Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
6.03.18 fel rhai cywir
Cofnod:
Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2018, fel
rhai cywir.
Dymunwyd ymddeoliad hapus i Glynda O’Brien (Swyddog Cefnogi Aelodau) am
ei chefnogaeth a’i gwasanaeth i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd.
Materion
yn codi o’r cofnodion:
(a)
Cynnal a Chadw
Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig i holi’r Uwch Swyddog Harbyrau a Harbwr Feistr Abermaw am raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y gaeaf.
(b)
Digwyddiadau
Derbyn bod lle i wella’r broses
o atgoffa trefnwyr i gysylltu gyda’r Gwasanaeth Morwrol
yn gyntaf i gael caniatâd i gynnal gweithgareddau a chryfhau trefniadau o ddydd
i ddydd.
Adroddwyd
bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â digwyddiad Motorcross yn gwrthdaro
gyda gwyliau Hanner Tymor Gwynedd a’r diffyg cyfathrebu rhwng y trefnwyr
a Chyngor Tref Abermaw. Nodwyd bod Mr Arnold (trefnwr y Motorcross) angen
cadarnhad o ddyddiadau 2019 cyn mis
Rhagfyr er mwyn trefnu’r digwyddiad. Ategwyd nad oedd modd newid y dyddiad ar gyfer 2018
gan fod rhaglen digwyddiadau
Motorcross ar draws y wlad eisoes wedi ei chyhoeddi. Gwnaed awgrym y dylid osgoi penwythnosau hanner tymor mis Hydref
(Gwynedd) a hefyd rhoi
ystyriaeth i ddyddiad Sul y Cofio.
Awgrymwyd 9/10 neu 16/17 o Dachwedd fel nad oedd
gwrthdaro gyda hanner tymor. Nodwyd bod y digwyddiad yn un pwysig i’r
ardal ac nad oedd eisiau ei golli.
Pwysleisiwyd yr angen i gadarnhau’r dyddiadau gyda Mr Arnold cyn mis Rhagfyr
2018
(c) Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog
Amlygwyd, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i gyfleu i’r Aelod Cabinet
perthnasol i waredu'r ffonau gwasanaethau brys
oherwydd diffyg defnydd, nad oedd hyn wedi digwydd. Awgrymwyd, cyn gwaredu, y
dylid ymgynghori ymhellach gyda Gwylwyr y Glannau a Mudiad y Bad Achub o
ddefnydd y ffonau.
(ch) Gweithgareddau FLAG (Fisheries Local Action
Group)
Adroddwyd bod y gweithgareddau
wedi bod yn llwyddiannus a bod bwriad cynyddu'r fenter i’r dyfodol.
Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau.
Nododd y Cynghorydd Tref nad oedd
wedi gallu mynychu cyfarfodydd Grwp FLAG yn yr ardal ac awgrymodd y dylid cynnig yr
aelodaeth i rywun arall. Cadarnhawyd mai cynrychiolaeth gan unrhyw un o aelodau Cyngor Tref Abermaw oedd dymuniad y Grwp FLAG
(d) Clirio
Tywod
Mewn datganiad nad oedd modd
gweld y môr o Abermaw, nodwyd yn dilyn cyfarfodydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd nad
oedd modd symud tywod. Er hynny, amlygwyd bod datganiadau positif wedi
eu cynnwys mewn cylchgrawn yn mynegi bod y traeth yn adnodd bendigedig, y
morglawdd yn boblogaidd a’r sianel yn
glir.
(dd) Carthu
Rhagwelir mai Doc Fictoria a
Harbwr Pwllheli yn unig fydd yn cael ei
carthu
(e) Cyngor Cymuned Arthog - rheoli mewn
llifiad traffig
Gyda mewnlifiad sylweddol o
draffig twristiaeth i’r ardal adroddwyd er bod cyfarfod wedi ei gynnal
gyda’r Adran Trafnidiaeth ymddengys nad oedd pethau yn symud ymlaen i ymateb i’r cynnydd. Amlygwyd bod
Cyngor Cymuned Arthog yn cydweithio gyda
Grŵp yn Y Friog i geisio adfer rhai o'r materion oedd yn cynnwys camau gweithredu i atal parcio dros nos. Cadarnhawyd bod yr
Aelod Cabinet perthnasol yn derbyn
copi o raglen y Pwyllgor ac felly yn ymwybodol o’r materion.
Mewn ymateb i sylw bod Cyngor
Tref Y Bala wedi cyflogi swyddog gorfodaeth eu hunain, awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Louise
Hughes gysylltu gyda’r Cynghorydd Tref am fanylion perthnasol deddf
gorfodaeth, fel y gellid codi’r mater yng nghyfarfod nesaf Cyngor Cymuned
Arthog
(f) Difrod
i reiliau tu allan i Adeilad Dora
Adroddwyd mai Cyngor Gwynedd oedd
wedi ysgwyddo’r baich am dalu am y difrod. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r
perchennog gyda rhybudd, petai difrod pellach y byddai’r Cyngor yn cymryd
camau i adennill costau.
Dogfennau ategol: