Agenda item
I ysytried cais Mr B
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn
unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc
wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn gallu bod
yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd
cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amgylchiadau personol
yr ymgeisydd. Nodwyd bod Mr B yn ymwybodol
pan oedd yn gwneud y cais y byddai yn cael ei gyfeirio at Is Bwyllgor oherwydd cynnwys yr adroddiad DBS. Ategwyd nad oedd gan yr ymgeisydd
unrhyw gollfarn ers 2014 ac nad oedd
wedi yfed alcohol ers derbyn collfarn am yfed a gyrru yn 2011. Nododd bod ganddo dri o blant a'i
fod angen swydd i gefnogi ei deulu ifanc oherwydd iddo gael ei wneud yn ddi-waith yn ddiweddar.
Ymneilltuodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD
nad oedd yr ymgeisydd, ar hyn o bryd, yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar, a gyflwynodd
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r
materion canlynol
Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon, Gwynedd
(Tachwedd 2011). Roedd y drosedd
gyntaf yn ymwneud a gyrru car heb yswiriant yn
groes i adran 143 (2) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ddirwy o
£120.00 ac
ardystiwyd ei drwydded. Roedd yr
ail drosedd am yfed a gyrru yn groes i adran 5(1)(A)
o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd. Cafodd ddirwy o £120.00, gorchymyn i dalu
costau a’i
wahardd
rhag gyrru am 18 mis. Roedd y trydydd drosedd am yrru car yn groes i ofynion y
drwydded a cafodd orchymyn i dalu costau £15 ac ardystiwyd ei drwydded.
Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn a ddwy drosedd gan Lys Ynadon Gwynedd (Hydref 2013). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a dwyn yn
groes i adran 1 Deddf Lladrad 1968
lle cafodd orchymyn i dalu costau o £100 ac iawndal o £10. Roedd yr ail drosedd
yn ymwneud a methu ildio i’r ddalfa yn groes
i adran 6(1) Deddf Mechnïaeth 1976 lle cafodd
ddirwy o £50 a chostau o £20.
Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn am gyfres o droseddau gan Lys Ynadon Gwynedd (Mehefin) 2014). Roedd y drosedd gyntaf yn
ymwneud ac atal cwnstabl yn groes i adran 89 (2) Deddf yr Heddlu 1996 lle cafodd
ddirwy o £90. Roedd yr ail drosedd yn ymwneud
a defnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes i adran 143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ei wahardd rhag
gyrru am gyfnod o 12 mis, gorchymyn i dalu dirwy
o £110 a chostau o £105.00. Roedd y trydydd drosedd yn ymwneud a throsedd yn ymwneud a gyrru car yn groes i ofynion y
drwydded a cafodd orchymyn i dalu dirwy ac
ardystiwyd ei drwydded..
Ystyriwyd paragraff 2.2 o
Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei
wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod
yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd
yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai
ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 8 o’r Polisi yn
cyfarch troseddau anonestrwydd a pharagraff 8.2 yn nodi byddai cais yn cael ei wrthod fel rheol os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys
rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru
ymhlith materion eraill sy'n droseddau sydd yn ymwneud
a bwgleriaeth.
Ystyriwyd paragraff 12.10 lle
nodi’r bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at
waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod cyfnod
o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.
Rhoddodd yr Is Bwyllgor
ystyriaeth hefyd i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf
sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac
eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10
mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn
fwyaf diweddar.
Ystyriodd yr Is
Bwyllgor bod y drosedd o anonestrwydd yn un hanesyddol ac felly nid oedd yn sail i wrthod y cais. Wrth
ystyried y troseddau gyrru yn unigol ymddengys eu bod tu hwnt i’r cyfnod amser a ystyrir ym mharagraff 12.10, ond
gyda’i gilydd yn creu hanes o
aildroseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O ganlyniad roedd paragraff 16.1 yn dod i rym.
Er bod yr Is
Bwyllgor yn derbyn yr eglurhad a roddwyd
gan gynrychiolydd yr ymgeisydd
ar gefndir y digwyddiadau, ac nad oedd yr ymgeisydd
yn ymwybodol o ofynion ei drwydded,
roedd y drosedd o yrru heb sicrhau bod ei drwydded yn cyfarch y gofynion, yn un a oedd yn peri risg i ddiogelwch y
cyhoedd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad yr Is- bwyllgor o fewn cyfnod o 21 diwrnod o dderbyn y
llythyr