Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad
yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a
buddion ariannol i’w ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno
i’r Cyngor am gymeradwyaeth:
Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen
Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor ei mabwysiadu fel
1. Sail
strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd
2. Cais
rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i
ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth.
Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r
Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion
gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a chynrychioli ar
Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a
Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb
Penawdau’r Telerau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNWYD
Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad yn ymrwymo’r Cyngor i
fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a buddion ariannol i’w
ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor am
gymeradwyaeth:
Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor
ei mabwysiadu fel
1. Sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar
gyfer twf economaidd
2. Cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r
prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam
Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth.
Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r
Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw
partner statudol arall a chynrychioli ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig
yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau’r Telerau.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Ddogfen Gynnig yn ffrwyth llafur misoedd o waith rhanbarthol dros y gogledd.
Ychwanegwyd fod y Cynllun yn brosiect partneriaeth sydd yn cynnwys 6 Awdurdod
Lleol, 2 Brifysgol a 2 o Golegau Addysg Uwch. Ategwyd fod rôl y sector breifat
yn ganolog i’r Cynllun gyda sawl sesiwn wedi ei gynnal i drafod y Cynllun gyda
hwy.
Mynegwyd yn hanesyddol fod 15 i 20 Cynllun
Economaidd ar draws y rhanbarth, ond o ganlyniad i’r Cynllun TWF dim ond un
Cynllun fydd. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth a’r uchelgais y cynllun yn glir
sef i ledaenu prosiectau a chynlluniau TWF ar draws rhanbarth y Gogledd.
Ychwanegwyd fod y Ddogfen sail i annog adnoddau pellach i fuddsoddi er mwyn
datblygu economi’r Gogledd am y blynyddoedd i ddod.
Nodwyd fod 16 prosiect yn sail i’r cynllun,
a drwy hyn mae’n sicrhau y bydd buddsoddiad yn cael ei rannu ar draws y
gogledd. Manylwyd ar y prosiectau gan nodi y bydd rhai ar gyfer safleoedd
penodol a rhai ar gyfer y rhanbarth gyfan.
Esboniwyd fod y Ddogfen wedi bod yng
nghyfarfod Craffu Addysg ac Economi a bod y craffwyr wedi ei gymeradwyo ar ôl
trafodaeth adeiladol a chwestiynau heriol. Ychwanegwyd fod sesiynau wedi eu
cynnal ar sector breifat, sydd wedi dangos brwdfrydedd i’r cynllun. Mynegwyd y bydd y Ddogfen Gynnig yn
mynd o flaen y Cyngor Llawn cyn diwedd y mis, ond pwysleisiwyd mai cefnogaeth
i’r ddogfen y bydd angen gan y Cyngor ac ni fydd y penderfyniad cyfredol yn
golygu ymrwymiad ariannol, a daw argymhelliad dilynol gerbron y Cyngor eto,
gyda gwybodaeth mwy pendant am y gost.
Drwy gefnogi’r Ddogfen Gynnig bydd modd sbarduno’r drafodaeth am y Cynllun gyda
Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, ac y bydd un llais cryf yn trafod
yr economi dros ranbarth y Gogledd.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
cefnogaeth i’r cynllun a bod angen denu arian a swyddi i Wynedd, ond codwyd y
cwestiwn o sut y bydd modd denu adnoddau yn benodol i Dde'r sir. Ategwyd mai
amcan y Cynllun yw bod prosiectau yn cael eu lledaenu ar draws y Gogledd.
Ychwanegwyd fod rhai prosiectau penodol i safleoedd ond mynegwyd fod prosiectau
megis Rhaglen Trafnidiaeth, Rhaglen Llwybrau i Sgiliau a Chyflogaeth a Rhaglen
Cysylltedd Digidol yn cael eu lledaenu i bob rhan o’r sir. Bydd buddsoddiad
penodol yn cael ei wneud mewn ardaloedd gwahanol ar draws y sir gan ychwanegu y
bydd sylw penodol yn cael ei roi i Feirionnydd.
-
Trafodwyd
pwysigrwydd i beidio ymrwymo arian ar hyn o bryd. Cadarnhawyd na fyddai arian
yn cael ei ymrwymo gan y penderfyniad cyfredol, a bod gwaith ar broffilio
gwariant, ffynonellau incwm, a threfniadau cyd-ariannu posib yn parhau, cyn y
byddwn yn dod ag argymhelliad dilynol gyda gwybodaeth mwy pendant am y gost
gerbron. Ond nodwyd fod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r ddwy
Lywodraeth, gyda golwg o gael y cynllun mor agos at fod yn hunan-gynhaliol a
sy’n bosibl. Ychwanegwyd fod cyfle i dderbyn incwm i mewn o ganlyniad i’r
Cynllun.
-
Nodwyd
fod y lefel yma o fuddsoddiad yn newyddion da, a bod y gwaith da yn cael ei
wneud gan y Bwrdd Uchelgais ar draws y rhanbarth yn ddaearyddol ac ar draws
sectorau.
-
Adroddwyd
fod y pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi ystyried yr adroddiad ac wedi
amlygu materion oedd yn adlewyrchu risgiau oedd yn destun sylw. Adroddwyd eu
bod yn gefnogol i symud ymlaen a’r cynnig.
Awdur:Iwan Trefor Jones
Dogfennau ategol: