I ystyried
cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y drosedd a hefyd ei amgylchiadau
personol. Nododd Mr A bod ei ymddygiad
allan o gymeriad ac nad oedd
yn berson treisgar. Roedd yn edifar am
yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi cael
ei gythruddo ers peth amser gan y dioddefwr. Ategodd bod ganddo gwmni
tacsis o safon, ei fod yn
cyflogi gyrwyr lleol a’i flaenoriaeth
yw cadw’r busnes.
Dangoswyd y fideo
i’r Is Bwyllgor a’r Cyfreithiwr gyda’r ymgeisydd yn egluro'r digwyddiad.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod
y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• sylwadau
llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn
ystod y gwrandawiad
• llythyrau geirda a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr
ymgeisydd
• adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth
benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2018) ar gyhuddiad o
ymosod ar berson yn groes i adran 39 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 2.3 o’r Polisi lle cyfeirir at rybuddion ffurfiol.
Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch
troseddau o drais a pharagraff 6.2 yn nodi y bydd cais
lle mae ymgeisydd
wedi ei gael
yn euog o drosedd yn ymwneud
â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd
nes ei fod
yn rhydd rhag collfarn o’r
fath am 3 blynedd o leiaf.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd
cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w
ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3
blynedd cyn dyddiad y cais.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y rhybudd o 2018 yn ymwneud a throsedd o
drais. Nodwyd bod y rhybudd wedi digwydd llai na 6 mis yn ôl ac felly o fewn 3
blynedd. Yn unol â pharagraff 6.5 o’r Polisi, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu
roedd yr ystyriaethau cychwynnol o blaid gwrthod y cais. Er hynny, roedd yr Is
Bwyllgor hefyd yn ymwybodol mai canllaw yw’r Polisi a bod modd gwyro oddi wrtho
os oes cyfiawnhad dros wneud hynny.
Penderfynodd yr Is Bwyllgor bod
amgylchiadau’r cais yn cyfiawnhau gwyro am y rhesymau canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd wedi dangos edifeirwch dros yr
ymosodiad
·
Roedd y digwyddiad allan o gymeriad ac amlygwyd hyn
yn y nifer o dystlythyrau a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd
·
Nad oedd cofnod
o unrhyw gollfarn na rhybudd yn erbyn
yr ymgeisydd fel y nodwyd ar
y cofnod DBS
·
Bod yr ymgeisydd
eisoes dan rybudd gan yr Heddlu ac
felly'n yn ymwybodol i beidio â thorri'r gyfraith eto
·
Nad oedd yr
ymosodiad yn un o drais yn erbyn
y cyhoedd ond yn hytrach yn
erbyn cystadleuwr arall yn y diwydiant tacsi
·
Nad oedd dioddefwr
yr ymosodiad yn ddiniwed. Cafodd
yr ymosodiad ei bryfocio mewn
lleoliad o dan oruchwyliaeth
TCC
·
Roedd yr ymosodiad wedi codi yng nghyd-destun
ymgyrch hir o aflonyddu a phryfocio gan ddioddefwr yr ymosodiad
·
Cafwyd esboniad
gonest pam nad oedd yr
ymgeisydd heb apelio penderfyniad (11.05.18) i ddiddymu
ei drwydded - roedd yn mynd
drwy gyfnod anodd, personol oedd yn ymwneud
ac iechyd ei fab.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Drwyddedu
yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded