Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Cofnod:
Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau
yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol:
·
Mewn ymateb i argymhellion Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, yn eu hadroddiad
ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Côd Diogelwch Morol,
byddai Cabinet y Cyngor yn cael eu penodi’n
‘Ddeilydd Dyletswydd’ a Chapten M. Forbes (Harbwr Feistr Conwy) yn ‘Berson Dynodedig’.
·
Bod archwilwyr
Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i fod
i ail-ymweld â’r gwasanaeth a rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch y Côd Diogelwch Morol.
Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, gohiriwyd yr ymweliad tan fis Mawrth 2019 i gyd-fynd â chyfarfod
y Pwyllgor hwn.
·
Daeth cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben 30 Medi 2018. I sicrhau cymorth gyda gwaith
yr harbwr, ymestynnwyd y cyfnod cyflogaeth ar drefniant
tri diwrnod yr wythnos, mis ar
y tro.
·
Yn ddibynnol ar gyfyngiadau ariannol a chyllidebol, bod y gwasanaeth yn chwilio am bosibilrwydd
cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser
i weithio yn harbyrau Porthmadog,
Aberdyfi ac Abermaw. Byddai swydd cymhorthydd
harbwr ym Mhorthmadog fel arall yn dychwelyd
i weithio'n llawn amser ar
1 Ebrill 2019.
·
Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r
harbwr a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd y chwarter.
·
O safbwynt
ffioedd a thaliadau arfaethedig Harbwr Porthmadog yn ogystal
â ffioedd lansio Badau Dŵr Personol yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd
yn unol â'r
gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd
i’w defnyddio.
Cyflwynodd Harbwr
Feistr Porthmadog adroddiad a oedd
yn rhoi crynodeb
o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod
y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis
Medi 2018, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod.
Diolchodd i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub a chriw
Bad Achub Cricieth am eu cymorth wrth
ymdrin â suddiad y cwch catamaran ‘Jessica’s Day’ yn
yr Harbwr gyda’r nos ar
23 Gorffennaf.
Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod Bad Achub Cricieth wedi ymateb
i 3 galwad yng nghyswllt unigolion
mewn trafferth ar Fanc y Gogledd
ar draeth Y Graig Ddu, gan
achub bywyd 10 unigolyn. Pwysleisiodd pwysigrwydd bod yr arwyddion diogelwch newydd yn cael
eu gosod mor fuan
â phosib. Cyfeiriodd at y bwriad i dynnu
rhai o’r arwyddion yn ystod
misoedd y gaeaf er lleihau difrod
gan y tywydd garw, gan nodi
ei bryder. Nododd nad
oedd y risg yn lleihau yn
ystod y gaeaf gyda digwyddiadau yn bosib yn
ystod y cyfnod.
Nododd aelod y dylid gweithredu yn unol â chyfarwyddyd
Sefydliad y Bad Achub. Mewn ymateb, nododd
Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r arwyddion diogelwch yn cael eu
gosod yn unol â’r hyn
a gytunwyd mewn ymgynghoriad â Sefydliad y Bad Achub.
Nododd aelod bod y gwaith a wnaed fel rhan o’r
Cynllun Lliniaru Llifogydd ym Morth-y-gest
wedi bod yn destun trafod. Ymhelaethodd bod y wal a godwyd yn angenrheidiol
er mwyn gwarchod
tai rhag llifogydd
yn y dyfodol. Nododd bod pryder yn lleol o ran y meinciau coffa ac y byddai’r nifer yn cynyddu, ond
ei fod wedi
derbyn cadarnhad gan y gwasanaeth na fyddai
rhagor o feinciau gyda’r rhai mewn
cyflwr da yn cael eu hail-osod
mewn lleoliadau addas. Diolchodd am waith y gwasanaeth a gwaith swyddogion Ymgynghoriaeth Gwynedd o ran y Cynllun
Lliniaru Llifogydd a’u parodrwydd i drafod pryderon
lleol.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned y byddai’n trosglwyddo diolchiadau’r aelod i swyddogion
Ymgynghoriaeth Gwynedd.
Cyfeiriwyd at gais
gan Glwb Hwylio Porthmadog i gynrychiolydd o’r sefydliad gael ei gyfethol
ar y Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden nad oedd
cynrychiolwyr Clwb Hwylio Porthmadog wedi cysylltu gydag
ef er mwyn
iddo godi materion yng nghyfarfodydd
y Pwyllgor Ymgynghorol nac ychwaith wedi holi
am yr hyn a drafodir yn y cyfarfodydd.
Ychwanegodd bod gan unrhyw un berffaith
hawl i fynychu
cyfarfod y Pwyllgor gan fod y cyfarfodydd yn gyhoeddus.
Nododd aelod bod cyfle i unigolion
fynychu cyfarfodydd y
Pwyllgor i wrando ar y drafodaeth.
Cadarnhaodd Harbwr
Feistr Porthmadog bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi ymateb i
lythyr gan Gyngor Tref Porthmadog
yng nghyswllt meinciau heb gefn
yn nodi y byddai’r polion yn mynd yn
eu hôl. Nododd
y derbyniwyd cais gan unigolyn i
osod stondin symudol er mwyn
gwerthu te
a bwyd ar y glaswellt yn Mhencei.
Holwyd am farn yr aelodau ar
y cais.
Nododd aelod ei fod yn
gefnogol i’r cais ar gyfer
consesiwn o’r fath a hynny ar
yr un telerau
a’r consesiwn hufen iâ oedd
eisoes ar dir yr harbwr.
Eglurodd yr Uwch Reolwr Economi
a Chymuned er mwyn derbyn hawl
ar gyfer consesiwn o’r fath,
byddai’n rhaid mynd trwy broses cystadleuol. Nododd y gallai’r Pwyllgor, pe dymunent, nodi eu barn ar yr
egwyddor a fyddai’n cael ei fwydo
i mewn i’r
broses.
Nodwyd cefnogaeth y Pwyllgor
i’r cais mewn egwyddor a gofynnwyd i’r swyddogion
edrych i mewn i’r mater.
Derbyniwyd diweddariad
gan Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ar Gynllun Clwb
Hwylio Madog i gynyddu nifer y pontŵns yn yr harbwr. Nododd
yn dilyn cais y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn y cyfarfod
diwethaf i dderbyn mwy o wybodaeth,
darparwyd llythyr gan ‘Intermarine’. Ymhelaethodd ar gynnwys y llythyr a dangosodd gynllun o’r bwriad. Holwyd
am farn y Pwyllgor ar y bwriad.
Mewn ymateb i sylwadau gan
aelodau, nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden:
·
Byddai’r bwriad yn golygu 7 angorfa ychwanegol gydag angorfeydd rhydd yn cael eu
hail-leoli;
·
Byddai’r Cyngor yn derbyn arian Tollau’r Harbwr a chanran o ffioedd ymwelwyr a gesglir gan Glwb
Hwylio Madog;
·
Bod y sefyllfa yn yr
harbwr yn wahanol i sefyllfa
Harbwr Caergybi ac fe wneir gwaith
cynnal a chadw;
·
Pe derbynnir caniatâd gan y Cyngor yn fuan, bwriedir bod y gwaith ynghlwm â’r cynllun wedi
ei gwblhau erbyn dechrau’r tymor;
·
O ran pryderon pysgotwyr yng nghyswllt effaith
y bwriad ar eu symudiad allan
tuag at Gei’r Wyddfa, byddai’r pontŵns dipyn o bellter i ffwrdd
o’r gwaddod a oedd wedi casglu;
·
Byddai’r ‘laterals’ yn cael eu
claddu, gyda 2 un ochr a 4 ar yr
ochr arall;
·
Ei fod yn deg i Glwb
Hwylio Madog dalu’r costau pe byddai
angen symud cadwyni a.y.b. yn yr harbwr
er mwyn galluogi
i’r cynllun gael ei wireddu;
·
Byddai un angorfa ar gael am ddim i
gwch y Dwyfor;
·
Byddai digon o le i lansio’r bad achub bach ar y llithrfa.
Nododd yr Uwch Reolwr Economi
a Chymuned bod angen dadansoddi a gwirio’r data technegol a gyflwynwyd yn y llythyr gan
‘Intermarine’ o ran cryfder
ac addasrwydd y strwythur.
Nododd aelod nad oedd
ganddo wrthwynebiad i’r bwriad pe
byddai nifer yr angorfeydd yn
yr harbwr yn aros yr
un fath.
Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
bod angen ystyried effaith y newidiadau ar ddefnyddwyr eraill.
Nodwyd cefnogaeth y
Pwyllgor i gynllun Clwb Hwylio Madog mewn egwyddor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod yng nghyswllt gwaith gwella'r rheiliau rhwng yr Amgueddfa
Forwrol a chefn y Ganolfan a’r bwriad
i osod giât,
cadarnhaodd Harbwr Feistr Porthmadog bod trafodaethau wedi eu cynnal efo’r
Ganolfan a bod materion wedi codi o’r
trafodaethau.
Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden yr angen i
sicrhau nad
oedd cerbydau yn parcio o flaen
y giât oherwydd yr angen am fynediad
brys. Mewn ymateb, cadarnhaodd Harbwr Feistr Porthmadog
ni chaniateir
parcio o flaen y giât.
Cyfeiriodd aelod
at lwyddiant digwyddiad Hwyl yr Harbwr
a oedd yn
ffrwyth gwaith sylweddol. Nododd ei diolchiadau i’r Harbwr Feistr
a’r tîm gan
nodi y gobeithir cynnal mwy o ddigwyddiadau
yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: