Agenda item

Estyniad ac addasiadau i'r tŷ yn cynnwys codi lefel to a gosod ffenestr gromen cefn (cais diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad ac addasiadau i'r tŷ yn cynnwys codi lefel to a gosod ffenestr gromen cefn (cais diwygiedig).

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Cyfeiriodd at yr ymgynghoriadau gan nodi bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu oherwydd gor-ddatblygiad, roedd yr Uned AHNE yn fodlon efo’r bwriad a ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau/gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

 

         Eglurodd mai’r prif newid i ddrychiad blaen yr eiddo, sef y drychiad amlycaf, fyddai’r cynnydd o 0.42m i uchder y to a chyflwyno nen oleuadau i’r to blaen a hynny er mwyn darparu ystafelloedd gwely yng ngofod y to. Nododd bod y pedwar byngalo yn gymharol unffurf yn bresennol, fodd bynnag o ystyried graddfa fechan y cynnydd mewn uchder, ni ystyrir y byddai’n golygu newid gweledol niweidiol nac arwyddocaol yn y cyd-destun adeiledig hwn nac yn ddigon drwg i’w wrthod.

 

         Nododd bod llecyn llawr caled gyda lle parcio i ddau gar ger gwaelod gardd flaen yr eiddo a oedd gyfochrog a’r ffordd ystâd. Tynnodd sylw bod llefydd parcio hefyd ar ochr ffordd yr ystâd. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad, felly ystyrir y bwriad yn dderbyniol o agwedd polisïau diogelwch ffyrdd a pharcio.

 

         Argymhellwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol a chyffredinol, tirlun a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol yn unol â’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle a byddai gor-edrych;

·         Tai yn yr ardal yn cael eu defnyddio fel tai haf ac yn creu aflonyddwch i drigolion eraill;

·         Gosod cynsail wrth ganiatáu cais o ran codi uchder y to;

·         Effaith niweidiol ar bobl y stad a’r ardal leol o ran parcio a sbwriel;

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Prisiau tai yn mynd tu hwnt i bobl leol.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio:

·         Ei fod yn anodd datgan bod y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle o ystyried yr ardd eang yn y cefn;

·         Byddai’r estyniad ar lefel is na’r tŷ tu cefn i’r safle a ni fyddai gor-edrych annerbyniol;

·         Bod Polisi PCYFF 2 o’r CDLl yn gwarchod mwynderau, ni fyddai cynnydd arwyddocaol yn yr effaith bresennol;

·         Er yn nodi pryderon o ran sbwriel, roedd y mater tu allan i’r drefn cynllunio;

·         Bod y ddarpariaeth parcio yn ddigonol;

·         Derbyn a nodi pryderon lleol ond nid oedd cyfiawnhad cynllunio i wrthod y cais.

 

(ch)   Cynigwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion ar sail dyluniad. Nodwyd y byddai’r dyluniad to fflat yn amharu ar weddill y stad ac fe fyddai to llechi yn fwy derbyniol. Eiliwyd y cynnig.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Dylid talu sylw i sylwadau’r aelod lleol a’r Cyngor Cymuned;

·         Pryder o ran effaith codi uchder y to;

·         Pryder o ran y ddarpariaeth parcio;

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus;

·         Bod y dyluniad yn fwy modern o gymharu â thai eraill yn y stad;

·         Cynnydd bach a fyddai yn uchder y to;

·         Ni fyddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle oherwydd maint y safle a’i fod yn guddiedig;

·         Bod y bwriad yn cyd-fynd a thai eraill ar y stad a bod graddfa’r estyniad yn dderbyniol;

·         Bod defnydd o do fflat ar dŷ arall cyfagos, ddim yn gweld sail i wrthwynebu’r bwriad;

·         Byddai’r bwriad yn effeithio’n weledol ar yr adeilad a byddai to crib yn gweddu yn well i’r stad.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio:

·         Bod lleoliad yr estyniad mewn safle cuddiedig a byddai ond yn weladwy o bosib o’r tŷ drws nesaf. Roedd y safle cuddiedig yn gwneud y bwriad yn fwy derbyniol.

 

(dd)   Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais, fe ddisgynnodd y cynnig.

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Yn unol gyda’r cynlluniau.

3.     Llechi i gydweddu

4.     Gorffeniad i gydweddu

5.     Ffenestri talcen (gogledd orllewinol) i fod yn afloyw

 

Nodiadau:

1.      Ni chaniateir defnyddio to’r estyniad fel balconi.

2.      Dŵr Cymru

Dogfennau ategol: