I ystyried adroddiad yr Harbwrfeistr
Cofnod:
(a) Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar
faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2018 a Hydref 2018. Yn dilyn Haf arbennig
gyda chynnydd sylweddol mewn niferoedd yn ymweld a’r ardal, adroddwyd nad oedd yr adnoddau’r
Gwasanaeth yn ddigonol i ymateb i’r holl
faterion ac amlygwyd
hyn fel risg uchel. Ategwyd bod un ddamwain angheuol wedi digwydd a bod ymateb i’r crwner wedi ei
weithredu. Nodwyd hefyd bod y staff yn gorfod delio gyda sefyllfaoedd anodd iawn ac mewn ymateb i
hyn amlygwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu
gyda Gwylwyr y Glannau i drafod y sefyllfa ymhellach. Adroddwyd bod y Gwasanaeth dan bwysau.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer yr angorfeydd yn lleihau, adroddwyd bod hyn
yn batrwm sydd i’w weld mewn harbyrau naturiol. Ategwyd bod y diwydiant ei hun yn dioddef, ond er y
lleihad nid oedd yn cael effaith ar y budd economaidd wrth edrych ar y sefyllfa yn ei
gyfanrwydd e.e., gwelwyd cynnydd positif mewn niferodd cychod pŵer. Nododd yr Harbwr Feistr mai newid
mewn diwylliant yw un rheswm dros
leihad yn y nifer o gychod hwylio gyda’r angen am bŵer a chyflymdra yn cynyddu. Ategwyd
bod cwsmeriaid angen ‘prynu adnodd’, megis angorfeydd, fel eitem ac mai
proses hirwyntog yw’r broses sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
I
gyfarch hyn, awgrymwyd gwasanaeth hwyluso taliadau a gwnaed cais am adroddiad
i’r cyfarfod nesaf yn rhestru’r opsiynau posib.
Ategodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod adolygiad yn cael ei wneud gan
y Gwasanaeth yn holi pam bod perchnogion angorfeydd wedi ymadael ac y byddai
adroddiad ar y canfyddiadau yn cael ei gyflwyno (i bob Pwyllgor Harbwr ) ym mis Mawrth 2019.
Yng
nghyd-destun, gosod angorfeydd, amlygwyd bod Cyngor Tref Abermaw wedi ystyried
cyllido costau angorfeydd a bod bwriad ganddynt i godi arian ar gyfer pontwns. Amlygwyd yr angen i gadarnhau trefniadau
perchnogaeth ac awgrymwyd y
dylai’r Cynghorydd Tref gyfarfod gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr
i drafod ymhellach.
O ran carthu, byddai angen trwydded i weithredu. Gyda chyllidebau'r Cyngor yn dynn ac yn
wynebu toriadau pellach ni fyddai modd i’r Cyngor
ariannu carthu’r Harbwr. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Tref ymgynghori
gyda Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i gydsynio i ysgrifennu llythyr at CNC i
gael gweithredu. Awgrymwyd bod y gymuned yn barod i godi’r arian.
Canmolwyd
cymuned Abermaw am eu parodrwydd i gydweithio a cheisio’r gorau i’r dref
yn wyneb toriadau i gyllidebau Cyngor Gwynedd. Dylid eu cymeradwyo a’u llongyfarch
am eu gwaith da.
Adroddwyd bod archwilwyr yr
Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau i ailymweld a’r gwasanaeth fis Hydref eleni fel
dilyniant i’r adolygiad a gynhaliwyd 2017. Oherwydd amgylchiadau annisgwyl nodwyd
y byddai rhaid gohirio’r ymweliad tan fis Mawrth 2019. Bydd gwahoddiad
i holl Aelodau’r Pwyllgorau Ymgynghorol fynychu cyfarfod ym Mhorthmadog.
Tynnwyd sylw'r Aelodau at fwriad
y Gwasanaeth i gyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser i weithio yn
Harbyrau Abermaw, Aberdyfi a Porthmadog. Mewn ymateb y dylai’r
gwasanaeth ystyried yn ofalus lle byddai’r swyddi yn cael eu hysbysebu a hefyd awgrym i geisio prentisiaethau. Gwnaed cais
i’r Gwasanaeth rannu’r hysbyseb
gyda’r Cyngor Tref.
(b) Adroddiad
yr Harbwr Feistr
Cyflwynwyd adroddiad
gan yr Harbwr Feistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol
a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at yr angen i wneud mwy o waith ar y materion
canlynol:
·
arwyddion diogelwch traeth Abermaw wedi bod yn
llwyddiannus er bod angen mwy o arwyddion tebyg yn yr Harbwr oherwydd cynnydd
yn y nifer o bobl sydd yn cerdded drwy’r Harbwr.
·
Bod angen clirio ardal lloc y pysgotwyr gan ail leinio'r
ardal. Awgrym i greu cytundeb newydd gydag amod i’w gadw’n lan.
·
Y gellid defnyddio tir Ffordd y Compownd ar gyfer parcio.
Angen eglurder pwy yw perchennog y tir a gwirio trefniadau gorfodaeth.
Gwnaed cais gan y Pwyllgor i roi gorchymyn traffig ar y
tir gan fod 16 lle ar gael. Gellid cynnig man parcio gyda Lloc y Pysgotwyr am
gost ychwanegol.
·
Rheolaeth pontŵn yr harbwr - Aelod Grŵp
Mynediad Traphont Abermaw i drefnu cyfarfod gyda’r Harbwr Feistr i drafod
ymhellach
·
Cadw cychod dros y Gaeaf - angen annog defnyddwyr i aros.
Cais i’r Harbwr Feistr ganfod syniadau gan ddefnyddwyr yr Harbwr am gymhelliant
posib.
·
Digwyddiadau - angen sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu
cofnodi gan Reolwr Digwyddiadau Cyngor Gwynedd fel llwyddiannau.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: