skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddog Polisi Cynllunio

Cofnod:

Cyflwyniad gan Linda Lee a oedd yn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn. Cyflwynwyd tabl a oedd yn rhan o’r adroddiad ymgynghori (Atodiad 1) a oedd yn nodi’r sylwadau hyn ynghyd ag ymateb ac argymhelliad y Swyddogion ar eu cyfer.

Fe nodwyd bod sylwadau wedi amlygu’r angen am newidiadau bach a dau newid mwy arwyddocaol i’r CCA sef:

 

·         Sut dylid diffinio ‘gormodedd’ o lety gwyliau mewn ardal? Nodwyd bod rhai ymatebion yn gofyn am roddi ffigwr neu ganran penodol o ran hyn. Mae’r sefyllfa yn wahanol ar draws ardal y Cynllun ac nad oes modd felly rhoi un ffigwr fel trothwy a fyddai’n berthnasol i bobman o fewn ardal y Cynllun. Awgrymwyd mai’r ffordd orau ymlaen fyddai amlygu ystyriaethau penodol a fyddai’n sefydlu’r amgylchiadau hynny pryd mae digon o lety gwyliau gwasanaeth neu hunan- wasanaeth mewn ardal a lle byddai ychwanegu atynt yn broblemus.

·         Mae angen mwy o wybodaeth ac arweiniad yn y CCA o ran sut i ymdrin â cheisiadau i newid gwestai i ddefnydd preswyl. Mae Polisi yn y CDLl ar y Cyd yn gwarchod gwestai ond mae angen darparu rhagor o wybodaeth ar ei gyfer. Awgrymwyd mai’r ffordd orau ydi cynnwys rhan newydd yn CCA i egluro’r dystiolaeth a fyddai’n rhaid ei gyflwyno er mwyn profi fod y gwesty ddim bellach yn hyfyw.

 

Gofynnwyd am gefnogaeth i’r ymatebion arfaethedig a’r hawl i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am y ddau newid a ddisgrifiwyd uchod ac yn rhes 1 a 2 yn yr adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus

 

Materion a godwyd:

 

·         Wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio am lety gwyliau hunan- wasanaeth a ddylid cynnwys pob math o lety gwyliau, gan gynnwys tai haf, yn yr hafaliad ar gyfer asesu os oes gormodedd yn yr ardal?

·          Cafwyd dwy farn wahanol am yr angen neu beidio i geisio cadw gwestai: (i) ‘roedd mynd ar wyliau yn boblogaidd iawn yn oes Fictoria ond oherwydd newidiadau yn nyheadau ymwelwyr, amlder cyfnodau gwyliau a chyfnodau gwyliau yn y wlad yma nid yw aros mewn gwesty mor boblogaidd ac mae llawer o westai yn cau. Mae’n anodd meddwl sut gellir atal hyn; (ii) mae rhai ymwelwyr dal yn hoffi mynd i aros mewn gwestai o safon dda.

 

Ymateb:

·         Nodi’r sylw bod sawl math o lety yn ardal y Cynllun ar gyfer yr ymwelwyr, - tai haf (pan mae eu perchnogion yn dod i aros ynddynt ar wahanol adegau’r flwyddyn); tai gwyliau (pan mae eu perchnogion yn eu gosod allan i wahanol ymwelwyr ar adegau yn y flwyddyn neu trwy gydol y flwyddyn; gwestai; carafanau a mathau tebyg o lefydd aros. Mae Polisi TWR 2: Llety Gwyliau yn y CDLl ar y Cyd ond yn delio gyda llety â gwasanaeth a llety hunan- wasanaeth. Mae Polisïau eraill yn bodoli yn y Cynllun yn barod i reoli lleoliad mathau o lety sydd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, sef y polisïau sydd yn ymwneud â charafanau a llety gwyliau amgen, er mwyn osgoi niwed i gymunedau. Mae Polisi TWR 2 yn rheoli effaith caniatáu llety hunan -wasanaeth mewn cymunedau. Pan fydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno ar gyfer darparu gwesty newydd neu pan fydd angen caniatâd cynllunio i greu llety hunan- wasanaeth mewn adeilad cyfredol a ddefnyddir ar hyn o bryd fel tŷ, nid ydy Polisi TWR 2 yn caniatáu colli stoc tai presennol i lety gwasanaeth a hunan -wasanaeth. Yn yr un modd nid yw’r Polisi’n cefnogi cynnig wedi ei leoli mewn ardal sy’n breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl ardal. Trwy ofyn am gynllun busnes nod Polisi TWR 2 ydy sicrhau bod cynnig yn creu busnes llety gwyliau sydd yn debygol o fod yn hyfyw yn y farchnad leol, nid i hybu busnesau a fyddai ond yn cael eu gosod allan yn gymharol achlysurol. O ran tai haf nid oes gan y system gynllunio rheolaeth dros y math yma o dai oherwydd nad oes angen caniatâd cynllunio i ddefnyddio tŷ fel ail dy i’w berchennog. Mae tŷ a ddefnyddir yn achlysurol gan ei berchennog fel rhywle i ddod ar wyliau o fewn yr un Dosbarth Defnydd, felly nid oes angen caniatâd cynllunio. Yn yr un modd, os ydy pobl eisiau gosod eu tai allan fel llety hunan -wasanaeth maent yn parhau i fod yn Nosbarth Defnydd tŷ yn nhermau cynllunio. Mae’r cynyddiad mawr ym mhoblogrwydd cwmnïau marchnata llety gwyliau fel Airbnb wedi gwneud hi’n anodd cadw trac o leoliadau’r holl lety hunan -wasanaeth mewn ardaloedd. Mae angen newid deddfwriaethol i fynd i’r afael yn y mater, h.y. newid y Rhybudd Dosbarth Defnydd. Mae rhai awdurdodau yn lobio rŵan oherwydd y cynnydd mewn Airbnb. Fe wnaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Benfro ysgrifennu at y Gweinidog tua 2016 i dynnu sylw at y mater.

·          Nodi’r sylwadau. Bydd y newid arfaethedig i’r CCA yn egluro pa fath o dystiolaeth bydd rhaid cynnig i gyfiawnhau trosi gwesty i ddefnydd arall.

 

Penderfyniad

Derbyn yr argymhelliad i gefnogi’r argymhellion ar gyfer y sylwadau a dderbyniwyd ar yr ymgynghoriad drafft ac i awdurdodi’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach mewn perthynas â’r ddau newid arwyddocaol.

Dogfennau ategol: