skip to main content

Agenda item

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad rhif C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod cwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais (cyflwyniad gwybodaeth ychwanegol i amrywio amod 3 i gynorthwyo gwaith torri a llenwad)

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad rhif C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod cwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais (cyflwyniad gwybodaeth ychwanegol i amrywio amod 3 i gynorthwyo gwaith torri a llenwad).

        

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018 er mwyn ymchwilio i faterion yn ymwneud â thrin a rheoli llysiau'r dial yn llawn cyn i waith pellach fynd rhagddo ar gyfer gosod y deunydd amddiffynfeydd môr carreg.

 

Nodwyd yn dilyn trafodaethau daethpwyd i gasgliad ar gynllun oedd yn bodloni’r Gwasanaeth Cynllunio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru o ran trin a rheoli llysiau’r dial. Eglurwyd y bwriedir chwistrellu’r planhigyn dros gyfnod o leiaf ddwy flynedd gyda dwy driniaeth o fewn tymor. Roedd rhaid gwneud y gwaith yma cyn bod unrhyw ddatblygiad pellach ar y safle.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

          Roedd ystyriaeth wedi ei roi i adar yn y bae, cadernid y tir ac effaith y gwaith ar y tir ynghyd â mesurau rheoli trafnidiaeth. Nodwyd yr argymhellir nifer o amodau a oedd yn ymdrin â’r holl ystyriaethau, megis bioamrywiaeth a mwynderau trigolion cyfagos.

 

Eglurwyd bod yr ymgeisydd yn rhagweld y byddai’r gwaith o roi’r deunydd rip-rap o amgylch y safle yn cymryd oddeutu 3 i 4 mis gyda symudiad o oddeutu 25 llwyth y dydd. Nodwyd y byddai’r gwaith yma yn rhoi sadrwydd i’r safle.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nid oedd unrhyw beth wedi digwydd o ran trin llysiau’r dial ar y safle ers trafodwyd y cais yn y Pwyllgor ar 19 Mawrth;

·         Mai yn ddiweddar iawn roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno i’r bwriad;

·         Pe byddai llysiau’r dial yn cael eu trin ar yr adeg yma o flwyddyn mi fyddai’n aneffeithiol;

·         Bod gwaredu’r safle o lysiau’r dial yn mynd i gymryd blynyddoedd, roedd y planhigyn ar gyrion y safle lle bwriedir rhoi y rip-rap;

·         Cyfeirio at lythyr gan Uned Gwarchod y Cyhoedd. Yn glir bod gan yr uned bryderon ynglŷn a gwaith yn mynd yn ei flaen heb ddifa llysiau’r dial;

·         Pe caniateir y cais, gofyn i osod amod nad oedd y gwaith rip-rap yn mynd yn ei flaen tan fod llysiau’r dial wedi ei waredu neu ei drin o leiaf tair gwaith;

·         Gofyn ar ran trigolion lleol i ddiwygio’r oriau gwaith a ganiateir i hepgor dydd Sadwrn i leihau’r effaith arnynt.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod amod 21 yn nodi bod rhaid i’r ymgeisydd ddangos bod llysiau’r dial wedi eu gwaredu o’r safle cyn symud ymlaen i ddatblygu. O ran gweithio ar ddydd Sadwrn, bod amser gweithio wedi ei gyfyngu awr a hanner bob ochr i’r llanw uchel. Nododd y byddai tynnu dydd Sadwrn fel diwrnod gweithio yn golygu byddai’r gwaith yn cymryd mwy na tri i bedwar mis.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Cynigwyd gwelliant i ddiwygio’r oriau gwaith gan dynnu dydd Sadwrn. Eiliwyd y gwelliant.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pam nad oedd yr ymgeisydd wedi cychwyn ar y gwaith?

·         Angen derbyn mwy o wybodaeth o ran halogyddion yn y tir cyn cychwyn ar y gwaith;

·         Bod 2 flynedd ers caniatáu’r cais gwreiddiol, gyda cais gerbron i ymestyn y caniatâd. Roedd wir angen trin y llysiau’r dial.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Ei fod yn bwysig cytuno methodoleg yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Mynnir methodoleg chwistrellu am gyfnod o leiaf 2 mlynedd i ymdrin â llysiau’r dial. Byddai’r bwriad gwreiddiol i sgrinio’r deunydd wedi cael mwy o effaith ar fwynderau trigolion;

·         Yn unol â’r caniatâd gwreiddiol fe orchuddwyd y tir gyda gwastraff llechi oherwydd pryder ar y pryd o ran allyriadau i’r aer. O ran y pryder o drwytholch, roedd yr ymgeisydd yn cyflwyno samplau dwr i Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd risg neu roedd yn isel o ran llygru’r amgylchedd. Bod cyfansoddiad a halogiad y tir wedi derbyn sylw manwl;

·         Bod gofyn ar yr ymgeisydd i gyflwyno adroddiad yn manylu beth wnaethpwyd i ddelio efo llysiau’r dial. Roedd yr ymgeisydd wedi colli’r cyfle i gychwyn ar y gwaith chwistrellu yn y tymor hwn, felly byddai’r gwaith yn cychwyn blwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r ystod o amodau a ganlyn a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:

 

·        Cychwyn ymhen pum mlynedd,

·        Gweithrediadau dros dro yn cynnwys cyflawni'r gwaith torri a llenwi a chario 7,500 tunnell o gerrig i'w weithredu o fewn amserlen o naw mis o ddyddiad hysbysu'r Awdurdod Cynllunio Lleol,  

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·        Cario deunyddiau wedi'i gyfyngu i 150 o dunelli y diwrnod, rhwng 08.00 a 17.00 Llun i Gwener, neu gyfanswm o wyth llwyth y diwrnod,

·        Cyn dechrau'r datblygiad, bydd y cynllun Adfer ac Ôl-ofal ar gyfer y safle yn cael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol i gynnwys darpariaeth ar gyfer gwella bioamrywiaeth. Gwaith adfer i gychwyn o fewn tair blynedd o gwblhau gweithrediadau yn ymwneud â gosod y rip-rap oni bai y rhoddir caniatâd cynllunio pellach,  

·        Mesurau lliniaru i leihau'r effaith ar y goesgoch, gorhedydd y graig a nodweddion eraill o ddiddordeb bioamrywiaeth lleol, yn cynnwys;

·         Gwahardd gwaith adeiladu/dympio awr cyn ac awr wedi llanw uchel rhwng mis Medi a mis Mawrth h.y. cyfnod o ddim gwaith am dair awr o amgylch llanw uchel,

·         Dylid ymgymryd ag arolygon monitro yn ystod y cyfnod adeiladu i wirio bod adar yn parhau i ddefnyddio'r safle a bod mesurau i leihau aflonyddwch yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus,

·         ymgeiswyr i gynhyrchu a gweithredu amserlen waith yn manylu ar y cyfnodau gweithio cyfyngedig dyddiol o amgylch llanw uchel fel y nodwyd yn yr amod

·        Cael gwared ag offer peirianneg sifil, strwythurau a pheiriannau sydd dros ben wedi cwblhau'r datblygiad,

·        Rheoli llwch sy'n cael ei gario a darparu offer golchi olwynion ar y safle i fod yn amodau cynllunio,

·        Defnydd wedi'i gyfyngu i waredu cerrig,

·        Dyluniad manwl y cerrig, uchafswm maint y garreg i'w defnyddio ac unrhyw ofynion cynnal a chadw yn y dyfodol i fod yn unol a'r manylion a gymeradwywyd yn flaenorol dan amod,

·        Mesurau rheoli llygredd, monitro safle a lliniaru ecolegol i'w gweithredu yn unol â'r Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu i'w cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i'r datblygiad gychwyn  i sicrhau fod arfer da a mesurau lliniaru da wedi'u sefydlu i amddiffyn yr amgylchedd dyfrol, gan gynnwys: amodau gwaith ar y safle a mesurau i reoli effeithiau amgylcheddol megis symudiadau cerbydau trymion, cyfleusterau golchi olwynion, gorchuddio cerbydau, ardaloedd storio diogel, ansawdd aer, oriau gwaith, sŵn/dirgryniad, rheoli gwastraff a llygredd. Hefyd, monitro'r dŵr ffo posib o ddeunyddiau llaid a gwastraff i liniaru ardrawiad posib y datblygiad a gweithdrefnau arllwyso ar yr amgylchedd

·        Yr ymgeisydd i gynnal cynllun o samplo dwr a dadansoddi yn ystod cyfnod y datblygiad i ganfod a oes llygryddion yn bresennol mewn unrhyw drwytholch,

·        Tanwydd neu iraid i'w storio mewn lleoliad i'w gytuno ar bapur gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Bwnd i fod o leiaf 110% o gapasiti'r tanc tanwydd,

·        Cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad pellach ar y safle, bydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol, i gadarnhau bod y rhaglen trin Llysiau'r Dial wedi bod yn llwyddiannus ac wedi'i hardystio gan ymgynghorydd annibynnol bod yr holl ddeunydd planhigion ymledol wedi'i waredu. Mae'r cynllun diwygiedig yn gofyn i'r contractwr barhau i archwilio'r tir am unrhyw aildyfiant am gyfnod o 10 mlynedd ac yn darparu ar gyfer dogfennu ffotograffig a monitro, unrhyw waith adfer i waredu unrhyw aildyfiant ac unrhyw achos o Lysiau'r Dial gerllaw'r safle.

·        Dylid cyfyngu ar y defnydd a wneir o beiriannau â thrac ar y safle cymaint ag y bo modd, hyd nes y bydd yr ardaloedd lle mae'r Llysiau'r Dial wedi'u clirio neu wedi'u gwahanu.  Os oes yn rhaid defnyddio peiriannau â thrac mewn ardaloedd lle mae Llysiau'r Dial yn bresennol, rhaid defnyddio haen geodecstil fel arwyneb i gerbydau deithio ar ei hyd.  

·        Nodyn i'r ymgeisydd yn cyfeirio at ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor Gwynedd a'r Gwasanaeth Erydu Arfordirol i'r ymgynghoriad, ond hefyd lleoliad offer Dwr Cymru sydd angen mynediad diogel bob amser,

·        Nodyn i'r ymgeisydd mai cyfrifoldeb ac atebolrwydd canlynol y datblygwr a/neu'r tirfeddianwr yw datblygu a meddiannu'r safle'n ddiogel.

·        Nodyn i'r ymgeisydd bod y cais wedi ei asesu'n unol â saith amcan cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dogfennau ategol: