Agenda item
- Cyfarfod Y Cyngor, Dydd Iau, 6ed Rhagfyr, 2018 1.00 y.h. (Item 9.)
- Datganiadau o fuddiant ar gyfer eitem 9.
Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).
Cofnod:
Gadawodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y cyfarfod oherwydd buddiant.
Nododd y Cynghorydd Gareth Thomas, er iddo ddatgan buddiant yn yr eitem
hon ar gychwyn y cyfarfod, ei fod yn tynnu’r buddiant hwnnw’n ôl. Gan hynny, ni fyddai’n gadael y cyfarfod yn
ystod y drafodaeth.
Oherwydd buddiant yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Peredur Jenkins,
yn y mater hwn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig,
adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2019/20 o’r
penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio
caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 50% ar eiddo perthnasol
o’r fath.
Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd mai’r bwriad am
2019/20 hefyd fyddai neilltuo’r cyfan o’r swm a fyddai’n weddill o’r Premiwm
Treth mewn cronfa benodol i’w ddefnyddio ar flaenoriaethau’r Cyngor, gan
gynnwys darparu tai ar gyfer pobl ifanc.
·
Holwyd faint o arian ychwanegol mae’r premiwm o 50%
wedi ddod i’r Cyngor. Mewn ymateb,
nodwyd bod yr amcangyfrif diweddaraf yn nodi y disgwylid derbyn tua £2.7m o
gymharu â’r £2m a ragwelwyd ar y cychwyn, ond na ellid darogan faint o dai
fyddai’n trosglwyddo o’r gyfundrefn dreth gyngor i’r dreth fusnes rhwng hyn a
diwedd mis Mawrth, na faint o’r cyfrifoldeb treth fyddai’n cael ei ôl-ddyddio.
·
Nodwyd,
er bod yr egwyddor o godi premiwm i’w ganmol, bod y drefn yn ddiffygiol gyda
rhai perchnogion yn trosglwyddo’u heiddo i’r dreth fusnes, yn cymhwyso am
ryddhad llawn o’r dreth annomestig, ac yn derbyn gwasanaethau’r Cyngor yn
ddi-dâl. Awgrymwyd nad oedd neb yn
plismona hyn a phwysleisiwyd bod angen adolygu’r sefyllfa. Nodwyd hefyd petai pawb yn talu 100% o’r
dreth, y byddai’r Cyngor mewn llawer gwell sefyllfa yn ariannol.
·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r gwaith
plismona annigonol sy’n cael ei wneud gan Swyddfa’r Prisiwr, eglurwyd bod y
corff hwnnw, fel cyrff cyhoeddus eraill, yn cael anhawster dygymod â’i
gyfrifoldebau oherwydd prinder adnoddau.
Nodwyd, er y ceisiwyd dylanwadu ar Lywodraeth Cymru dros nifer o
flynyddoedd i newid rheolau’r gyfundrefn fel nad oes modd trosi eiddo’n fusnes
heb hawl cynllunio, ni chafwyd llawer o glust hyd yma. Fodd bynnag, roedd rhai cynghorau eraill wedi
dod yn effro i’r sefyllfa erbyn hyn, ac wrth gael mwy o gynghorau i gefnogi
safbwynt Gwynedd ar hyn, gobeithid cael y maen i’r wal cyn hir. Ychwanegwyd na chredid bod Swyddfa’r Prisiwr
yn gwneud digon o blismona’r eiddo sy’n trosglwyddo i’r rhestr dreth fusnes,
ond roedd y gallu i ddylanwadu arnynt hyd yn oed yn llai na’r gallu i
ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru gan eu bod yn rhan o’r HMRC, sy’n asiantaeth o
Lywodraeth San Steffan. Roedd y Cyngor
yn tynnu sylw Swyddfa’r Prisiwr at dai sydd ar y rhestr fusnes, ond ddim yn wir
ar gael i’w gosod, ac yn dilyn yr achosion hynny i fyny ar hyn o bryd.
·
Mynegwyd pryder bod perchnogion eiddo sydd wedi
trosglwyddo’u heiddo i’r rhestr treth fusnes yn byw yn y tai hynny, ac yn cael
casgliadau gwastraff yn ddi-dâl.
Pwysleisiwyd bod angen adroddiad clir yn dangos a yw’r cynllun yn costio
arian i’r Cyngor, neu a yw’r Cyngor am gael mantais ohono, oherwydd po fwyaf
sy’n trosglwyddo, lleiaf o arian fydd y Cyngor yn dderbyn. Eglurodd y Prif Weithredwr na olygai
trosglwyddiadau i’r dreth fusnes golled ariannol parhaus, gan fod y Cyngor yn
cael grant ychwanegol os yw tai’n symud i’r dreth ddi-annedd, ond bod y cyfle i
godi premiwm arnynt yn cael ei golli.
Ychwanegodd fod y Fforwm Gwledig wedi gofyn i Wynedd am adroddiad ar y
mater hwn ac y gobeithid cael cefnogaeth y 9 awdurdod gwledig ar y fforwm i
fynd â hyn ymhellach. Mewn ymateb i’r sylw
ynglŷn â chasgliadau gwastraff, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Gwastraff yn
trin tai sydd wedi trosglwyddo i’r dreth ddi-annedd fel busnesau o safbwynt
casglu gwastraff. Ychwanegodd aelod iddi
hithau godi’r pryderon am gasgliadau gwastraff ac iddi weld tystiolaeth bod
Gwasanaeth Trethi’r Cyngor yn hysbysu’r Gwasanaeth Bwrdeistrefol bob tro mae
eiddo yn trosglwyddo.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn gwneud dim newid
i’r cynllun ar gyfer 2019/20. Hynny yw, ar gyfer 2019/20:
·
Bod
Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag
Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Bod
Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail
gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992.
·
Bod
Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6
mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis
neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Dogfennau ategol: