I ysytried cais Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y drosedd ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Nodwyd bod Mr A wedi derbyn collfarn
am gyfres o droseddau yn ymwneud
a chael arf bygythiol yn ei
feddiant. Amlygodd fod y troseddau yn rai hanesyddol ac nad oedd
unrhyw elfen o drais yn berthnasol
i’r digwyddiad. Ategwyd bod yr
ymgeisydd bellach wedi ymgartrefu ym Môn ac yn
ceisio am swydd i gefnogi yntau a’i bartner.
Nodwyd bod ganddo drwydded yrru lan.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres
o droseddau gan Lys Siryf Arbroath (Mawrth
2004). Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud a chael arf fygythiol yn ei feddiant yn
groes i Ddeddf 47 Deddf Cyfraith Troseddol (Yr Alban) 1995, lle cafodd ddirwy o
£200.00. Roedd yr ail drosedd oherwydd methiant, heb esgus rhesymol, i
ymddangos mewn llys, yn groes i Ddeddf Trefniadaeth Troseddol (Yr Alban) 1995
lle cafodd ddirwy o £50.00. Roedd y trydydd drosedd yn un o dorri'r heddwch a
cafodd ddirwy o £100.00.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai
ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff
6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais a pharagraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan
gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru
ymhlith materion eraill sy'n droseddau
sydd yn ymwneud â meddu arf heblaw dryll,
a throseddau tebyg.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y gollfarn o 2004 yn ymwneud a throsedd o drais. Gyda’r drosedd o feddu ar arf
wedi digwydd yn yr Alban fe’i
hystyriwyd
yn yr un modd a throsedd o feddu ar arf yng
Nghymru ac felly’n synhwyrol i’w fesur o dan
baragraff 6.5 o’r polisi. Er hynny, gyda’r
gollfarn wedi digwydd dros
14 mlynedd yn ôl, (tu hwnt
i ofynion y polisi o 3 blynedd) nid oedd yn
sail i wrthod y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.