Dymchwel yr ysgol
gynradd bresennol a chodi ysgol gynradd newydd yn ei le gan gynnwys rhodfeydd
newydd, caeau chwarae a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elin Walker Jones
Cofnod:
Dymchwel yr ysgol gynradd bresennol a chodi ysgol gynradd
newydd yn ei le gan gynnwys rhodfeydd newydd, caeau chwarae a gwaith
cysylltiedig.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar
gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer 420 o ddisgyblion i gymryd lle adeilad
presennol Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd, oedd efo capasiti ar gyfer 210 o
ddisgyblion. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd wrth ystyried bod y cynnig yn deillio o’r prinder llefydd ysgol ar
gael ym Mangor a’r angen a adnabuwyd gan yr Awdurdod Addysg i ddarparu rhagor o
lefydd ysgol yn ardal Penrhosgarnedd, credir bod graddfa’r datblygiad yn
briodol ar gyfer ei leoliad ac yn dderbyniol mewn egwyddor i ddatblygu ysgol ar
y safle hwn.
Eglurwyd nid oedd y cynnig i ddymchwel ac ail-adeiladu ysgol bresennol yn
cyrraedd trothwyon cyflwyno asesiad effaith Iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd nad
oedd Polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl), yn gofyn am asesiad
o effaith o berspectif defnydd tir ar gyfer y math yma o ddatblygiad, oherwydd
bod y Cynllun yn ymgorffori nifer o fesurau lliniaru datblygiad ar ffurf
polisïau unigol.
Derbyniwyd sawl gwrthwynebiad yn ystod y broses ymgynghori gan drigolion
Rhodfa Penrhos, a fwriedir ei defnyddio fel mynedfa ar gyfer trafnidiaeth
adeiladu wrth ddatblygu’r safle, gan ddatgan pryder ynghylch materion megis
sŵn, llwch a llygredd. Nodwyd y gellir goresgyn a rheoli’r materion hyn
mewn modd derbyniol o sicrhau dulliau gwaith priodol trwy amodau cynllunio a
thrwy gytuno Cynllun Rheolaeth Dulliau Adeiladu cyn dechrau ar y gwaith.
Nodwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad ond
yn argymell sicrhau y darperir y fynedfa gerbydol, llwybrau troed a’r holl
ddarpariaeth barcio cyn agor yr ysgol newydd. Nodwyd y byddai’r cynlluniau yn
cynorthwyo hybu dulliau teithio amgen ac yn cyd-fynd ag amcan Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013. Ymhelaethwyd yr argymhellir nifer o amodau gan gynnwys
gwelliannau ffordd i gynnwys mesurau priodol i arafu cyflymder traffig ar hyd
Ffordd Penrhos ynghyd ag amod o ran rheoli symudiadau traffig adeiladu yn ystod
cyfnod penodol o’r dydd.
Nodwyd y derbyniwyd gwybodaeth y byddai’r llwybr o’r maes parcio i Rodfa
Penrhos yn cael ei gau yn ystod y cyfnod adeiladu yn ogystal â’r llwybr ar hyd
Rhodfa Penrhos a hynny ar sail pryderon lleol am ddiogelwch. Ymhelaethwyd y
byddai’r llwybr oedd o amgylch caeau chwarae Ysgol Friars yn cael ei agor ar ôl
y 3 mis cyntaf, yn dilyn sefydlogi’r llwybr, felly byddai llwybr amgen yn
cysylltu efo llwybrau eraill. Nodwyd yn dilyn cwblhau’r datblygiad byddai’r
llwybrau yn cael eu hail-agor. Eglurwyd bod Llwybr Cyhoeddus Rhif 25 Cymuned
Bangor yn croesi’r safle a bod y cais yn cynnwys rhoi’r hawl i wyro’r llwybr yn
swyddogol i ddilyn llwybr troed answyddogol a oedd eisoes wedi ei greu o
amgylch caeau chwarae Ysgol Friars. Roedd y llwybr answyddogol hwn, ym
mherchnogaeth y Cyngor ac wedi ei wynebu gyda tharmac.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pe caniateir y cais, pryder o
ran rheolaeth amodau. A allai’r pwyllgor dderbyn diweddariad pan rhyddheir
amodau?
·
Pryder bod y bwriad yn mynd i
arwain at gau 2 ysgol arall a byddai dyblu nifer y disgyblion yn cael effaith
ar yr Iaith Gymraeg o ystyried bod 20% o blant Ysgol y Garnedd yn siarad
Saesneg ar yr iard. Byddai’r bwriad ddim yn helpu o ran targed Llywodraeth Cymru
i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg;
·
Bod asesiad ardrawiad iaith,
yn holl bwysig o ran ysgolion a fe ddylid rhoi sylw i’r mater;
·
Byddai caniatáu’r cais yn
gallu effeithio ar ddyfodol ysgolion arall? Roedd Kirsty Williams AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gefnogol i gadw ysgolion ar agor yn
hytrach na’u cau;
·
Bod Ysgol y Garnedd yn ysgol
Gymraeg a oedd angen adeilad newydd. Er nad oedd cau ysgolion eraill yn fater
cynllunio, roedd ad-drefnu ysgolion yn Ardal y Groeslon wedi cael effaith ar y
ddau bentref cyfagos;
·
Mai’r cais gerbron oedd ar
gyfer adeilad newydd pwrpasol ar gyfer Ysgol y Garnedd;
·
Yr angen am adeilad newydd i
Ysgol y Garnedd ers blynyddoedd a bod adeilad Ysgol Babanod Coedmawr yn dirywio
gyda plant yn cael eu hanfon i Ysgol y Garnedd eisoes. Croesawu’r bwriad gan
nodi nid oedd llawer o dir ar gael o fewn Dinas Bangor ar gyfer adeiladu ysgol
newydd. Yn siwr bod llawer o bobl Bangor yn gefnogol i’r bwriad;
·
Y dylai’r sylwadau a wnaed o
ran yr effaith ar yr Iaith Gymraeg cael eu pasio i’r Adran Addysg.
(ch)
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod yr amodau a
argymhellir yn rhai sylfaenol ar gyfer datblygiad o’r fath. Ni roddir
diweddariad i’r Pwyllgor o rhan rhyddau amodau ar y caniatâd cynllunio ond fe
allai aelodau gysylltu i dderbyn diweddariad;
·
Mai cais cynllunio
oedd o dan ystyriaeth a nid oedd yn ofynnol i gyflwyno asesiad ardrawiad iaith
fel rhan o’r cais. Roedd yr effaith ar yr Iaith Gymraeg yn derbyn sylw o dan y
drefn trefniadaeth ysgolion, a oedd yn broses ar wahân i gynllunio;
·
Bod cylchlythyrau’r drefn
trefniadaeth ysgolion yn nodi’r angen i roi sylw i’r effaith ar yr iaith o dan
y drefn trefnidiaeth ysgolion. Ni danseilir yr angen am asesiad iaith ond ei
fod yn cael ei gyfarch a’i gloriannu’n fanwl o dan drefn arall;
·
Bod cynnig i gau’r
ysgolion dan sylw wedi bod yn destun rhybudd statudol eisoes a’i fod yn derbyn
sylw gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd. Roedd y drefn gynllunio a’r
drefn gabinet yn ddwy drefn ar wahân a ni fyddai caniatáu’r cais gerbron yn
golygu y byddai’r Cabinet yn cadarnhau rhybudd statudol.
(d) Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i
ganiatáu’r cais:
O blaid y cynnig i ganiatáu’r
cais (9): Y Cynghorwyr Stephen Churchman,
Elwyn Edwards, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Huw G. Wyn
Jones, Edgar Wyn Owen, Cemlyn Williams a Eirwyn Williams.
Yn erbyn y cynnig i ganiatáu’r cais (5): Y Cynghorwyr Eric M. Jones, Dilwyn
Lloyd, Gareth A. Roberts, Gruffydd Williams a Owain Williams.
Atal, (0)
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Rheolwr
Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol oddi
wrth Uned Gwarchod y Cyhoedd ynghyd â chanlyniadau cadarnhaol i’r broses o
ymgynghori’r gwyriad i’r llwybr cyhoeddus. Dylid hefyd cynnwys yr amodau
canlynol:
1.
Amser (5
mlynedd)
2. Yn unol â’r cynlluniau
3.
Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol
4.
Amodau trafnidiaeth
5. Amod
Dŵr Cymru
6. Cyflwyno
a chytuno Datganiad Dulliau Adeiladu Amgylcheddol
manwl
- bydd y Datganiad yn cynnwys Cynllun Rheoli Gwastraff ar
gyfer y cyfnod o ddatblygu’r safle.
7.
Cyflwyno a chytuno Cynllun Tirlunio Manwl
8.
Cyflwyno a chytuno Cynllun Lliniaru Ecolegol manwl.
9.
Rhaid dilyn yn union argymhellion yr Arolwg Ecolegol
10. Rhaid
dilyn yn union argymhellion yr Adroddiad Coed
11. Cyn
i’r ysgol newydd ddod yn weithredol rhaid cyflwyno a chytuno
Cynllun
Dymchwel ar gyfer yr ysgol bresennol a fydd yn cynnwys
amserlen
ar gyfer y gwaith dymchwel, adfer tir a thirweddu ynghyd
ag
amserlen ar gyfer arolwg ystlumod ychwanegol a fydd i’w
gwblhau
cyn i’r gwaith ddymchwel ddigwydd.
12.
Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu (i’w gytuno
gyda’r
Uned Trafnidiaeth a’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd)
13. Unrhyw
amodau ychwanegol angenrheidiol gan y Gwasanaeth
Gwarchod
y Cyhoedd
14.
Cytuno’r ymdriniaeth o’r ffiniau
15. Amod
Uned Dŵr ac Amgylchedd
Nodiadau
1.
Dŵr Cymru
2.
Cyfoeth Naturiol Cymru
3.
Priffyrdd
4.
Uned Llwybrau
5. Uned Dŵr ac Amgylchedd
Dogfennau ategol: