Agenda item

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ, gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol. Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll  ar lethr mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du.

 

Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr ychwanegiad.

 

      Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd na thirlun yr AHNE.      

 

      Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych, colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn bresennol. 

 

      Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu eu heiddo.

 

      Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau canlynol:

·      Yn hanesyddol bod pobl leol ac ymwelwyr wedi bod yn byw law yn llaw ar yr ystâd ond bellach bod y balans wedi newid yn sylweddol a hynny oherwydd prisiau’r farchnad. Ymddengys bod llawer o dai haf yn yr ystâd bellach a bod amryw un yn gwneud addasiadau i ychwanegu gwerth ac elw.

·      Pryderon parcio ar yr ystâd oherwydd nifer ymwelwyr. Rhaid ystyried polisi TRA 2 

·      Nifer yr ymwelwyr i bob annedd yn cynnal partïon yn y tai ac wedi prynu bwyd a diod ymlaen llaw - nid yw hyn o fudd i’r economi leol

·      Bod cymdogion yn colli goleuni naturiol

·      Nad yw PS19 wedi ei ystyried yn llawn

·      Nad oedd unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i PS1 ar effaith y caiff ar y Gymraeg

·      Eisoes yn derbyn cwynion o ddiffyg ailgylchu yn yr ystâd

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle

Dogfennau ategol: