Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio
Cofnod:
Cyflwynodd Nia Haf Davies yr adroddiad a’r atodiadau, a oedd yn
cynnwys fersiwn drafft ymgynghorol diwygiedig o’r Canllaw Cynllunio Atodol
(drafft ymgynghorol) ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig’. Nododd bod
penderfyniad y Pwyllgor hwn ym mis Ebrill wedi arwain at benodi partneriaeth i
ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw drafft ymgynghorol. Tynnodd sylw
at gymwysterau a phrofiad y ddau gwmni, gan nodi bod Owain Wyn (Burum) yn bresennol
i sȏn am y gwaith (Atodiad 1) ac i ateb
cwestiynau. Tynnodd Nia sylw at y math o newidiadau a fyddai eu hangen er mwyn
gallu gweithredu ar argymhellion Burum a Chwmni Iaith. Dywedodd bod yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Gwasanaethau Cynllunio yn gwbl gefnogol i
argymhellion y cwmnïau a’r newidiadau. Wrth fynd trwy Atodiad 3, tynnodd sylw at
y prif newidiadau a oedd yn gwella llif y ddogfen a rhoi mwy o eglurder am
ddisgwyliadau yn gysylltiedig â’r broses o roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg o’r
cam sgrinio i’r cam gwneud penderfyniad.
Tynnodd Owain Wyn sylw’r Pwyllgor at y canlynol:
i. Eu bod wedi addasu profion a fyddai arolygwyr cynllunio’n
defnyddio i asesu
cadernid cynllun datblygu;
ii. Eu bod wedi
adnabod gwelliannau a fyddai’n golygu bod yr asesiadau ieithyddol yn
fwy tebyg i ffurfiau eraill o asesiadau (amgylcheddol a busnes) a
oedd yn edrych ar
risg (nid perygl), tebygolrwydd y risg, a pha mor ddifrifol ydi’r
risg;
iii. Mai asesiadau
ieithyddol a oedd eu hangen ar gyfer Datganiad ac adroddiad Asesiad Effaith;
iv. Bod yr angen i
ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer
datblygiadau ‘mawr’ yn gam pwysig oherwydd mae’n golygu byddai’n rhoi cyfle
clir i ymgeiswyr ar gyfer y math hwn o ddatblygiad i ymgysylltu
gyda chymunedau ac
eraill cyn cyflwyno cais cynllunio ynglŷn â natur y datblygiad
a’i effaith ar gymunedau,
gan gynnwys yr iaith Gymraeg;
v. Bod y matrics
effaith yn ddull gweladwy o ddod i gasgliad am effaith y datblygiad;
vi. Bydd mwy o
asesiadau yn fodd o ddatblygu sail dystiolaeth a dealltwriaeth am y maes.
Atgoffwyd y Pwyllgor bod craffu’r Canllaw yn digwydd yn gynharach
yng Ngwynedd nag yn Ynys Môn. Tynnodd sylw at adroddiad Cadeirydd y Gweithgor
Ymchwiliad Craffu Cymunedau (Atodiad 2 a 2a), a oedd yn cyfeirio at adborth a
gafwyd yn ystod cyfnod ymgysylltu anffurfiol yn 2016 ynglŷn â chynnwys
Canllawiau am ddatblygu a’r iaith Gymraeg sy’n bodoli yn y 2 Sir ar hyn o bryd.
Nododd bod y Gweithgor wedi gofyn am ymateb cryno i’r materion a godwyd bryd
hynny. Cyfeiriodd at yr ymateb drafft yng ngholofn C a cholofn Ch fel man
cychwyn, a bod cyfle i’r Pwyllgor holi neu wneud sylwadau am yr ymateb cyn iddo
gael ei gyfeirio at y Gweithgor.
Cyfeiriwyd at yr argymhellion ac wrth wneud hynny cyfeiriodd at
Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y drefn ymgynghori gyhoeddus, yn
ogystal â’r amserlen arfaethedig ar gyfer camau nesaf y broses.
Materion a godwyd:
i. Derbyniwyd sylw am y term ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig’ – ‘roedd
yr Aelod yn ansicr ynglŷn â beth olygir gydag hynny.
ii. Nodwyd fod yr
effaith ieithyddol sy’n deillio o fusnesau mawr yn debygol o fod yn llawer iawn
mwy nag o fusnesau bychan o ran eu maint. Credodd na ddylid cosbi busnesau bychan
trwy osod haen ychwanegol o fiwrocratiaeth iddynt, h.y. yr angen am asesiadau a
gwybodaeth ychwanegol i’w cyflwyno gyda chais cynllunio. Mae busnesau bach yn
aml yn fusnesau Cymraeg teuluol. Ymhellach nodir fod angen i fusnesau gymryd perchnogaeth
hefyd am yr effaith ieithyddol maent yn ei gael.
iii. Cydnabuwyd fod
y Canllaw yn ddarn o waith sydd yn unigryw ac yn arbennig i Wynedd a Môn.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod y cwmnïau yn cydnabod a chanmol gwaith yr Uned agwaith y Pwyllgor hyd yma. Nodwyd fod y newidiadau sy’n
deillio o’r gwerthusiad annibynnol sydd wedi cael ei gynnal yn ymwneud gyda’r
ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn y Canllaw a sut mae’r wybodaeth
ar gyfer yr asesiadau’n cael ei gyflwyno, yn hytrach na golygu newidiadau
arwyddocaol i gynnwys y Canllaw.
iv. Cyfeiriwyd at
drafodaeth blaenorol ynglŷn â darparu cyfleoedd hyfforddiant ar sut i
ddefnyddio’r Canllaw. Bu cyfeiriad yn y gorffennol at drefn rhoi
tystysgrif i unigolion a
chwmnïau a fyddai wedi bod mewn sesiwn hyfforddiant. A ddylai’r
Canllaw gyfeirio at
hynny?
v. Gofynnwyd am
eglurder i’r testun oedd wedi ei gynnwys yn nhudalen 39 a oedd yn
ymwneud ag eglurder y cwestiynau a’r trothwyon.
vi. Holwyd ynglŷn
â’r argymhelliad bod swyddogion yn cael hawl i wneud ‘man newidiadau’ – beth
oedd hynny’n ei olygu.
Ymateb:
i. Nodi’r sylw.
ii. O ran y wybodaeth
a fyddai angen efo cais cynllunio o bersbectif yr iaith Gymraeg, yn ôl Polisi
PS 1 ni fyddai angen i fusnesau bach ymgymryd ag asesiad ar ffurf Datganiad nag
Asesiad Effaith Iaith Gymraeg oherwydd na fyddent yn cyrraedd y trothwyon yn y
Polisi, sef bod arwynebedd llawr yr uned busnes yn 1,000m2 neu fwy neu fod 50
neu fwy o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y safle neu fod y busnes yn un mawr ac
ar safle ar hap annisgwyl. Mae gwaith paratoi’r Cynllun wedi cydnabod rôl
busnesau bach i gynnal
cymunedau ac fe’u cefnogir mewn sawl
polisi.
iii. Nodi’r sylw.
Cyfeiriodd Owain Wyn at gydnabyddiaeth yn eu hadroddiad at y cydweithio buodd
rhyngddynt a’r Uned wrth wneud y gwaith.
iv. Eglurwyd mai
mater gweithredol oedd trefnu hyfforddiant ac na fyddai’n briodol
cynnwys cyfeiriad at hynny yn y Canllaw. Bydd trefniadau yn cael ei
gwneud ar ôl i’r
Canllaw gael ei fabwysiadu er mwyn cynnal sesiwn codi ymwybyddiaeth
i bartïon
amrywiol, e.e. swyddogion cynllunio, asiantau cynllunio ac
unigolion/ cwmnïau eraill a
fyddai’n cynghori ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio. Mae’n debygol
byddai’r
Gwasanaeth Cynllunio yn cydweithio gyda chwmnïau allanol i lunio a
rhoi’r hyfforddiant.
v. Esboniwyd mai
crynodeb o farn y craffwyr oedd wedi ei gynnwys yn y
golofn olaf ac mai’r ymatebwyr i’r ymgysylltu anffurfiol oedd wedi codi’r materion/
gofyn cwestiynau yn y golofn gyntaf yn y tabl yn Atodiad 2a.
vi. Cadarnhawyd
mai diwygiadau golygyddol yn unig fyddai’n cael ei wneud er mwyn
sicrhau fod y ddogfen yn ramadegol gywir a bod unrhyw croesgyfeirio
o fewn y ddogfen
yn gywir.
Penderfyniad:
Penderfynwyd rhoi’r
hawl i Swyddogion wneud mân newidiadau golygyddol i’r Canllaw cyn ei ryddhau ar
gyfer ymgynghori cyhoeddus, ynghyd a chymeradwyo’r hawl i ryddhau’r Canllaw ar gyfer
cyfnod ymgynghori cyhoeddus.
Dogfennau ategol: