy anodd ar ffermwyr mynydd oherwydd nad
oes ganddynt ddewis ond ffermio defaid, yn wahanol i ffermwyr llawr gwlad sy’n
godro ac sy’n gallu newid cyfeiriad, e.e. i dyfu cnydau.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig.