Cofnod:
Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2018 er
mwyn i’r swyddogion ymgynghori ar y cynllun busnes a’i ystyried fel rhan o’r
asesiad.
Eglurodd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull yn Neiniolen yn llety
gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai’r datblygiad cryn newid i
drefniant mewnol yr adeilad ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad
allanol.
Nododd bod y dafarn ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am
dros flwyddyn (rhwng Gorffennaf 2016 a Hydref 2017) gan gael ei hysbysebu ar
bris isel (£75,000). Petai’r busnes tafarn yn hyfyw fe gredir
y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai rheolwyr newydd ar gyfer y busnes wedi dod
i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd rhaid cofio bod tafarn arall, sef “Y
Wellington”, o fewn 20m i’r adeilad hwn.
Amlygodd bod Polisi TWR 2 o’r CDLl
yn gefnogol i ddatblygiadau llety gwyliau parhaol trwy drosi adeiladau
presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel. Nododd bod cyfiawnhad i
alw’r datblygiad yn un o ansawdd uchel.
Nododd y credir fod y potensial i greu niwed mwynderol megis sŵn ac ymyrraeth yn fwy tebygol o’r
defnydd awdurdodedig, megis tafarn, nag y byddai o ddefnydd llety gwyliau
hunangynhaliol fel y cynhigir yma.
Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad
i’r bwriad. Nododd wrth ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni
chredir y byddai’r datblygiad hwn yn debygol o achosi trafferthion sylweddol
gwaeth na’r sefyllfa awdurdodedig. Nododd bod yr Uned Trafnidiaeth yn datgan
bod parcio cyhoeddus ar gael mewn meysydd parcio ac ar y stryd o fewn pellter
rhesymol i’r cyfleuster.
Cyfeiriodd at y cynllun busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd
a oedd yn egluro mai’r bwriad oedd trosi’r dafarn yn llety ansawdd uchel i hyd
at 20 o westeion ac yn datgan nad oedd cyfleusterau tebyg ar gyfer grwpiau mawr
o’r ansawdd a fwriedir ar gael yn lleol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer ynghyd ag
Uned Trethi’r Cyngor.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bwriedir darparu llety ansawdd
uchel ar gyfer grwpiau am bris cystadleuol;
·
Bod y bwriad yn cyd-fynd a’r
polisïau yn y CDLl;
·
Bod newid defnydd i lety
gwyliau ar yr ail lawr wedi ei ganiatáu eisoes;
·
Bod yr adeilad wedi ei
hysbysebu ar werth am gyfnod o 12 mis am bris o £75,000, pe byddai’r defnydd
fel tafarn yn hyfyw mi fyddai wedi ei brynu a’i ail-agor;
·
Bod datblygiadau o’r fath mewn
lleoliadau eraill yn llwyddiannus ac yn cyfrannu at yr economi leol;
·
Dim ond 3 adeilad o fewn 20
milltir i’r safle oedd efo darpariaeth o’r un safon a maint;
·
Bod yr Uned Dwristiaeth yn
adnabod yr angen am lety o safon ar gyfer grwpiau;
·
Bod darpariaeth parcio yng
nghefn yr adeilad ac nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad;
·
Byddai'r bwriad yn dod a budd
i’r economi leol;
·
Byddai’r datblygiad yn dod a’r
adeilad yn nôl i ddefnydd cyn i’w gyflwr ddirywio ymhellach.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y cais gerbron yn wellhad
i’r cais a wrthodwyd ond bod maint yr ystafelloedd yn parhau i fod yn fychan.
Fyddai’n bosib cadarnhau maint yr ystafelloedd?
·
Un ystafell wely efo drysau yn
agor allan at gefn y safle ag yn edrych ar wal, nid oedd hyn yn llety o safon;
·
Bod y bwriad yn groes i Bolisi
TWR 2 o’r CDLl gan nad oedd yn llety o ansawdd uchel;
·
Pryder y byddai problemau yn
codi fel y gwneir yn Hostel Noddfa;
·
Pryder o ran y ddarpariaeth
parcio, diffyg mannau parcio ar y stryd;
·
Bod teimladau cryf yn lleol
gyda nifer o lythyrau gwrthwynebiad wedi eu cyflwyno;
·
Darllen llythyr gwrthwynebydd
a oedd yn nodi y croesawir datblygu’r adeilad ond bod angen ystyried y cais yng
nghyd-destun ceisiadau arall tebyg a gyflwynwyd. Bod cynnydd yn y nifer o
geisiadau o’r fath a oedd yn arwain at Seisnigeiddio’r ardal.
(ch) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod
lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
Bod maint yr
ystafelloedd yn amrywio i ymateb i ofynion unigolion a theuluoedd, ystyrir eu
bod o faint derbyniol;
·
Mater o farn o ran y
drysau yn edrych tuag at wal;
·
Bod y ddarpariaeth parcio
yn dderbyniol gyda rhywfaint o le parcio yng nghefn yr adeilad a 2 maes parcio
cyhoeddus gerllaw. O ystyried y defnydd presennol efallai y byddai angen mwy o
ddarpariaeth parcio yng nghysylltiedig â’r defnydd yma o gymharu â’r defnydd bwriedig;
·
Bod y ffigyrau presennol
yn dangos canran isel o’r fath yma o ddarpariaeth yn y ward;
·
Bod ceisiadau
eraill yn cael eu hystyried ar eu haeddiant eu hunain;
·
Bod y ddarpariaeth bwriedig o ansawdd uchel ac yn cyd-fynd â gofynion
polisïau.
(d) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y
swyddogion.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Mai tafarn lleol oedd dan sylw
ac mai pobl leol oedd yn defnyddio’r dafarn felly ni ellir datgan y byddai
angen am fwy o ddarpariaeth parcio efo’r defnydd presennol;
·
Bod y ddarpariaeth llety ar
gyfer hyd at 20 o westeion a fyddai’n gallu arwain at 20 car, nid oedd
darpariaeth parcio ddigonol ar gyfer y nifer yma o geir;
·
Bod problemau parcio yn Neiniolen gyda dwysedd uchel o dai;
·
Pryder o ran effaith y bwriad
ar fwynderau preswyl o ran sŵn. Roedd rheolaeth o ddefnydd y dafarn gydag
oriau agor;
·
Ansicrwydd os oedd y llety o
ansawdd;
·
Bod y dafarn yn dafarn Cymreig
ei naws a bod peryg i gefndir ieithyddol a diwylliannol yr ardal;
·
Gweld potensial i’r bwriad ac
o ran Seisnigeiddio’r ardal, roedd y ddarpariaeth ar gyfer defnydd gwyliau;
·
Dylid ystyried cynnal ymweliad
safle er mwyn asesu agosatrwydd yr adeilad at adeiladau eraill a’r ddarpariaeth
parcio;
·
Bod y ffaith bod hyd at 20 o
westeion yn gallu aros yn yr adeilad mewn 8 ystafell wely, yn codi cwestiynau o
ran y cynllun busnes;
·
Ei fod yn bechod colli tafarn
ond ddim yn dymuno i gyflwr yr adeilad waethygu.
(dd) Cynigwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle.
Eiliwyd y gwelliant.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: