Creu maes parcio newydd, mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig
AELODAU LLEOL:
Cynghorwyr Berwyn Parry Jones a Jason
Wayne Parry
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Creu maes parcio newydd,
mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig
Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
creu cyfleuster parcio a rhannu ar gyfer gwaith adeiladu gorsaf bŵer
Wylfa. Nodwyd y byddai’r cyfleuster ar gyfer oddeutu 153 o gerbydau sydd yn
cynnwys parcio ar gyfer yr anabl, cerbydau trydanol a beiciau modur.
Cyfeiriwyd at y polisïau
perthnasol oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus wedi dod i ben a bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn ar sail
byddai’r ffordd osgoi arfaethedig ar faes parcio yn cael effaith andwyol ar
fusnes llety gwyliau Fferm Bodrual.
O ran egwyddor y
datblygiad a’r safle wedi ei leoli cyfochrog ond y tu allan
i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yn y CDLL mae Polisi PCYFF1 yn
berthnasol yma ynghyd a pholisi PS12 a PS9. Wedi ystyried y polisïau hyn,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor gan fod y Cynllun Datblygu
Lleol yn caniatáu’r fath datblygiad ar y llecyn tir yma ynghyd a’r ffaith ei
fod wedi ei leoli gyferbyn a’r stad ddiwydiannol yn hanfodol gan ystyried ei
agosatrwydd at hygyrchedd i’r rhwydwaith ffyrdd lleol a fydd yn gwasanaethu
Wylfa.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol er bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ystyriwyd y
byddai ad-drawiad y ffordd osgoi yn llawer mwy ac ehangach nag ad-drawiad y
maes parcio ar y tirlun lleol gan ystyried ei ddyluniad, cynllun tirlunio a
graddfa’r bwriad o gymharu â dyluniad a graddfa’r ffordd osgoi.
Yng nghyd-destun
mwynderau preswyl a chyffredinol nodwyd eisoes y bod gwrthwynebiad gan ddeiliad
Fferm Bodrual sydd wedi ei leoli oddeutu 100m o safle
cais. O fewn cyd-destun y cais, ystyriwyd na fydd creu maes parcio gyfochrog a
stad ddiwydiannol ac i’r gorllewin o’r ffordd osgoi newydd yn mynd i greu
cynnydd sylweddol mewn aflonyddwch sŵn nac ychwaith ar sail colli
preifatrwydd gan ystyried y pellter sydd rhwng safle’r cais a’r annedd/llety
gwyliau ynghyd a’r ffaith bod y ffordd osgoi wedi ei leoli rhwng y ddau safle.
(b)
Wrth ystyried materion
priffyrdd amlygwyd yr angen i ddiweddaru’r ystyriaeth yma gan fod Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig
i gynnwys amod priodol.
Ategwyd bod yr
argymhelliad wedi ei addasu i ddirprwyo’r hawl i Uwch Swyddog Cynllunio
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Cyfoeth
Naturiol Cymru ac i’r amodau ychwanegol.
Mewn ymateb i gwestiwn
petai Wylfa ddim yn digwydd, amlygodd y swyddog y byddai’r maes parcio ar gael
i’r cyhoedd.
(c)
Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pryder am ddiogelwch cadw ceir
yn y maes parcio am gyfnod hir
·
Bod angen rheolaeth a
goruchwyliaeth ar y safle i atal teithwyr
·
Croesawu adnodd Parcio a
Rhannu
·
Bod angen lleol ar y
ddarpariaeth
·
Croesawu darpariaeth cerbyd
trydan
·
A oes cyfiawnhad dros ddatblygu
tu allan i’r ffin?
·
Nad oes unrhyw bendantrwydd
bod Wylfa yn digwydd
·
Pwy fydd yn ariannu'r fenter
yn wynebu toriadau anodd gan yr Awdurdod
(d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynllun diogelwch y safle
gan ystyried ei fod wedi ei leoli mewn ardal agored, ac os oedd Teledu Cylch
Cyfyng yn rhan o’r cynllun hwnnw, nododd y swyddogion bod modd ychwanegu nodyn
i’r datblygwr weithredu arno
Mewn ymateb i gynlluniau rheolaeth, tybiwyd bod yr Uned
Drafnidiaeth wedi ystyried hyn wrth gyflwyno’r cais.
Mewn ymateb i sylw bod y datblygiad tu allan i’r ffin
datblygu, nodwyd bod cyfiawnhad dros hyn oherwydd bod yr egwyddor a’r lleoliad
yn dderbyniol.
Mewn ymateb i sylw am ddatblygiad Wylfa, nodwyd bod Wylfa
wedi cyflymu'r broses ac er bod ansicrwydd am effaith Wylfa ar Wynedd rhagwelir
bod y ddarpariaeth yma yn diwallu’r angen yn lleol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chost ac ariannu’r fenter,
amlygwyd nad oedd y rhain yn faterol i’r cais
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i
Uwch Swyddog Cynllunio ganiatau’r cais yn
ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Amodau:
1.
5 mlynedd.
2.
Cydymffurfio gyda’r
cynlluniau.
3.
Amod Dwr Cymru parthed gwaredu dŵr hwyneb o’r safle.
4.
Gweithredu yn unol ag argymhellion yr Asesiad
Effeithiau Ecolegol.
5.
Rhaid gweithredu’r tirlunio yn y tymor plannu nesaf
ar ôl cwblhau’r datblygiad ac mae’n
rhaid ei gynnal wedi hynny.
Nodyn i’r ymgeisydd i sicrhau diogelwch y safle
Dogfennau ategol: