Agenda item

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail ei leoliad, graddfa a’i effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

         Eglurwyd bod safle’r cais yng nghornel cae agored ei natur ar yr arfordir ger glannau’r Fenai. Nodwyd er gwaethaf nad oedd yr ardal gyfagos wedi ei chydnabod na’i dynodi fel tirlun arbennig, credir byddai’r bwriad yn parhau i amharu’n andwyol ar gymeriad a naws agored y tirlun/parcdir lleol gan y byddai’n creu datblygiad ymwthiol o fewn tirwedd cefn gwlad.

 

         Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail effaith andwyol ar fwynderau gweledol ynghyd ag effaith andwyol y datblygiad arfaethedig ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn cynrychioli grŵp o 7 tŷ yn Llanfair Hall;

·         Bod lleoliad yr unedau wedi eu symud ychydig o gymharu â’r cais gwreiddiol ond byddent yn parhau i fod yn ddolur ar y dirwedd agored;

·         Byddai’r bwriad yn cael effaith ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth;

·         Pryder o ran yr effaith ar dawelwch yr ardal;

·         Pryder o ran yr effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn;

·         Byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail o ran datblygiadau o’r fath ar lannau’r Fenai.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod wedi cefnogi’r cais yn y cyfarfod blaenorol a’i fod yn parhau i fod yn gefnogol i’r cais;

·         Mai ar fore’r cyfarfod cysylltodd trigolion Llanfair Hall gydag ef;

·         Byddai’r datblygiad oddeutu 130 medr i ffwrdd o’r tai;

·         Tymhorol oedd yr unedau a byddent yn cael eu symud;

·         Bod y bwriad yn cyd-fynd gyda pholisïau twristiaeth ac economaidd;

·         Byddai’r unedau yn cael eu sgrinio gan y coed a ni fyddent yn cael effaith ar y trigolion;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Ar ddeall mai ail-dŷ oedd yr agosaf i’r datblygiad;

·         Gofyn i’r Pwyllgor dderbyn yr hyn a nodwyd gan yr ymgeisydd yn y cyfarfod blaenorol a chefnogi pobl leol.

 

(ch)  Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Er yn cydymdeimlo efo’r ymgeisydd, roedd y datblygiad yn y lleoliad anghywir. Dylai’r ymgeisydd drafod efo’r swyddogion os oedd safle gwell ar eu tir a oedd yn llai gweladwy;

·         Pryder o ran effaith y datblygiad ar dŷ cyfagos, roedd y ffaith ei fod yn ail-dŷ yn amherthnasol;

·         Byddai gwrych uwch yn effeithio ar yr olygfa;

·         Gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle lle gwelwyd agosatrwydd y safle i’r tŷ agosaf. Yn hoff o’r cytiau bugail, yn bechod na ellir diwygio’r cynlluniau yn hytrach na gwrthod y cais;

·         Pe byddai’r ymgeisydd yn trafod efo’r swyddogion nid oedd yn amhosib i ddatblygiad o’r fath fod yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

         Rhesymau:

 

1.    Mae’r datblygiad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi TWR5, PCYFF3, PS14 ac AMG3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ynghyd â’r Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau gan ei fod yn golygu creu datblygiad ymwthiol ar draul diogelu mwynderau gweledol y dirwedd leol.

 

2.    Mae’r datblygiad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan y byddai’n amharu’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn a chreu datblygiad gormesol. Mae’r datblygiad hefyd yn groes gyngor cenedlaethol a gynhwysir ym Mholisi Cynllunio Cymru (2017), NCT 13 Twristiaeth a NCT23 Datblygu Economaidd sy’n datgan bod angen osgoi niwed i fwynderau preswyl gan gyfeirio datblygiadau economaidd i’r lleoliadau mwyaf priodol.

Dogfennau ategol: