(adroddiad ar lafar)
Cofnod:
Cyflwynwyd
ystadegau i’r Cyd-bwyllgor yn ystod y cyfarfod a oedd yn amlinellu
canlyniadau, prif ddeilliannau a materion i’w hystyried.
Tywysodd
y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y
Cyd-bwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi fel a ganlyn:
(a) Cyfnod Sylfaen
·
mai perfformiad GwE yw’r isaf o’r holl
gonsortia rhanbarthol. Fodd bynnag, roedd arweiniad cenedlaethol
wedi tynnu sylw at yr angen am lwyfandir mewn
perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a
gwirio cadarn.
·
Bod
asesiadau athrawon yn parhau i fod yn bryder.
·
Bod
cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD mewn 4 awdurdod o 2014 ac yn sylweddol
felly yng Ngwynedd a Môn
·
Bod
cynnydd mewn perfformiad o 2014 ar draws yr holl
ddangosyddion ar lefel
uwch. Fodd bynnag, mae cynnydd rhanbarthol yn y
Gymraeg yn llai na chynnydd cenedlaethol.
·
Bod
rhai ysgolion wedi perfformio islaw'r canolrif y meincnodau
PYD mewn
dangosyddion allweddol dros gyfnod treigl o dair
blynedd a bod angen herio'r
ysgolion hyn yn gadarn.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y materion uchod yn ddisgwyliedig.
(b) Cyfnod Allweddol 2
·
Bod perfformiad GwE wedi cynyddu, fodd bynnag
fel yn y Cyfnod Sylfaen, bod arweiniad cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr
angen am lwyfandir mewn perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a gwirio cadarn.
·
Bod asesiadau athrawon yn parhau i fod
yn bryder
·
bod cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD, fodd bynnag, roedd ychydig
o ostyngiad mewn perfformiad ar gyfer Gwynedd a Môn
·
bod cynnydd mewn perfformiad
o 2014 ar draws yr holl ddangosyddion ar lefel disgwyliedig
a’r cynnydd yn fwy na’r
cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer pob
pwnc craidd
·
bod yr uchod yn unol
â’r disgwyl ond eto mae
rhai ysgolion yn perfformio o dan y perfformiad cenedlaethol ac angen sylw penodol fel
rhan o’r broses herio
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
gofynnwyd pa mor gadarn yw
Llywodraeth Cymru ynglŷn ag anghysondebau asesiadau athrawon ac a yw’r Undebau Athrawon
yn herio’r Llywodraeth ynghylch hyn?
Mewn ymateb, esboniodd
Mr Geraint Rees, Llywodraeth Cymru,
y gosodwyd cytundeb gyda’r 4 rhanbarth i weithredu ar y cyd gyda’r broses yn ei le am y tro
cyntaf eleni. Nodwyd bod amrywiaeth rhwng y 4 rhanbarth yn sylweddol
yng Nghyfnod Allweddol 2. O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y bwlch yn lleihau. Nodwyd ymhellach bod y broses categoreiddio
angen gweithrediad cadarn a’r cam nesaf fyddai tynhau
cymedroli asesiadau athrawon. Rhaid i’r broses ddigwydd ac o ganlyniad fe fydd rhaid
cael gwared â’r diffyg hyder.
(ii)
A yw’r Undebau yn gytûn
ac a oes rhai Siroedd yn wynebu
problemau, os oes, a fyddai’n syniad i gael trafodaeth
gyda’r Gweinidog Addysg?
Mewn ymateb, nodwyd
bod cyfarfod gyda’r Undebau Llafur yn fuan er
mwyn derbyn mewnbwn o sut mae
pethau’n mynd. Hefyd, byddai cyfle i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor godi’r mater gyda’r Gweinidog Addysg mewn cyfarfod sydd wedi
ei drefnu ar gyfer 16 Hydref.
(iii)
Bod y diffyg hyder yn creu ansicrwydd i ddysgwyr ac athrawon a
rhaid cynnal trafodaeth ynglŷn â pham bod angen cael cysondeb yn y
cymedroli.
Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai’r adroddiad
terfynol ar gael mis Tachwedd ar y broses wirio lle ceir ffigyrau cymharol gyda
Siroedd eraill. Er y byddai’r sampl yn
fychan ac o ganlyniad ddim yn rhoi'r darlun cyflawn. Byddai categoreiddio ysgolion cynradd yn
broses cenedlaethol ond roedd yn her eleni gan fod Cam 1 o’r categoreiddio yn
dangos gwahaniaethau.
(iv)
Byddir wedi gwerthfawrogi mwy o amser i ddadansoddi’r
ystadegau oedd gerbron. Tra’n derbyn bod pryder ynglŷn ag
asesiadau athrawon roedd cwestiwn ynglŷn ag awdurdodau yn gosod targedau
oherwydd gall targedau ysgolion fod yn wahanol mewn Siroedd eraill.
Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE bod y broses yn mynd i gael effaith ac fel rhanbarth bod sustem
gosod targedau yn weithredol.
Nododd
Mr Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol
– Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) bod dadansoddiad mynegol cynnar o berfformiad CA4 yn ddefnyddiol ond y byddai modd dadansoddi yn ddyfnach erbyn
cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.
Ychwanegwyd
bod rhaid anfon neges glir i Lywodraeth
Cymru am yr angen i dderbyn hyfforddiant fel bo modd canolbwyntio
ar gysondeb oherwydd ei fod
yn amlwg bod llawer o le i ddysgu.
(v)
Cwestiynwyd a oes hyder yn
y broses tracio gan fod hyn yn
bwysig er mwyn adnabod cryfderau
a gwendidau disgyblion. Dylid gallu annog plant i gyrraedd eu potential yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn cyflawni
cystal.
(c) Cyfnod Allweddol 3
·
Bod perfformiad GwE yr uchaf o’r oll
gonsortia.
·
Fodd bynnag, yng nghyd-destun
perfformiad CA4, bod hyn yn codi pryder
ynglyn a dibynadwyedd asesiadau athrawon
(ch) Cyfnod Allweddol 4
·
Bod ychydig welliant
o +0.2% yn y dangosydd allweddol o’i gymharu â 2014. Fodd
bynnag, roedd gwelliant sylweddol llai na'r gwelliant
cenedlaethol o rhwng +2>3% ac nad yw’r
cynnydd yn dderbyniol.
·
ar
gyfartaledd, bod gwelliant o +3.5% mewn ysgolion categori ambr / coch mewn cymhariaeth â 2014. Mae
ysgolion unigol wedi gweld gwelliannau arwyddocaol. Mae
hyn yn adlewyrchu effeithiolrwydd y rhaglenni ymyrraeth yn yr
ysgolion hynny. Fodd bynnag, nid yw canran
fach o'r ysgolion hyn yn gwneud y perfformiad
a ddisgwylir.
·
perfformiad siomedig i ysgolion categori gwyrdd a melyn gyda
thanberfformiad sylweddol mewn ysgolion unigol a oedd yn hanesyddol yn
perfformio’n dda
·
mwyafrif
o ysgolion Gogledd Cymru eleni wedi gweld osgiliad yn eu perfformiad gyda
gwahaniaethau sylweddol mewn rhai ysgolion a bod gormod o ysgolion lle mae
prosesau tracio mewnol ddim digon cadarn
·
perfformiad mewn
Saesneg a Mathemateg yn parhau i achosi pryder sylweddol mewn ysgolion ar
draws y rhanbarth
·
pryder
ynglyn a pherfformiad TGAU Gwyddoniaeth i’r dyfodol
oherwydd diflaniad y BTEC o ran mesur perfformiad yn 2017
Nododd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE nad oedd cynnydd
o ganlyniadau 2014 ac nad oedd y rhanbarth yn dal i fyny gyda chyflymder y
cynnydd yn genedlaethol. Tra’n cydnabod
bod y cohort yn amrywio mewn ysgolion unigol ac ni
ellir disgwyl cynnydd bob blwyddyn rhaid ystyried camaugweithredol
addas.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol:
(i)
diolchwyd am y data a chytunwyd bod
anghysondebau asesiadau athrawon angen sylw ond nid oedd sicrwydd o’r hyn a
fwriedir o safbwynt y broses cymedroli
(ii)
awgrymwyd a ddylid ail-addasu’r cynllun
busnes ac a fyddai modd derbyn gwybodaeth pam bod cynnydd yn digwydd mewn rhai
rhanbarthau a beth sydd yn digwydd mewn ysgolion lleol
(iii)
a yw’r model ac adnoddau presennol yn addas
a phriodol
(iv)
rhaid sicrhau gweithrediad buan er mwyn
mynd i’r afael a pherfformiad CA4 mewn Mathemateg a Saesneg
(v)
Mae angen am ddadansoddiad llawer mwy cadarn ar y ffactorau yn deillio o berfformiad CA4. O'r deialog gydag ysgolion, mae'n rhaid rhoi'r gorau i fwgwth ysgolion, a bod eglurder ar yr
hyn sy'n
digwydd yng
Ngogledd Cymru. Byddai cynnal deialog
gyda Phenaethiaid yn ddefnyddiol fel y gallent ymhelaethu ar y rhwystrau.
(vi)
o ystyried y negeseuon ar dudalennau 16/17 o’r data,
pryderwyd a oes digon o gapasiti i lenwi'r bylchau yn
enwedig pan gollir athrawon da i swyddi canolog ac yn sgil hyn diffyg recriwtio Penaethiaid / athrawon.
(vii)
nodwyd bod rhai ysgolion Her Cymru wedi
gwneud cynnydd aruthrol a rhai wedi dirywio
(viii)
Nad oedd categoreiddio ysgolion mewn
lliwiau o gymorth i ysgolion
(ix)
bod rhaid i’r safon addysg fod y gorau posibl i’r
disgyblion ac os yw ysgolion mewn trafferthion rhaid sicrhau cefnogaeth fuan
iddynt.
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nodwyd bod y broses
o ddadansoddiad yn mynd rhagddo yn
ogystal â’r trosolwg rhanbarthol ond cydnabuwyd bod angen dadansoddi fesul awdurdod ac yn hyn o beth
efallai y bydd y gefnogaeth yn amrywio
o awdurdod i’r llall. Fe fyddir yn cyflwyno
adroddiad pellach i’r Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi'r ystadegau a gyflwynwyd ynghyd a’r sylwadau
wnaed uchod.
(b) Cymeradwyo i dderbyn adroddiad pellach yng
nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor
ym mis Tachwedd.